Jimmy Sangster

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilm a aned yn Kinmel Bay yn 1927

Roedd James Henry Kinmel Sangster (2 Rhagfyr 1927 - 19 Awst 2011) yn sgriptiwr sgrin a chyfarwyddwr Cymreig. Mae'n fwyaf enwog am ei waith ar y ffilmiau arswyd cychwynnol a wnaed gan y cwmni Prydeinig Hammer Films, gan gynnwys The Curse of Frankenstein (1957) a Dracula (1958 ).[1]

Jimmy Sangster
Ganwyd2 Rhagfyr 1927 Edit this on Wikidata
Bae Cinmel Edit this on Wikidata
Bu farw19 Awst 2011 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ewell Castle School Edit this on Wikidata
Galwedigaethsgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

Yn fab i werthwr tai, ganwyd Sangster ym Mae Cinmel. Rhoddwyd "Kinmel" fel un o'i enwau iddo, gan mae ef oedd y baban cyntaf i'w eni yn y dref.[2] Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Castell Ewell. Dechreuodd ei yrfa ffilm, yn 16 oed, fel bachgen y clapfwrdd.[3]

Ar ôl gwasanaethu gyda'r Awyrlu Brenhinol, yn India ar gyfer ei Wasanaeth Cenedlaethol,[4] gweithiodd fel trydydd cyfarwyddwr cynorthwyol ar gynyrchiadau Ealing Studios, yna ymunodd â Exclusive Studios (Hammer Films yn ddiweddarach) ym 1949.

Gyrfa

Yn wreiddiol, bu Sangster yn gweithio fel cynorthwyydd cynhyrchu yn Hammer Films, yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr cynorthwyol, cyfarwyddwr ail uned a rheolwr cynhyrchu. Ar ôl llwyddiant Hammer gyda The Quatermass Xperiment, gofynnwyd iddo ysgrifennu X the Unknown, ac atebodd iddo "Nid ydwyf yn awdur. Rwy'n rheolwr cynhyrchu." Ymateb Hammer Films oedd: "Wel, os gynigiwch chi gwpl o syniadau os ydym yn eu hoffi, cewch eich talu. Os nad ydym yn eu hoffi, cewch chi ddim mo'ch talu. Rydych yn cael eich talu fel rheolwr cynhyrchu, felly ni allwch gwyno." Yn ddiweddarach bu Sangster yn cyfarwyddo gan gychwyn gyda The Horror of Frankenstein a Lust for a Vampire (y ddau ym 1970) ar gyfer y stiwdio, ond gyda llawer llai o lwyddiant. Ei drydedd ffilm (a’r olaf) fel cyfarwyddwr oedd Fear in the Night (1972), a atgyfododd y ffilm gyffro seicolegol menyw-mewn-perygl yr oedd wedi dechrau gyda’i sgript ar gyfer Taste of Fear (1961). Roedd pob un o'r tair ffilm a gyfarwyddodd yn cynnwys yr actor Ralph Bates, ffrind i Sangster ac un o berfformwyr mwyaf adnabyddus cwmni Hammer i'r cwmni yn ystod y 1970au.[5]

Bu Sangster yn sgriptio a chynhyrchu dwy ffilm ar gyfer Bette Davis, The Nanny (1965) a The Anniversary (1968).[6] Roedd ei gredydau ysgrifennu sgriptiau eraill yn cynnwys The Siege of Sidney Street (1960), a oedd yn serennu Donald Sinden ac yn cynnwys cameo o Sangster fel Winston Churchill. Mae ei gredydau sgriptiau sgrin teledu niferus yn cynnwys Kolchak: The Night Stalker, Movin 'On, The Magician, BJ and the Bear, Most Wanted, Ironside, McCloud, The Six Million Dollar Man a Wonder Woman.

Nofelydd

Roedd Sangster hefyd yn awdur y nofelau [7] Touchfeather, Touchfeather, Too; Foreign Exchange, Private I (neu The Spy Killer ), Snowball, Hardball, a Blackball, y mae pob un ohonynt wedi cael eu hailgyhoeddi gan Brash Books . Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys y nofel Your Friendly Neighbourhood Death Peddler, y cofiant ffeithiol Do You Want it Good or Tuesday? [8] a llawlyfr ysgrifennu i'r sgrin 2003, Screenwriting: Techniques for Success [9] . Yn 2019, cyhoeddodd Brash Books eu bod wedi darganfod nofel gan Sangster nas cyhoeddwyd o'r blaen, Fireball, y byddant yn ei rhyddhau yn 2020.

Bywyd personol

Bu farw Sangster ar 19 Awst 2011,[10] a goroeswyd ef gan ei drydedd wraig, yr actores Mary Peach; mab o briodas gynharach, Mark James Sangster;[1] a dau o wyrion, Claire ac Ian Sangster.

Ffilmograffeg

Fel cyfarwyddwr
BlwyddynTeitlNodiadau
1970The Horror of FrankensteinHefyd yn gynhyrchydd a chyd-ysgrifennwr
1971Lust for a Vampire
1972Fear in the NightHefyd yn gynhyrchydd a chyd-ysgrifennwr
Fel ysgrifennwr sgrin
BlwyddynTeitlNodiadau
1955A Man on the Beach
1956X the Unknown
1957The Curse of Frankenstein
1958Dracula
1958The Revenge of Frankenstein
1958Intent to Kill
1958The Snorkel
1958Blood of the Vampire
1958The Crawling Eye
1959Jack the Ripper
1959The Man Who Could Cheat Death
1959The Mummy
1960The Brides of Dracula
1960The Siege of Sidney Street
1961The Hellfire Club
1961The Terror of the Tongs
1961Scream of Fear
1962The Pirates of Blood River
1962Paranoiac
1963Maniac
1964Nightmare
1964The Devil-Ship Pirates
1964Traitor's Gate
1965Hysteria
1965The Nanny
1966Dracula: Prince of DarknessFel John Sansom
1967Deadlier Than the Male
1968The Anniversary
1969The Spy KillerFfilm teledu
1970Foreign ExchangeFfilm teledu
1970Crescendo
1970The Horror of FrankensteinCyd-ysgrifennwr; hefyd yn gyfarwyddwr a chynhyrchydd
1971A Taste of EvilFfilm teledu
1972Fear in the NightHefyd yn gynhyrchydd a chyd-ysgrifennwr
1972Whoever Slew Auntie Roo?
1973Scream, Pretty PeggyFfilm teledu
1973ManeaterFfilm teledu
1977Good Against EvilFfilm teledu
1978The Legacy
1979The Country Western MurdersFfilm teledu
1979The Billion Dollar ThreatFfilm teledu
1979Ebony, Ivory and JadeFfilm teledu
1980Phobia
1980Once Upon a SpyFfilm teledu
1981No Place to HideFfilm teledu
1981The Devil and Max Devlin
1984The Toughest Man in the WorldFfilm teledu
1985North Beach and RawhideFfilm teledu

Cyfeiriadau

Dolenni allanol