Môr-wennol gyffredin

rhywogaeth o adar
Môr-wennol gyffredin
Sterna hirundo

, ,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Charadriiformes
Teulu:Laridae
Genws:Sterna[*]
Rhywogaeth:Sterna hirundo
Enw deuenwol
Sterna hirundo
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Môr-wennol gyffredin (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: môr-wenoliaid cyffredin) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Sterna hirundo; yr enw Saesneg arno yw Common tern. Mae'n perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn S. hirundo, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yng Ngogledd America, Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia. Ar ôl nythu mae'n symud tua'r de i aeafu.

Gwyn yw'r rhan fwyaf o'r plu, gyda llwyd ar y cefn ac ar ran uchaf yr adenydd. Mae'r pig yn goch gydag arlliw oren, a darn tywyll ar y blaen, yn wahanol i Fôr-wennol y Gogledd sydd â phig goch dywyll. Mae gan Forwennol y Gogledd gynffon hirach a choesau byrrach hefyd. Mae'r Forwennol Gyffredin rhwng 34 a 37 cm o hyd a 70–80 cm ar draws yr adenydd. Yn yr haf mae cap du ar y pen, ond yn y gaeaf mae'r talcen yn troi'n wyn.

Fe'i gwelir ar arfordir Cymru hefyd.

Teulu

Mae'r môr-wennol gyffredin yn perthyn i deulu'r Gwylanod (Lladin: Laridae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaethenw tacsondelwedd
Chroicocephalus bulleriChroicocephalus bulleri
Chroicocephalus cirrocephalusChroicocephalus cirrocephalus
Gwylan BonaparteChroicocephalus philadelphia
Gwylan HartlaubChroicocephalus hartlaubii
Gwylan SaundersChroicocephalus saundersi
Saundersilarus saundersi
Gwylan arianChroicocephalus novaehollandiae
Gwylan bendduChroicocephalus ridibundus
Gwylan benfrown De AmericaChroicocephalus maculipennis
Gwylan benfrown IndiaChroicocephalus brunnicephalus
Gwylan ylfinfainChroicocephalus genei
Gwylan yr AndesChroicocephalus serranus
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Sterna hirundo hirundo

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Safonwyd yr enw Môr-wennol gyffredin gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.