Imiwnedd cenfaint

Mae imiwnedd cenfaint (a elwir hefyd yn imiwnedd cymunedol, imiwnedd poblogaeth, neu imiwnedd cymdeithasol) yn fath o amddiffyniad anuniongyrchol rhag clefyd heintus sy'n digwydd pan fydd canran fawr o'r boblogaeth wedi dod yn imiwn i haint, p'un ai trwy heintiau blaenorol neu trwy gael eu brechu, a thrwy hynny ddarparu mesur o ddiogelwch i unigolion nad ydynt yn imiwn.[1][2] Mewn poblogaeth lle mae gan gyfran fawr o unigolion imiwnedd, gyda phobl o'r fath yn annhebygol o gyfrannu at drosglwyddo clefydau, mae cadwyni haint yn fwy tebygol o gael eu tarfu, sydd naill ai'n atal neu'n arafu lledaeniad y clefyd.[3] Po fwyaf yw cyfran yr unigolion imiwn mewn cymuned, y lleiaf yw'r tebygolrwydd y bydd unigolion nad ydynt yn imiwn yn dod i gysylltiad ag unigolyn heintus, gan helpu i gysgodi unigolion nad ydynt yn imiwn rhag haint.

* Mae'r blwch uchaf yn dangos cychwyn clefyd mewn cymuned lle mae ychydig o bobl wedi'u heintio (dangosir yn goch) a'r gweddill yn iach ond heb eu brechu (dangosir yn glas); mae'r salwch yn lledaenu'n rhydd trwy'r boblogaeth. * Mae'r blwch canol yn dangos poblogaeth lle mae nifer fach wedi'u himiwneiddio (dangosir yn felyn); mae'r rhai nad ydynt wedi'u himiwneiddio yn cael eu heintio tra nad yw'r rhai sydd wedi'u himiwneiddio yn cael eu heintio. * Yn y blwch gwaelod, mae cyfran fawr o'r boblogaeth wedi'u himiwneiddio; mae hyn yn atal y salwch rhag lledaenu'n sylweddol, gan gynnwys i bobl heb eu brechu. Yn y ddwy enghraifft gyntaf, mae'r rhan fwyaf o bobl iach heb eu brechu yn cael eu heintio, ond yn yr enghraifft waelod dim ond un rhan o bedair o'r bobl iach heb eu brechu sy'n cael eu heintio.

Gall unigolion ddod yn imiwn trwy wella o haint cynharach neu drwy frechu.[3] Mae rhai unigolion methu a dod yn imiwn oherwydd rhesymau meddygol, fel diffyg-imiwnedd neu wrthimiwnedd, ac yn y grŵp hwn mae imiwnedd cenfaint yn ddull hanfodol o amddiffyniad.[4][5] Ar ôl cyrraedd trothwy penodol, mae imiwnedd cenfaint yn dileu clefyd yn raddol o boblogaeth. Gall y dileu hwn, os caiff ei gyflawni ledled y byd, arwain at ostyngiad parhaol yn nifer yr heintiau i ddim, a elwir yn ddifodiad.[6] Cyfrannodd imiwnedd cenfaint a grëwyd trwy frechu at ddileu'r frech wen yn y pen draw ym 1977, ac mae wedi cyfrannu at leihau amleddau afiechydon eraill. [7] Nid yw imiwnedd cenfaint yn berthnasol i bob afiechyd, dim ond y rhai sy'n heintus, sy'n golygu y gellir eu trosglwyddo o un unigolyn i'r llall. Mae tetanws, er enghraifft, yn heintus ond nid yn ymledol, felly nid yw imiwnedd cenfaint yn berthnasol.

Defnyddiwyd y term "herd immunity" yn Saesneg gyntaf ym 1923.[1] Cydnabuwyd ei fod yn ffenomen a ddigwyddodd yn naturiol yn y 1930au pan welwyd, ar ôl i nifer sylweddol o blant ddod yn imiwn i'r frech goch, bod nifer yr heintiau newydd wedi gostwng dros dro.[8] Mae brechu torfol er mwyn gymell imiwnedd cenfaint wedi dod yn gyffredin ers hynny ac wedi llwyddo i atal lledaeniad llawer o afiechydon heintus.[9] Mae gwrthwynebiad i frechu wedi gosod her i imiwnedd cenfaint, gan ganiatáu i glefydau y gellir eu hatal barhau neu ddychwelyd mewn cymunedau sydd â chyfraddau brechu annigonol.[10][11][12]

Effeithiau

Amddiffyn y rhai heb imiwnedd

Mae rhai unigolion naill ai ddim yn datblygu imiwnedd ar ôl cael eu brechu neu am resymau meddygol ni ellir eu brechu.[13][4][14] Mae babanod newydd-anedig yn rhy ifanc i dderbyn llawer o frechlynnau, naill ai am resymau diogelwch neu oherwydd bod imiwnedd goddefol yn golygu bod y brechlyn yn aneffeithiol.[15] Mae unigolion sy'n diffyg-imiwn oherwydd HIV/AIDS, lymffoma, lewcemia, canser mêr esgyrn, cael nam ar eu dueg, yn derbyn cemotherapi neu radiotherapi efallai wedi colli unrhyw imiwnedd eu bod wedi o'r blaen, ac efallai na fydd brechlynnau fod o unrhyw ddefnydd iddynt ragor oherwydd eu imiwnoddiffygiant.[16]

Mae brechlynnau fel arfer yn amherffaith, oherwydd efallai na fydd systemau imiwnedd rhai unigolion yn cynhyrchu ymateb imiwn digonol i frechlynnau i roi imiwnedd tymor hir, felly gall cyfran o'r rhai sy'n cael eu brechu fod heb imiwnedd.[1][17][18] Yn olaf, gall gwrtharwyddion meddygol atal rhai unigolion rhag cael brechlyn a dod yn imiwn.[14] Yn ogystal â pheidio â bod yn imiwn, gall unigolion yn un o'r grwpiau hyn fod mewn mwy o berygl o ddatblygu cymhlethdodau rhag haint oherwydd eu statws meddygol, ond gallant gael eu hamddiffyn o hyd os yw canran ddigon mawr o'r boblogaeth yn imiwn.[4][19]

Gall lefelau uchel o imiwnedd mewn un grŵp oedran greu imiwnedd cenfaint ar gyfer grwpiau oedran eraill.[7] Mae brechu oedolion yn erbyn pertwsis yn lleihau nifer yr achosion o bertwsis mewn babanod sy'n rhy ifanc i gael eu brechu, y rhaid sydd a'r risg fwyaf o gymhlethdodau o'r clefyd.[20][21] Mae hyn yn arbennig o bwysig i aelodau agos o'r teulu, sy'n cyfrif am y rhan fwyaf o'r trosglwyddiadau i fabanod ifanc.[18] Yn yr un modd, mae plant sy'n derbyn brechlynnau yn erbyn niwmococws yn lleihau nifer yr achosion o glefyd niwmococol ymhlith brodyr a chwiorydd iau, heb eu brechu.[22] Mae brechu plant yn erbyn niwmococws a rotafirws wedi cael yr effaith o leihau triniaeth ysbyty sydd yn ymwneud â niwmococcus a rotafirws ar gyfer plant hŷn ac oedolion, nad ydynt fel arfer yn derbyn y brechlynnau hyn.[23][24] Mae'r ffliw yn fwy difrifol yn yr henoed nag mewn grwpiau oedran iau, ond nid yw brechlynnau ffliw yn effeithiol iawn yn y ddemograffig hwn oherwydd bod y system imiwnedd wedi pylu gydag oedran.[25] Fodd bynnag, dangoswyd bod blaenoriaethu plant oed ysgol ar gyfer imiwneiddio ffliw tymhorol, sy'n fwy effeithiol na brechu'r henoed, yn creu rhywfaint o ddiogelwch i'r henoed.

Ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs), mae lefelau uchel o imiwnedd mewn un rhyw yn cymell imiwnedd cenfaint i'r ddau ryw.[9][26][27] Mae brechlynnau yn erbyn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol sydd wedi'u targedu at un rhyw yn arwain at ostyngiadau sylweddol mewn heintiau a drosglwyddir yn rhywiol yn y ddau ryw os yw'r nifer sy'n cael brechlyn yn y rhyw darged yn uchel.[28] Fodd bynnag, nid yw imiwnedd cenfaint trwy frechu menywod yn ymestyn i dynion hoyw. Os yw'r nifer sy'n cael brechlyn ymhlith y rhyw darged yn isel, yna efallai y bydd angen imiwneiddio'r rhyw arall fel y gellir amddiffyn y rhyw darged yn ddigonol.

Pwysau esblygiadol

Mae imiwnedd cenfaint ei hun yn gweithredu fel pwysau esblygiadol ar rai firysau, gan ddylanwadu ar esblygiad firaol trwy annog cynhyrchu straenau newydd. Y cyfeirir at rain yn yr achos hwn fel mwtantiaid dianc, sy'n gallu "dianc" rhag imiwnedd cenfaint a lledaenu'n haws.[29][30] Ar gyfer ffliw a norofeirws, mae epidemigau dros dro yn cymell imiwnedd cenfaint nes bod straen dominyddol newydd yn dod i'r amlwg, gan achosi gweddau olynol o epidemigau. Gan fod yr esblygiad hwn yn her i imiwnedd cenfaint, mae gwrthgyrff niwtraleiddio fras a brechlynnau "cyffredinol" a all ddarparu amddiffyniad y tu hwnt i seroteip penodol yn cael eu datblygu.[31][32]

Difodi afiechydon

Buwch â rinderpest, 1982. Digwyddodd yr achos olaf o rinderpest a gadarnhawyd yn Cenya yn 2001, a chyhoeddwyd bod y clefyd wedi'i ddileu yn swyddogol yn 2011.

Os yw imiwnedd cenfaint wedi'i sefydlu a'i gynnal mewn poblogaeth am amser digonol, bydd y clefyd yn cael ei ddileu - ni fydd mwy o drosglwyddiadau endemig yn digwydd.[5] Os cyflawnir dileu ledled y byd a bod nifer yr achosion yn cael ei leihau'n barhaol i ddim, yna gellir datgan bod clefyd yn cael ei difodi.[6] Felly gellir ystyried difodi fel effaith derfynol neu ganlyniad terfynol mentrau iechyd cyhoeddus i reoli lledaeniad clefyd heintus.[7]

Mae buddion difodi yn cynnwys dod â’r holl afiachusrwydd a marwolaeth a achosir gan y clefyd i ben, arbedion ariannol i unigolion, darparwyr gofal iechyd, a llywodraethau, a galluogi adnoddau a ddefnyddir i reoli’r afiechyd i gael ei ddefnyddio mewn man arall.[6] Hyd yma, mae dau afiechyd wedi cael eu dileu gan ddefnyddio imiwnedd cenfaint a brechu: rinderpest a'r frech wen.[1][7][33] Mae ymdrechion difodi sy'n dibynnu ar imiwnedd cenfaint ar y gweill ar gyfer poliomyelitis, er bod aflonyddwch sifil a diffyg ymddiriedaeth mewn meddygaeth fodern wedi gwneud hyn yn anodd.[34] Gall brechu gorfodol fod yn fuddiol i ymdrechion dileu os nad oes digon o bobl yn dewis cael eu brechu.[35][36][37][38]

Cyfeiriadau