Mitcheldean
Tref a phlwyf sifil yn Swydd Gaerloyw, De-orllewin Lloegr, ydy Mitcheldean.[1] Mae'r elfen "Mitchell" yn enw'r dref yn deillio o "Michael", ar ôl Eglwys Sant Mihangel, ar un adeg ei hadeilad mwyaf nodedig. Lleolir y dref ar ymyl ogleddol Fforest y Ddena, ger y ffin â Swydd Henffordd.
![]() | |
Math | tref, plwyf sifil ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Fforest y Ddena |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Gaerloyw (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8646°N 2.4904°W ![]() |
Cod SYG | E04004314 ![]() |
Cod OS | SO663185 ![]() |
Cod post | GL17 ![]() |
![]() | |
Lleolir y plwyf sifil Mitcheldean yn ardal an-fetropolitan Fforest y Ddena, ac mae'n cynnwys y pentref Abenhall. Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,783.[2]
Yn yr Oesoedd Canol roedd Mitcheldean yn dref farchnad. Wedyn daeth yn gymuned ffyniannus oherwydd y dyddodion mwyn haearn gerllaw. Sefydlwyd gefeiliau a diwydiannau ysgafn eraill yn y dref. Erbyn y 18g roedd yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu pinnau. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol, dirywiodd pwysigrwydd y dref, ond yn y 19g tyfodd y dref ar arian a enillwyd gan y diwydiant bragu lleol. Ar ôl yr Ail Ryfel Byd daeth ffatri llungopiwyr Rank Xerox yn gyflogwr pwysig, gyda thua 5,000 o weithwyr ar ei hanterth, nes iddi gael ei chau o'r diwedd yn 2003 ar ôl cyfnod hir o ddirywiad. Mae llawer o hen safle Rank Xerox (bellach wedi'i hailenwi'n "Vantage Point Business Village") yn cael ei feddiannu gan fusnesau bach.
- Eglwys San Mihangel a'r Holl Anghylion
- The Mews (Bragdy Wintle yn wreiddiol), adeilad yn Vantage Point Business Village
- Neuadd y dref (yr hen farchnaty), pencadlys y plwyf sifil
- Siopau yn High Street
Cyfeiriadau
Dolen allanol
- (Saesneg) "Mitcheldean"; Gwefan British History Online
Dinas
Caerloyw
Trefi
Berkeley · Bradley Stoke · Cinderford · Cirencester · Coleford · Cheltenham · Chipping Campden · Chipping Sodbury · Dursley · Fairford · Filton · Lechlade · Lydney · Minchinhampton · Mitcheldean · Moreton-in-Marsh · Nailsworth · Newent · Northleach · Painswick · Patchway · Quedgeley · Stonehouse · Stow-on-the-Wold · Stroud · Tetbury · Tewkesbury · Thornbury · Winchcombe · Wotton-under-Edge · Yate