Leslie Nielsen

Actor a digrifwr Canadaidd-Americanaidd oedd Leslie William Nielsen, OC (11 Chwefror 192628 Tachwedd 2010). Ymddangosodd mewn dros gant o ffilmiau gan gynnwys Forbidden Planet, The Poseidon Adventure, Airplane!, cyfres The Naked Gun, a Dracula: Dead and Loving It, a thros 1500 o raglenni teledu.

Leslie Nielsen
GanwydLeslie William Nielsen Edit this on Wikidata
11 Chwefror 1926 Edit this on Wikidata
Regina Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 2010 Edit this on Wikidata
Fort Lauderdale Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Neighborhood Playhouse School of the Theatre
  • Victoria School of Performing and Visual Arts Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, digrifwr, cynhyrchydd ffilm, actor llais Edit this on Wikidata
Arddully Gorllewin Gwyllt, comedi Edit this on Wikidata
PriodMonica Boyar, Alisande Ullman Edit this on Wikidata
Gwobr/auSwyddog Urdd Canada, Gwobr 'Walk of Fame' Canada, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, ACTRA Award Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar

Ganwyd Nielsen yn Regina, Saskatchewan.[1] Roedd ei fam, Mabel Elizabeth (née Davies), yn mewnfudwr o Gymru a'i dad, Ingvard Eversen Nielsen (1900–1975), a anwyd yn Denmarc, yn gwnstabl gyda March-Heddlu Brenhinol Canada.[2][3][4] Roedd Nielsen yr ail o dri bachgen. Roedd yr hynaf, Erik Nielsen (1924–2008), yn Aelod hir-dymor o Senedd Canada, gweinidog cabinet a Dirprwy Prif Weinidog Canada rhwng 1984 a 1986.[5]

Cyfeiriadau


Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Ganadiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.