Marwolaeth Peter Connelly
- Erthygl
- Sgwrs
Bachgen 17 mis oed oedd Peter Connelly (a elwir hefyd yn "Babi P", "Plentyn A") (1 Mawrth 2006 - 3 Awst 2007) fu farw yn Llundain o ganlyniad i dros 50 o anafiadau dros gyfnod o wyth mis.
Cafwyd Tracey Connelly (mam Peter), ei chariad Steven Barker, a Jason Owen (brawd Barker) yn euog o achosi neu ganiatáu marwolaeth plentyn.[1]
Bu beirniadaeth lym o wasanaethau plant Haringey o ganlyniad i farwolaeth Peter Connelly a phryder dros ofal plant yn weddill y Deyrnas Unedig.[2][3]