Macroiaith

Safon ryngwladol dros godau ieithoedd yw ISO 639-3. Wrth ddiffinio codau rhai o'r ieithoedd, mae'n rhoi'r term macroiaith ar achosion sydd ar y ffin rhwng bod yn dafodieithioedd gwahanol dros ben ac yn ieithoedd cytras iawn (cotinwwm ieithyddol) ac ar amrywiadau llafar sydd wedi'u hystyried naill ai'n un iaith neu'n ieithoedd gwahanol oherwydd rhesymau ethnig neu wleidyddol yn hytrach na rhai ieithyddol.

Macroiaith
Enghraifft o'r canlynollanguoid class Edit this on Wikidata
Mathcod iaith Edit this on Wikidata
GweithredwrSIL International Edit this on Wikidata

Ceir 56 o ieithoedd yn ISO 639-2 a ystyrir yn facroieithoedd yn ISO 639-3.[1] Defnyddir y categori "macroiaith" yn 16eg argraffiad Ethnologue hefyd.[2]

Nid oedd gan rai o facroieithoedd ISO 639-2 ieithoedd unigol yn ISO 639-3, e.e ara (Arabeg). Roedd gan eraill fel nor (Norwyeg) ddwy ran unigol (nno Nynorsk, nob Bokmål) eisoes yn 639-2. Mae hyn yn golygu bod rhai ieithoedd (e.e. arb Arabeg Safonol) a ystyrid yn dafodieithoedd un iaith (ara) gan ISO 639-2 yn awr yn ieithoedd unigol mewn rhai cyd-destunau yn ISO 639-3. Dyma 639-3 yn ceisio trin amrywiadau sydd efallai'n ieithyddol wahanol i'w gilydd, ond y mae'u siaradwyr yn eu gweld yn ffurfiau ar yr un iaith, e.e. yn achosion deuglosia, e.e. Arabeg Cyffredinol (639-2) [3] ac Arabeg Safonol (639-3).[4]


Mathau o facroieithoedd

  • elfen nad oes ganddi god ISO 639-2: 1 - hbs
  • elfennau â dwy god ISO 639-2: 4 - fas, msa, sqi, zho
  • elfennau heb godau ISO 639-1: 25
  • elfennau heb godau ISO 639-1: 30
  • elfennau y mae gan eu hieithoedd unigol godau ISO 639-1: 2
    • nor - nn, nb
    • hbs - hr, bs, sr

Rhestr o facroieithoedd

Dim ond data swyddol oddi ar http://www.sil.org/iso639-3 sydd yn y rhestr hon.

ISO 639-1ISO 639-2ISO 639-3Nifer yr ieithoedd unigolEnw'r facroiaith
akakaaka2Acaneg
araraara30Arabeg
ayaymaym2Aimareg
azazeaze2Aserbaijaneg
(-)balbal3Balwtshi
(-)bikbik5Bicol
(-)buabua3Bwriat
(-)chmchm2Mari (Rwsia)
crcrecre6Cri
(-)deldel2Delaware
(-)denden2Slavey (Athapasgaidd)
(-)dindin5Dinka
(-)doidoi2Dogri
etestest2Estoneg
fafas/perfas2Perseg
fffulful9Ffwla
(-)gbagba5Gbaya (Gweriniaeth Canolbarth Affrica)
(-)gongon2Gondi
(-)grbgrb5Grebo
gngrngrn5Gwarani
(-)haihai2Chaida
(-)[5](-)hbs3Serbo-Croateg
(-)hmnhmn21Hmong
iuikuiku2Inuktitut
ikipkipk2Inupiaq
(-)jrbjrb5Iddew-Arabeg
krkaukau3Kanuri
(-)kokkok2Konkani
kvkomkom2Komi
kgkonkon3Kongo
(-)kpekpe2Kpelle
kukurkur3Cyrdeg
(-)lahlah8Lahnda
(-)manman7Mandingo
mgmlgmlg10Malagaseg
mnmonmon2Mongoleg
msmsa/maymsa36Maleieg
(-)mwrmwr6Marwari
nonornor2Norwyeg
ojojioji7Ojibwe
omormorm4Oromo
pspuspus3Pashto
ququeque44Cetshwa
(-)rajraj6Rajasthani
(-)romrom7Romani
sqsqi/albsqi4Albaneg
scsrdsrd4Sardeg
swswaswa2Swahili language
(-)syrsyr2Syrieg
(-)tmhtmh4Tamashek
uzuzbuzb2Wsbeceg
yiyidyid2Iddew-Almaeneg
(-)zapzap58Zapotec
zazhazha16Zhuang
zhzho/chizho13Tsieineeg

Ystyrir yr iaith Dungan (dng) yn agosach at Fandarin, ond nid yw ar y rhestr hon yn ISO 639-3 oherwydd datblygiadau hanesyddol a diwylliannol gwahanol.[6]

Er bod ISO 639 yn rhestru codau am Hen Tsieineeg (och) a Tsieineeg Canol Diweddar (ltc), nid ydynt o dan Tsieineeg ar restr ISO 639-3 gan fod y naill yn iaith hynafol a'r llall yn iaith hanesyddol.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol