James Evan (Carneinion)
Roedd James Evan (Carneinion) (28 Mehefin 1814 – 5 Mehefin 1842) yn bregethwr ac awdur Cymreig.[1]
James Evan | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1814 ![]() Breudeth ![]() |
Bu farw | 5 Mehefin 1842 ![]() Breudeth ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | pregethwr, ysgrifennwr ![]() |
Fe'i ganwyd yn Nhreaser-fach ym mhlwyf Breudeth, Sir Benfro yn blentyn i John Evans a Martha ei wraig. Dechreuodd colli ei olwg pan oedd yn 8 mlwydd oed ac roedd yn gwbl ddall erbyn ei fod yn 14 mlwydd oed. Er ei anabledd roedd yn fedrus mewn nifer o ieithoedd, yn bregethwr lleyg gyda'r Annibynwyr ac yn awdur traethodau. Cyhoeddwyd llyfr o'i eiddo gan Rees a Thomas, Llanelli ym 1839 gyda'r teitl Y Cristion dyddorgar: neu, Lawlyfr i broffeswyr crefydd, yn dadblygu gwir ansoddau, gweithrediadol agweddau, pwysfawredd arbennig, a rheidrwydd anhebgorol yr ysbryd cristaidd hynny o ddwysofal a mawr deimlad mewn achosion crefyddol.[2] Enillodd ei draethawd am Elusengarwch yng Nghyfarfod llenyddol Cymreigyddion Castletown, Tredegar,[3] fe'i cyhoeddwyd yn yr Iforydd 8 Mehefin 1842, ychydig ddyddiau wedi ei farwolaeth.[4] Mae hanes taith a gymerodd gyda Thomas Nicholas o Drefgarn i Lerpwl ym 1838 yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Bu farw o'r diciâu yn 27 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Breudeth.[5]