Mafon cochion

Planhigyn pigog gyda ffrwyth coch a blasus ydy mafon cochion (Lladin:Rubus idaeus a'i berthnasau; Saesneg: Raspberry) sy'n tyfu mewn hen erddi, neu'n cael eu tyfu'n bwrpasol am eu ffrwyth melys. Mae'r gair 'mafon cochion' yn cyfeirio at y ffrwyth a'r planhigyn.

Ffrwyth mafon cochion

Mathau

Ceir sawl math ohonynt gan gynnwys:

  • Rubus arcticus (Arctic Raspberry)
  • Rubus crataegifolius (Korean Raspberry)
  • Rubus idaeus (llwyn mafon, European Red Raspberry)
  • Rubus leucodermis (Whitebark neu Western Raspberry)
  • Rubus occidentalis (Black Raspberry)
  • Rubus odoratus (llwyn mafon pêr, Flowering Raspberry)
  • Rubus phoenicolasius (Wine Raspberry or Wineberry)
  • Rubus strigosus (American Red Raspberry)

Tyfu

Mae planhigion mafon cochion yn awchu am ddau beth: dŵr a haul. Yn draddodiadol yng nghanol yr haf yn unig y gwelwyd y planhigyn yn dwyn ffrwyth; erbyn heddiw maent yn cael eu tyfu yng ngwledydd Prydain drwy'r flwyddyn.

Mae'r wenynen fêl wrth ei bodd yn chwilio am neithdar ym mlodau'r planhigyn hwn.

Rhinweddau meddygol

Maethynau mewn mafon cochion sydd heb eu coginio[1]
MaethGwerth yn ôl pob 123 gram% Gwerth Dyddiol
Egni64 kcal
Ffibr, cyfanswm8 g32%
Siwgwr, cyfanswm5.4 g
Calsiwm, Ca30.7 mg3%
Magnesiwm, Mg27.1 mg7%
Haearn, Fe0.8 mg5%
Manganîs, Mn0.8 mg41%
Potasiwm, K186 mg5%
Sodiwm, Na1.2 mg0%
Fitamin C, cyfanswm Asid asorbig32.2 mg54%
Fitamin A, IU40.6 IU1%
Fitamin K, mcg9.6 mcg12%
Ffolat, mcg25.8 mcg6%
Lutin + zeaxanthin167 mcgne

ne: Gwerth dyddiol: heb ei ddarganfod hyd yma

Honir fod y dail yn gwella llwnc tost, (dolur gwddw) ac wlsers ceg.[2] Mae dail y planhigyn hwn yn llawn tannin (fel aelod arall o'r teulu, sef mwyar duon), ac felly'n medru gwella dolur rhydd. Fe'i defnyddir yn draddodiadol i baratoi merch ar gyfer geni plentyn, rhag i broblemau godi, ac fe'i defnyddir hefyd pan fo misglwyf trwm ar ferch.[3]

Cyfeiriadau

Gweler hefyd