Jane Fonda

actores a aned yn 1937

Mae Jane Fonda (ganed Lady Jayne Seymour Fonda;[1] 21 Rhagfyr 1937) yn actores, ysgrifenwraig, actifydd gwleidyddol, cyn-fodel ffasiwn a gwrw ffitrwydd. Mae wedi ennill Gwobr yr Academi dwywaith, ac yn 2014, derbyniodd wobr gan y Sefydliad Ffilmiau Americanaidd am yr hyn mae wedi cyflawni yn ystod ei bywyd.

Jane Fonda
GanwydJane Seymour Fonda Edit this on Wikidata
21 Rhagfyr 1937 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Vassar
  • Urdd Myfyrwyr Celf Efrog Newydd
  • John Thomas Dye School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, ysgrifennwr, actor llwyfan, model, actor, cynhyrchydd ffilm, actor teledu, hunangofiannydd, actor llais Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadHenry Fonda Edit this on Wikidata
MamFrances Ford Seymour Edit this on Wikidata
PriodRoger Vadim, Tom Hayden, Ted Turner Edit this on Wikidata
PartnerRichard Perry Edit this on Wikidata
PlantVanessa Vadim, Troy Garity, Mary Williams Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr y 'Theatre World', Neuadd Enwogion California, Gwobr am Gyfraniad Gydol Oes AFI, Gwobr Crystal, Commandeur des Arts et des Lettres‎, Golden Globes, Gwobr Emmy, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr 100 Merch y BBC, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Hasty Pudding Woman of the Year Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.janefonda.com Edit this on Wikidata

Gwnaeth Fonda ei debut ar Broadway yn y ddrama 1960 There Was a Little Girl, a fe'i henwebwyd am ddwy Wobr Tony, a gwnaeth ei debut ar y sgrin yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn yn Tall Story. Daeth yn amlwg ar ôl ymddangos mewn ffilmiau yn y 1960au, megis Period of Adjustment (1962), Sunday in New York (1963), Cat Ballou (1965), Barefoot in the Park (1967) a Barabella (1968). Ei gŵr cyntaf, Roger Vadim, oedd cyfarwyddwr Barbarella. Yn ystod ei gyrfa, mae wedi derbyn saith enwebiad am Wobr yr Academi, gyda'r cyntaf yn dod am ei pherfformiad yn They Shoot Horses, Don't They (1969), ac aeth yn ei blaen i ennill dwy Oscar yr Actores Orau yn y 1970au am Klute (1971) a Coming Home (1978). Fe'i henwebwyd hefyd am Julia (1977), The China Syndrome (1979), On Golden Pond (1981) a The Morning After (1986). Mae ei gwobrau eraill yn cynnwys Gwobr Emmy am y ffilm deledu 1984 The Dollmaker, dwy Wobr BAFTA am Julia a The China Syndrome a phedair Gwobr Golden Globe.

Yn 1982, rhyddhaodd ei fideo ymarfer corff cyntaf, Jane Fonda's Workout, ac aeth y fideo ymlaen i werhtu'n dda. Ef oedd y cyntaf o 22 fideo ymarfer corff a rhyddhawyd dros y 13 mlynedd nesaf, a gwerthodd dros 17 miliwn o gopïau. Yn 1991, ail-briododd Fonda i'w thrydydd gŵr, mogwl y cyfryngau, Ted Turner, wedi iddi ysgaru o'i ail ŵr Tom Hayden. Ar ôl ysgaru o Turner yn 2001, daeth yn ôl i actio wedi saib o 15 mlynedd gyda'r ffilm gomedi Monster in Law. Ers hynny, mae wedi ymddangos yn Georgia Rule (2007), The Butler (2013) a This Is Where I Leave You (2014). Yn 2009, dychwelodd i Broadway ar ôl 45 mlynedd yn y ddrama 33 Variations, a fe'i henwebwyd am Wobr Tony am y perfformiad, yn ogystal â dau enwebiad Gwobr Emmy am ei rôl gylchol yn y gyfres ddrama HBO The Newsroom (2012-2014). Rhyddhaodd pum fideo ymarfer corff arall rhwng 2010 a 2012. Yn ddiweddar mae wedi bod yn serennu yn y gyres Grace and Frankie (2015) ar Netflix.

Roedd Fonda yn actifydd gwleidyddol amlwg yn y cyfnod gwrth-ddiwylliant yn ystod Rhyfel Fietnam ac yn ddiweddar mae wedi ymgyrchu dros eiriolaeth i ferched. Tynnwyd ffotograff enwog a dadleuol ohoni yn eistedd ar gurfa wrth-awyren pan yn ymweld â Hanoi yn 1972. Mae hefyd wedi protestio yn erbyn Rhyfel Irac a thrais yn erbyn merched, ac yn disgrifio ei hunan fel ffeminydd. Yn 2005, cyd-sefydlodd Fonda, ynghyd â Robin Morgan a Gloria Steinem Canolfan y Cyfryngau i Ferched, sefydliad sy'n gweithio i fwyhau lleisiau merched yn y cyfryngau trwy eiriolaeth, hyfforddi yn y cyfryngau ac arweinyddiaeth, a chreu cynnwys gwreiddiol. Mae Fonda ar fwrdd y sefydliad ar hyn o bryd. Rhyhaodd hunangofiant yn 2005, yn ogystal â chofiant yn 2012, o'r enw Prime Time.

Ffilmyddiaeth

Ffilmiau

BlwyddynTeitlRôlNodiadau
1960Tall StoryMehefin Ryder
1962Walk on the Wild SideKitty Twist
1962The Chapman ReportKathleen Barclay
1962Period of AdjustmentIsabel HaverstickEnwebwyd-Gwobr Golden Globe am Actores Orau - Ffilm Sioe Gerdd neu Gomedi
Enwebwyd-Gwobr Laurel am Berfformiad Comedi Gorau gan Ferch
1963In the Cool of the DayChristine Bonner
1963Sunday in New YorkEileen Tyler
1964Joy HouseMelinda
1964Circle of LoveSophie
1965Cat BallouCatherine 'Cat' Ballou
1966The ChaseAnna Reeves
1966The Game Is OverReneen Saccard
1966Any WednesdayEllen Gordon
1967Hurry SundownJulie Ann Warren
1967Barefoot in the ParkCorie Bratter
1968Spirits of the DeadContessa Frederica
1968BarbarellaBarabella
1969They Shoot Horses, Don't They?Gloria Beatty
1971KluteBree Daniels
1972Tout Va BienSuzanne
1973Steelyard BluesIris Caine
1976The Blue BirdThe Night
1977Fun with Dick and JaneJane Harper
1977JuliaLillian Hellman
1978Coming HomeSally Hyde
1978Comes a HorsemanElla Connors
1978California SuiteHannah Warren
1979The China SyndromeKimberly Wells
1979The Electric HorsemanAlice 'Hallie' Martin
1980Nine to FiveJudy Bernly
1981On Golden PondChelsea Thayer Wayne
1981RolloverLee Winters
1985Agnes of GodDr. Martha Livingston
1989The Old GringoHarriet Winslow
1990Stanley & IrisIris Estelle King
2005Monster-in-LawViola Fields
2012All TogetherJeanne
2012Peace, Love and MisunderstandingGrace
2013The ButlerNancy Reagan
2014Better Living Through ChemistryCwsmer yn y fferyllfa
2014This Is Where I Leave YouHillary Altman
2015YouthBrenda More
2015Fathers and Daughters
2015Crystal

Teledu

BlwyddynTeitlRôlNodiadau
1961A String of BeadsGloria WintersFfilm deledu
1973A Doll's HouseNora HelmerFfilm deledu
19829 to 5O'NeilPennod: "The Security Guard"
1984The DollmakerGertie NevelsFfilm deledu
2012-2014The NewsroomLeona LansingRôl cylchol
2014The SimpsonsMaxine Lombard (llais)Pennod: "Opposites A-Frack"
2015Grace and FrankieGrace HansonPrif gast; hefyd yn uwch gynhyrchydd

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.