Luo (pobl)

Grŵp ethnig neu ieithyddol yn nwyrain Affrica yw'r Luo neu Lwo. Maent yn byw mewn tiriogaeth sy'n ymestyn o dde Swdan ac Ethiopia hyd ogledd Wganda a dwyrain Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo a gorllewin Cenia. Maent yn siarad iaith Nilotig, is-deulu o'r ieithoedd Nilo-Saharaidd.

Credir eu bod yn deillio yn wreiddiol o dde Swdan. Geilw y Luo sy'n byw yng Nghenia eu hunain yn Joluo. Yn 1994, roedd eu poblogaeth yn 3,185,000, y trydydd fwyaf o grwpiau ethnig Cenia. Roedd tad Barack Obama yn aelod o'r adran yma o'r Luo.

Is-grwpiau Luo

  • Shilluk (Swdan)
  • Pari (Swdan)
  • Thur (Swdan)
  • Alur (Wganda a GDC)
  • Acholi (Swdan ac Wganda)
  • Lango (Wganda)
  • Kumam (Wganda)
  • Jopadhola (Wganda)
  • JoLuo (Cenia a Tansanïa)
  • Jo-Luo (Swdan)
  • Anuak (Ethiopia, Swdan)
  • Maban (Swdan)
  • Funj (Swdan)
  • Jumjum (Swdan)
  • Blanda Boore (Swdan)
  • Jonam (Wganda)
  • (Shat) Swdan

Pobl enwog o dras Luo