Marwnad yr Ehedydd
Mae "Marwnad yr Ehedydd" yn gân werin draddodiadol a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar ffurf un pennill sengl gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn 1914.[1] Priodolwyd y gân i Edward Vaughan, Plas-rhiw-Saeson, a gasglwyd gan Soley Thomas.
Enghraifft o'r canlynol | cân werin ![]() |
---|---|
Cyhoeddwr | Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ![]() |
Iaith | Cymraeg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1914 ![]() |
Bu dyfalu ei bod yn un o'r caneuon hynaf sy'n bodoli yn y Gymraeg, oherwydd gall yr ehedydd yn y gân fod yn gyfeiriad mewn cod at Owain Glyndŵr ac y gallai un o'i ddilynwyr fod wedi'i hysgrifennu. Mae'r pennill sengl wedi ei 'ffrwydro'[2] i ganeuon hirach o leiaf bedair gwaith. Y cyntaf oedd gan Enid Parry, [3][4] pan ychwanegwyd tri phennill arall, am adar eraill. Cyhoeddwyd ei geiriau hi hefyd mewn dau lyfr o ganeuon gwerin Cymraeg.[5] [6]
![\relative c'' { \time 2/4 \key a \minor \tempo 4 = 60 \set Score.tempoHideNote = ##t\partial 16*2 c16 d16 % 0e8 c d b % 1c a r8 c16 d16 % 2e8 c d b % 3c a r16 a16 a b % 4c8 c b b % 5a b c d % 6e e d c % 7b b\fermata r16 a16 a b % 8c8 a b gis % 9a a4 \bar "|." % 10} \addlyrics {Mi a gly -- wais fod yr 'he -- dydd we -- di ma -- rw ar y my -- nydd;Pe gwy -- ddwn i mai gwir y gei -- riau,Awn â gyrr o wyr ac ar -- fauI gyr -- chu corff yr he -- dydd a -- drau.}](http://upload.wikimedia.org/score/9/f/9fy8xoaeptymus51m5oztvaucjf5xw5/9fy8xoae.png)
Ysgrifennwyd ail fersiwn gan Albert Evans-Jones (enw barddol Cynan),[7] ychwanegu pedwar pennill eto am adar eraill.
Defnyddiwyd yr ail fersiwn yma gan Bryn Terfel ar CD[8], a gan Arfon Gwilym ar gyfer Trac Cymru (Datblygu Gwerin Cymru).[9]
Defnyddir alaw wedi ei haddasu ychydig, o'i chymharu â'r recordiad maes gwreiddiol, mewn rhai cyhoeddiadau a recordiadau.[10]
![\relative c'' { \time 2/4 \key a \minor \tempo 4 = 60 \set Score.tempoHideNote = ##t\partial 16*2 a16 b16 % 0c8 a b g % 1a a4 a16 b % 2c8 a b g % 3a a r16 a16 a16 b % 4c8 c b b % 5a b c d % 6e e d c % 7c b r16 a a b % 8c8 a b g % 9a a4 \bar "|." % 10}](http://upload.wikimedia.org/score/r/y/ry1iek12peihdy6coq7jrjpziqtfklc/ry1iek12.png)
Yn 1979, creodd Myrddin ap Dafydd drydedd fersiwn o'r geiriau, yn seiliedig ar y syniad ei fod am Glyndŵr, ar gyfer y grŵp gwerin Plethyn a'i rhyddhaodd ar gasét o'r enw 'Blas y Pridd', ac wedi hynny yn 1990 ar gryno ddisg.[11]
Yn ystod dathlu 600 mlwyddiant gwrthryfel Glyndŵr, ysgrifennodd Myrddin ap Dafydd bedwaredd fersiwn gan ychwanegu pum pennill i'r gwreiddiol, o'r enw 'Mawl yr Ehedydd'.[12]