Jade Jones
Blwch offer
Gweithredoedd
Cyffredinol
Argraffu / allforio
Mewn prosiectau eraill
Jones (glas) yng Ngemau Olympaidd 2012 | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwybodaeth bersonol | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enw llawn | Jade Louise Jones | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Ganwyd | (1993-03-21) 21 Mawrth 1993 (31 oed) Bodelwyddan, Cymru[1] | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Taldra | 1.7 m (5 ft 7 in) (5 ft 7 in) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Pwysau | 57 kg (126 lb) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Camp | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Gwlad | Y Deyrnas Unedig | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Chwaraeon | Taekwondo | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Camp | –57 kg | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnod o fedalau
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Diweddarwyd 20 Mai 2019. |
Chwaraewr taekwondo Cymreig yw Jade Louise Jones MBE (ganwyd 21 Mawrth 1993). Cafodd ei geni yn Bodelwyddan. Enillodd Jones y fedal aur yng nghystadleuaeth 57 kg taekwondo Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain, y tro cyntaf erioed i Brydain ennill medal aur yn y gamp[2] a llwyddodd i amddiffyn ei choron wrth gipio'r fedal aur yng Ngemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro[3].
Daeth yn bencampwraig tae kwondo y byd yn Mai 2019 drwy gipio'r fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd a gynhaliwyd ym Manceinion.[4]
Cafodd ei henwi'm Personoliaeth Chwaraeon Cymreig y Flwyddyn yn 2012[5]. Enillodd y fedal aur yng nghystadleuaeth 57 kg taekwondo yng Ngemau Olympaidd 2016 hefyd. Yng Ngemau Olympaidd 2020, collodd ei phwl agoriadol.[6]
Ganed Jones yn Bodelwyddan, Sir Ddinbych,[1] a mynychodd Ysgol Uwchradd Y fflint cyn gadael er mwyn dod yn chwaraewrwaig taekwondo proffesiynol[7]. Mae Jones yn rhan o Academi Taekwondo GB sydd wedi ei leoli ym Manceinion.
Yn 2010 casglodd Jones fedal efydd ym Mhencampwriaethau Taekwondo Ewrop yn Saint Petersburg, Rwsia.[8] a chafodd ei dewis i gystadlu yn y Gemau Olympaidd Iau cyntaf yn Singapôr yn 2010 lle llwyddodd i ennill y fedal aur wrth drechu Thanh Thao Nguyen o Fietnam yn y rownd derfynol[9][10]. Cafodd ei henwi'n Bersonoliaeth Chwaraeon Ifanc BBC Cymru yn 2010[11].
Llwyddodd Jones i ennill un o brif bencampwriaethau'r byd taekwondo wrth ennill Pencampwriaeth Agored America yn 2011 yn Austin, Texas in February 2011. Cipiodd y fedal aur yn y −62 kg diwrnod ar ôl ennill efydd yn yr adran −57 kg [12]. Casglodd fedal arian ym Mhencampwriaethau Taekwondo'r Byd yn Gyeongju, De Corea yn 2011yn yr adran pwysau plu[13].
Cafodd Jones ei dewis fel aelod o dîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 2012 yn Llundain gan ddod y Prydeinwraig cyntaf erioed i ennill medal aur taekwondo a'r person ieuengaf yn nhîm Prydain i ennill medal wrth iddi drechu Hou Yuzhuo o Tsieina yn y rownd derfynol[14].
Llwyddodd Jones i ennill Grand Prix Taekwondo'r Byd ym Manceinion yn 2015[15] wrth adeiladu tuag at Gemau Olympaidd 2016 yn Rio de Janeiro.
Yn wahanol i Llundain 2012 lle roedd buddugoliaeth Jones yn annisgwyl, roedd y Gymraes yn un o'r ffefrynau ar gyfer Rio de Janeiro 2016[16] a llwyddodd i drechu Eva Calvo o Sbaen 16-7 er mwyn amddiffyn ei medal aur[3][16].