Haint

Mae haint yn ganlyniad o bathogen (sylwedd heintus neu afiach) yn ymosod ar feinweoedd corff organeb, ynghyd ag ymatebiad y meinweoedd hynny i'r tocsinau a gynhyrchir.[1][2] Gelwir anhwylderau sy'n deillio o heintiau yn glefydau heintus, neu'n afiechydon trosglwyddadwy.

Haint
Enghraifft o'r canlynolcydran neu system yn methu Edit this on Wikidata
Mathcyflwr ffisiolegol, adverse event, ffynhonnell risg, problem iechyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Enghraifft o haint - Malaria

Mae'r pathogenau sy'n achosi heintiau yn cynnwys firysau, firoidau, prionau a bacteria; nematodau megis llyngyr parasitig; arthropodau megis ticiau, gwiddon, chwain, a llau; ffwng megis tarwdenni; a macroparasitiaid eraill megis mathau o llynghyren.

Gall organedd letyol frwydro heintiau'n defnyddio eu system imiwnedd. Ymateba mamaliaid letyol i heintiau mewn modd cynhenid, ac yn aml mae'r dulliau ymateb yn cynnwys llid ynghyd ag ymatebion ymaddasol eraill.[3]

Ymhlith y meddyginiaethau penodol a ddefnyddir i drin heintiau y mae gwrthfiotigau, gwrthfeirysau, meddygaeth gwrth-protosoaidd, gwrthffyngoliaid, a gwrthlynghyryddion. Arweiniodd clefydau heintus at 9.2 miliwn o farwolaethau yn 2013 (tua 17% o'r cyfanswm marwolaeth).[4] Cyfeirir at y gangen o feddyginiaethau uchod fel meddyginiaethau clefydau heintus.[5]

Cyfeiriadau