Moses Griffith

arlunydd mewn dyfrlliw

Arlunydd Cymraeg oedd Moses Griffith (25 Mawrth 1747 - 11 Tachwedd 1819).[1][2] Ganed ef ym mhentref Trygarn, gerllaw Bryncroes ym Mhen Llŷn. Cafodd ychydig o addysg yn ysgol rad Botwnnog. Yn 1769, yn 22 oed, cyflogwyd ef fel gwas gan Thomas Pennant. Cyn hir sylweddolodd Pennant fod ganddo dalent fel arlunydd, ac aeth Pennant a Griffith gydag ef ar ei deithiau, er mwyn iddo fedru paratoi lluniau ar gyfer ei lyfrau. Ei waith ef yw'r ysgythriadau mewn cyfrolau megis Tours in Wales.[3] Wedi i Thomas Pennant farw 1798 bu Moses Griffith yn gweithio i'w fab, David Pennant. Mae cryn nifer o luniau dyfrlliw o'i waith ar gael, er enghraifft yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac yn yr Amgueddfa Brydeinig ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.

Moses Griffith
Paentiad gan Moses Griffith a gyhoeddwyd yn A tour in Wales gan Thomas Pennant (1726-1798)
Ganwyd25 Mawrth 1747 Edit this on Wikidata
Bryncroes Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 1819 Edit this on Wikidata
Downing Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharlunydd, engrafwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Bu farw ar 11 Tachwedd 1819 a chladdwyd ef ym mynwent Capel Chwitffordd, Sir Fflint.[4] Lleolir ei fedd wrth wal ffin gogleddol y fynwent ac mae plac diweddar yno.[5]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau