Lynda Baron
Roedd Lilian Baron (24 Mawrth 1939 – 5 Mawrth 2022), a elwir yn broffesiynol fel Lynda Baron yn actores, digrifwr a chantores Seisnig. Roedd hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Nyrs Gladys Emmanuel yng nghyfres gomedi'r BBC Open All Hours (1976–1985) a'i dilyniant, Still Open All Hours (2013–2016). Chwaraeodd y rhan Auntie Mabel yn y gyfres i blant Come Outside (1993–1997), a rhan Linda Clarke yn EastEnders yn 2006 ac o 2008 i 2009, gyda dychweliad byr yn 2016.
Lynda Baron | |
---|---|
Ganwyd | Lilian Baron ![]() 24 Mawrth 1939 ![]() Urmston ![]() |
Bu farw | 5 Mawrth 2022 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | actor ![]() |
Cafodd Baron ei geni yn Urmston, Swydd Gaerhirfryn. [1] Hyfforddodd yn wreiddiol fel dawnswraig yn yr Academi Ddawns Frenhinol.[1]
Ym 1987, serennodd Baron yng nghynhyrchiad Llundain o'r sioe gerdd Follies yn Theatr Shaftesbury. Yn 2007, roedd hi'n serennu gydag Orlando Bloom a Tim Healy mewn fersiwn llwyfan o In Celebration.[2] Ym mis Mai a Mehefin 2009, ymddangosodd yn y Menier Chocolate Factory mewn cynhyrchiad o Rookery Nook gan Ben Travers.[3]
Bu farw yn 82 oed.[4]
Teledu
- The Rag Trade (1962)
- Open All Hours (1976–1985)
- Oh No It's Selwyn Froggitt (1977)
- Last of the Summer Wine (1983)
- Come Outside (1993–1997)
- Dinnerladies (1998)
- Fat Friends (2002–2005)
- Doctors (2010)
- Still Open All Hours (2013–2016)
- EastEnders (2006–2009)