Hutan mynydd
Hutan mynydd Eudromias morinellus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Charadriidae |
Genws: | Charadrius[*] |
Rhywogaeth: | Charadrius morinellus |
Enw deuenwol | |
Charadrius morinellus | |
![]() | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Hutan mynydd (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: hutanod mynydd) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Eudromias morinellus; yr enw Saesneg arno yw Dotterel. Mae'n perthyn i deulu'r Cwtiaid (Lladin: Charadriidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Yn wahanol i'r rhan fwyaf o'r teulu yma yn aderyn sydd i'w weld yn amlach yn y mynyddoedd nag ar lan y môr.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn E. morinellus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'n nythu yng ngogledd Ewrop ac Asia, o Norwy i ddwyrain Siberia, a hefyd ymhellach i'r de lle mae mynyddoedd digon uchel i gynnig yr un math o gynefin, er enghraifft yn Yr Alban a'r Alpau. Mae'n nythu ar lawr ac yn dodwy 2 - 4 wy. Pryfed yw'r prif fwyd. Mae'n aderyn mudol yn gaeafu yng ngogledd Affrica a gorllewin Asia cyn belled ag Iran.
Gellir adnabod Hutan y Mynydd yn weddol hawdd. Mae'n aderyn gweddol fychan, llai na'r Cwtiad Aur er enghraifft, ac mae ganddo linell wen darawiadol uwchben y llygad. Yn y tymor nythu mae gan yr iâr a'r ceiliog fron frowngoch gyda gwyn o'i chwmpas, bol du a chefn brown, ond yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar mae'r iâr yn fwy lliwgar na'r ceiliog. Mae hyn yn gysylltiedig a'r ffaith mai'r ceiliog sy'n gyfrifol am ori'r wyau ac edrych ar ôl y cywion. Yn y gaeaf mae'r patrwm yn debyg on yn fwy llwyd.
Mae cofnod bod Hutan y Mynydd wedi nythu unwaith neu ddwy yng Nghymru ar y Carneddau. Fel rheol gellir ei weld mewn lleoedd traddodiadol, un ai yn y mynyddoedd neu ar ambell benrhyn, pan mae'n pasio trwodd yn mis Mai neu'n dychwelyd rhwng diwedd Awst a dechrau Hydref.
- Gwryw gyda chywion
- Cyw bach
- Gwryw gyda chywion
- Nyth
- Ŵy - MHNT
Teulu
Mae'r hutan mynydd yn perthyn i deulu'r Cwtiaid (Lladin: Charadriidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Cornchwiglen | Vanellus vanellus | ![]() |
Cornchwiglen adeinbigog | Vanellus spinosus | ![]() |
Cornchwiglen adeinddu | Vanellus melanopterus | ![]() |
Cornchwiglen dagellgoch | Vanellus indicus | ![]() |
Cornchwiglen dagellog Jafa | Vanellus macropterus | ![]() |
Cornchwiglen fronfraith | Vanellus melanocephalus | ![]() |
Cornchwiglen fygydog | Vanellus miles | ![]() |
Cornchwiglen goronog | Vanellus coronatus | ![]() |
Cornchwiglen gynffonwen | Vanellus leucurus | ![]() |
Cornchwiglen heidiol | Vanellus gregarius | ![]() |
Cornchwiglen hirfys | Vanellus crassirostris | ![]() |
Cornchwiglen labedog | Vanellus albiceps | ![]() |
Cornchwiglen yr Andes | Vanellus resplendens | ![]() |
Hutan gyddfgoch | Oreopholus ruficollis | ![]() |
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/77/Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg/12px-Open_Access_logo_PLoS_transparent.svg.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/c/c4/Llen-Natur-1-transparent.png/45px-Llen-Natur-1-transparent.png)