Homo naledi

Homo naledi
Amrediad amseryddol: 0.335–0.236 Miliwn o fl. CP [1]
Enghreifftiau o rai o'r esgyrn
Lleoliad y darganfyddiad yn Ne Affrica
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Mamalia
Urdd:Deudroedolyn
(Primates)
Teulu:Hominidae
Genws:Homo
Rhywogaeth:H. naledi
Enw deuenwol
Homo naledi
Lee R. Berger et al., 2015

Rhywogaeth o hominin a ddifodwyd yw Homo naledi a ddarganfuwyd yn 2013 yn 'Ogof y Seren sy'n Codi', De Affrica; fe'i haseiniwyd i'r genws Homo.[2] Cyhoeddwyd gwybodaeth am y darganfyddiad mewn cyhoeddiad academaidd yn 2015 a chludwyd dros 1,550 o esgyrn 15 unigolyn o Ogof y 'Rising Star' yn Ne Affrica i'r wyneb mewn ymchwiliad dan arweiniad yr archaeolegydd Lee Berger o Johannesburg.[3] Erbyn heddiw (2023) credir fod yr esgyrn yn 335,000–236,000 o flynyddoedd oed, felly roedd y rhywogaeth hon yn byw yn y Pleistosen Canol (neu'r Chibanian). Er i gymaint o esgyrn ddo i'r fei, mae union ddosbarthiad o ran rhywogaethau Homo eraill ychydig yn aneglur.[4]

Yn 2017 cafwyd adroddiad gan Hawks et al. (2017) fod o leiaf 3 unigolyn arall (dau oedolyn a phlentyn) wedi'u canfod mewn ail siambar, a elwir yn Lesedi ("golau" yn yr iaith Sotho-Tswana).[5][6]

Ceir tystiolaeth i'r cyrff gael eu taflu neu iddynt ddisgyn i fewn i'r ogof tua'r un amser ag y buont farw. Ceir peth tystiolaeth iddynt gael eu gosod ymhen pellaf yr ogof yn fwriadol, mewn defod, sy'n golygu wedyn nad Homo sapiens yn unig oedd yn cael gwared a'u meirw mewn dull arbennig.[6][7][8]

Dyddio

Disgrifiwyd Homo naledi yn ffurfiol ym Medi 2015 gan 47 o awduron a gynigiodd fod yr esgyrn yn perthyn i rywogaeth newydd sbon a rhoddwyd dwy filiwn o flynyddoedd fel oedran, cyn gwneud unrhyw arbrofion.[9] Yn dilyn technegau dyddio amrywiol cyhoeddwyd mai rhwng 335,000 a 236,000 o flynyddoedd CP y bu'r Homo naledi yn byw.[1]

Disgrifiad ohoni

Mae gan y rhywogaeth gorff tebyg o ran mas i berson bychan ei daldra, gydag ymennydd llai, ac sy'n debycach i'r Australopithecus, a phenglog tebyg o ran siâp i rywogaeth cynnar o Homo. Mae anatomi'r sgerbwd yn gyfuniad o nodweddion australopitheciaid a'r homininiaid cynnar.

Geirdarddiad

Daw'r gair 'Dinaledi', sef yr enw ar y prif siambr lle darganfuwyd yr esgyrn o'r iaith leol, frodorol, sef yr iaith Sotho (a elwir hefyd yn Sesotho); ei ystyr yw 'siambr o sêr'. Bathwyd yr enw hwn a'r enw Homo naledi yn ystod hirdaith 2013.[10]

Darganfod Ogof y Rising Star

Ar 13 Medi 2013, tra'n archwilio'r system hon o ogofâu, daeth Rick Hunter a Steven Tucker ar draws rhan nad oedd wedi'i harchwilio oherwydd ei bod mor gyfyng. Roedd y siafft hon yn fertigol, o fath 'simnai' ac yn mesur 12 metr o hyd, gyda lled cyfartalog o 20 cm yn unig.[11]

Roedd Tucker a Hunter wedi clywed am archaeolegydd enwog o Johannesburg, Lee Berger, a oedd "yn chwilio am esgyrn" ac aethant ato gyda lluniau o'r hyn roeddent wedi ei ddarganfod. Trefnodd Berger grŵp o archaeolegwyr i archwilio'r ogof a chywain yr esgyrn i'r wyneb ble roedd tîm arall mewn pebyll yn eu harchwilio a'u dosbarthu. Erbyn Medi 2015 roedd tua 1,550 o ffosiliau wedi'u codi i'r wyneb a rhyddhawyd dau bapur academaidd am y canfyddiadau cychwynnol.[9]

Cymharu penglogau

Cyfeiriadau

🔥 Top keywords: XXX: Return of Xander CageHafanSiôn Daniel YoungCarles PuigdemontArbennig:SearchArwel GruffyddSwper OlafWicipedia:CategorïauSpotifyRun Hide FightYr Ail Ryfel BydArbennig:RecentChangesSex TapeMaid in SwedenRyland TeifiWicipedia:Cysylltwch â niL.E.T.H.A.L. Ladies: Return to Savage BeachWicipedia:Gwadiad CyffredinolLlyn CraigypistyllPorn to Be FreeCymraegCymruNick ServiniWicipedia:Porth y GymunedWicipedia:CymorthWicipedia:Y CaffiWikipediaCapel CelynWicipedia:Ynglŷn â WicipediaWicipedia CymraegSpecial:SearchJess DaviesEmanuelle in AmericaEmmanuelle 4Xxx: State of The UnionAfter Porn Ends 2Caligula's SpawnCyfathrach rywiolIndia