John Mahoney (actor)

Roedd Charles Jonathan "John" Mahoney (20 Mehefin 19404 Chwefror 2018) yn actor Eingl-Americanaidd. Mae'n cael ei gofio'n bennaf am chwarae rhan Martin Crane yn y comedi sefyllfa Americanaidd Frasier rhwng 1993 a 2004.[1]

John Mahoney
GanwydCharles Jonathan Mahoney Edit this on Wikidata
20 Mehefin 1940 Edit this on Wikidata
Blackpool Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 2018 Edit this on Wikidata
o cancr y pen a'r gwddf Edit this on Wikidata
Chicago Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St Mary's Catholic Academy
  • Prifysgol Quincy Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, canwr, actor llais, digrifwr, actor teledu, actor ffilm, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr y 'Theatre World', Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, Clarence Derwent Awards Edit this on Wikidata
Mae'r erthygl hon am yr actor Eingl-Americanaidd, am y beldroediwr Cymreig gweler John Mahoney

Cefndir

Ganwyd Mahoney yn Blackpool, Swydd Gaerhirfryn, ar 20 Mehefin 1940. Roedd ei deulu yn hanu o Fanceinion ond wedi symud i Blackpool fel faciwîs adeg yr Ail Ryfel Byd.[2] Cafodd ei addysgu yng Ngholeg St Mary's, Blackpool am gyfnod cyn i'w deulu ddychwelyd i ardal Withington o Fanceinion wedi i'r rhyfel orffen. Wedi darfod ei addysg eilradd symudodd Mahoney i Illinois yn yr Unol Daleithiau, lle'r oedd ei chwaer eisoes wedi sefydlu wedi iddi briodi milwr Americanaidd yn ystod y Rhyfel. Wedi cyrraedd yr America aeth yn fyfyriwr i Brifysgol Quincy, Illinois.

Gyrfa

Ymunodd Mahoney â byddin yr Unol Daleithiau, yn bennaf fel modd i sicrhau dinasyddiaeth Americanaidd. Fe'i gwnaed yn ddinesydd ym 1959.[3] Bu'n byw yn Macomb, Illinois, gan ennill ei damaid yn dysgu Saesneg ym Mhrifysgol Western Illinois yn y 1970au cynnar, cyn ymgartrefu yn Forest Park, Illinois, ac wedi hynny yn Oak Park, Illinois. Bu'n olygydd cyfnodolyn meddygol trwy lawer o'r ddegawd.

Gyrfa fel actor

Dechreuodd actio'n broffesiynol ym 1977 gan ymuno â chwmni Steppenwolf Theatre.[4] Enillodd Wobr Clarence Derwent am yr Actor Theatr Newydd Mwyaf Addawol am ei ran yn y ddrama Orphans gan Lyle Kessler. Enillodd wobr Tony ar gyfer yr Actor Nodwedd Gorau am ei berfformiad Broadway yn The House of Blue Leaves gan John Guare.

Ei rôl ffilm fawr gyntaf oedd yn Tin Men ym 1987. Bu wedyn mewn nifer o ffilmiau eraill gan gynnwys Eight Men Out, Say Anything..., In the Line of Fire, Reality Bites, a The American President. Ymddangosodd mewn dau o ffilmiau'r brodyr Coen, Barton Fink a The Hudsucker Proxy.[5][6]

Frasier

Ymddangosodd Mahoney yn y gyfres comedi sefyllfa Frasier o'i bennod gyntaf ym 1993 hyd y bennod olaf yn 2004. Roedd yn chwarae rhan Martin Crane, cyn-filwr a chyn ditectif heddlu wedi ymddeol, a thad y brif gymeriad Frasier Crane a'i frawd Niles.[7] Derbyniodd ddau enwebiad Emmy a ddau enwebiad Golden Globe am chwarae'r rhan.

Marwolaeth

Bu farw Mahoney ar 4 Chwefror 2018 tra dan ofal hosbis yn Chicago, yn 77 mlwydd oed.[8][9]

Ffilmyddiaeth

BlwyddynTeitlRôlNodiadau
1982Mission Hill
1985Code of SilenceProwler Representative
1986The Manhattan ProjectLt. Col. Conroy
Streets of GoldLinnehan
1987SuspectJudge Matthew Bishop Helms
Tin MenMoe Adams
MoonstruckPerry
1988FranticWilliams, U.S. Embassy Official
BetrayedShorty
Eight Men OutWilliam 'Kid' Gleason
1989Say Anything...James Court
1990Love HurtsBoomer
1990The Russia HouseBrady
1990The ImageIrv Mickelson
1991Barton FinkW. P. Mayhew
1992Article 99Dr. Henry Dreyfoos
1993In the Line of FireSam Campagna
1993Striking DistanceCapt. Vince Hardy
1994A Hard RainRoss StewartShort film
1994Reality BitesGrant Gubler
1994The Hudsucker ProxyChief
1995The American PresidentLeo Solomon
1996Primal FearShaughnessy
1996She's the OneMr. Fitzpatrick
1996Mariette in EcstasyDr. Claude Baptiste
1998AntzGrebsVoice
1999The Iron GiantGeneral Kenneth Rogard
2000The Broken Hearts Club: A Romantic ComedyJack
2001Almost SalinasMax Harris
2001Atlantis: The Lost EmpirePreston B. WhitmoreVoice
2003Atlantis: Milo's ReturnWhitmoreVoice
2005Kronk's New GroovePapiVoice
2007Dan in Real LifePoppy
2010FlippedChet Duncan

Teledu

BlwyddynTeitlRôl
1982Chicago StoryLt. Roselli
1985Lady BlueCapt. Flynn
1986Trapped in SilenceDoctor Winslow
1987Saturday Night LiveFast Eddie Felson / Paul Newman
1987American PlayhouseArtie Shaughnessy
1988Favorite SonLou Brenner
1990H.E.L.P.Chief Patrick Meacham
1992The Human FactorDr. Alec McMurtry
1992The Water EngineMason Gross
1992ScreenplayWalter Partin
1992CheersSy Flembeck
1992Unnatural PursuitsPaddy Quinn
1993–2004FrasierMartin Crane
BiographyNarrator
19963rd Rock from the SunDr. Leonard Hamlin
1997Tracey Takes On...Jeffrey Ayliss
1998Nothing SacredVince Reyneaux
2000BeckerFather Joe D'Andrea
2000Teacher's PetNarrator / Tim Tim Tim (voice)
2003Gary the RatSteele (voice)
2005Fathers and SonsGene
2006ERBennett Cray
2007MobstersNarrator
2007The SimpsonsDr. Robert Terwilliger, Sr. (voice)
2009In TreatmentWalter Barnett
2009, 2010Burn NoticeManagement
2010$#*! My Dad SaysLt. Col. Wally Durham
2011, 2014Hot in ClevelandRoy
2015Foyle's WarAndrew Del Mar

Cyfeiriadau