Gwyrddling

Llwyn neu goeden bychan blodeuol a deugotyledon
Myrica gale
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Plantae
Ddim wedi'i restru:Angiosbermau
Ddim wedi'i restru:Ewdicotau
Ddim wedi'i restru:Rosidau
Urdd:Fagales
Teulu:Myricaceae
Genws:Myrica
Rhywogaeth:M. gale
Enw deuenwol
Myrica gale
Carl Linnaeus
Cyfystyron

Gale palustris

Llwyn neu goeden bychan blodeuol a deugotyledon yw'r Gwyrddling (neu'r Helygen Fair). Derbynir y ddau enw, o statws hafal, oherwydd tras hir y cyntaf ac arferiad cyfoes (ond anghywir o ran ei dacsonomeg - nid yw'n aelod o deulu'r helyg) yr ail. Mae'n perthyn i'r teulu Myricaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Myrica gale a'r enw Saesneg yw Bog myrtle.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Helygen Fair, Bwrli, Cwrli, Gwrling, Gwrddling, Gwyrddling, Madrwydd, Madywydd, Madywydd Bêr, Mordywydd a Myrtwydd y Gors.

Gall dyfu i uchder o ddwy fetr ac mae'n perthyn yn agos i'r llawryf.

Disgrifiad

Llwyn bychain collddail, yn aml yn tyfu'n glystyrau sy'n gorchuddio darnau helaeth o dir corsiog. Y blodau melyn-frown yn debyg i gynffonau wyn back byrrion. Fe'u peillir gan y gwynt yn gynnar yn Ebrill a Mai a cheir y blodau gwrywaidd a benywaidd fel arfer ar blanhigion gwahanol. Gorchuddir y planhigyn a chwarennau bychain melyn, llawn ystor persawrus - tebyg i eucalyptus - sy'n gwneud y dail hirgrwn a'r blagur yn arbennig o aroglus.

Ecoleg

Cynefin a thiriogaeth

Yn tyfu yn bennaf ar weundiroedd yn rhannau gogledd orllewinal a mwy glawog Prydain ac Iwerddon.[2] Yn lled gyffredin yng Ngwynedd a rhannau o Fôn ar dir na chaiff ei bori ond yn ysgafn ond yn gyfyngedig iawn mewn ardaloedd eraill o Gymru. Yn tyfu fel arfer gyda glaswellt y gweunydd Molinia caerulea a migwyn (rh. Sphagnum). Yn Ewrop mae ganddo ddosbarthiad arfordirol Atlantaidd gogleddol yn ymestyn o Galicia, ar hyd arfordir yr Iwerydd, y Baltig, a hyd gogledd Norwy.[3]

Palaeobotaneg

Gellir adnabod olion hynafol y gwyrddling ar ffurf paill ac fel olion yn ymylu ar fod yn ffosil. Er hyn, bu dryswch erioed rhwng paill y gwyrddling a phaill y gollen a bu'n rhaid anwybyddu llawer o'r samplau mwyaf anargyhoeddiadol gyda bod anhysonderau rhwng tystiolaeth yr olion paill a thystiolaeth yr olion macrosgopig yn dod i'r amlwg. Yn y ffynhonnell sydd dan sylw yma,[4] fe gyfyngwyd y dystiolaeth i'r olion macrosgopig yn unig.

Heddiw cyfyngir y gwyrddling i gorsydd nad ydynt ar y naill law yn rhy sûr (asidig) nac ar y llaw arall, yn rhy 'felys' (ewtroffig). Ar raddfa amser ôl-rewlifol mae bron y cwbl o'r cofnodion yn digwydd ar ôl diwedd Parth Paill VIIa [tua 500CC, dechrau'r Oes Haearn a'r Is-Atlantaidd pan oedd yr hinsawdd yn cynhesu, yn wlypach a phan oedd gweithgareddau amaethyddol llwythau'r Oes Haearn yn gyflym tanseilio'r gorchudd o goed a oedd tan hynny yn ymestun dros 90% o'r tir.[5]] Hyd ddyddiau Pennington (1969) ni chafwyd tystiolaeth o'r gwyrddling ym Mhrydain cyn hynny (ac eithrio un cofnod o'r cyfnod Atlantaidd 6-3 mil o flynyddoedd CC) ond newidiodd hynny yn ddiweddarach[6] gyda chynrychiolaeth llawer mwy helaeth o'r cyfnod Atlantaidd yn dod i'r fei. Golyga hyn bod y gwyrddling yn rhan o fflora y Mesolithig hwyr a'r Neolithig pan oedd coed yn gorchuddio oddeutu 90% o'r dirwedd

Mae perthynas y gwyrddling a hinsawdd gynnes yn cynnwys hoffter am hinsawdd arfordirol hefyd fel mae ei ddosbarthiad yn Ewrop yn ei awgrymu heddiw gan mai cyfyngedig i arfordiroedd gogledd a gorllewin Ffrainc ac arfordir gogledd Portiwgal [!Galicia?] ydyw.[7]

Gofynion hinsoddol a thopograffig

Mae'n ffynnu mewn hinsawdd cefnforol o lawiad yn cyrraedd o leiaf 200 o ddyddiau glaw y flwyddyn. Mae'n blanhigyn sydd yn hoffi'r golau ac mae'n brin lle mae'r golau yn llai na 40% (ond dan rhai amgylchiadau mae'n gallu byw dan gysgod coed). Mae'n arwydd cryf o safle gwlyb, ac yn ffynnu mewn corsdiroedd ac ar y llethrau o'u cwmpas.[6]

Edaffig (yn ymwneud a'r pridd)

Mae rôl y gwyrddling fel gosodydd nitrogen yn peri iddo effeithio'n sylweddol ar gyfansoddiad y cymunedau y mae'n rhan ohonynt ac mae'r rhinwedd hwn yn caniatau iddo dyfu ar briddodd o argaeledd isel o Nitrogen. Mae'n tyfu yn nodweddiadol ar gorsydd lefelau isel neu ar lethrau uwch, lle bo'r mawn yn fas (50±80 cm) ac o pH 3.8-6.1.

Mae ei ymlediad trwy'r gwreiddiau yn arwain at batrwm dosbarthiad clystyrog. Gall hyn arwain at dranc glystyrau o'r math oherwydd cysgodi fel sydd yn ymddangos yn yr is-gymuned Carex panicea-Scirpus cespitosus-Erica tetralix sef y gymuned rhostir gwlyb. Profwyd cyd-berthynas negyddol gref iawn rhwng gorchudd a lledaeniad y gwyrddling a lefelau CO2 a H2S.[6]

Mae gwreiddiau'r gwyrddling yn gweithredu fel stôr bwyd at y gaeaf. Mae egin yn brin yn y maes, a chenhedlu yn dibynnu'n helaeth ar rheisomau.[6]

Botanegol

Mae'r gwyrddling yn blanhigyn deuoecaidd (y ddau ryw ar blanhigion ar wahan) yn groes i'w gefndryd yn y genws. Cyfyd hyn gwestiynnau ynglŷn â'r llwybrau esblygiad rhwng monoeceidd-dra a deuoeceidd-dra.[6] Mae'r graddfa uwch o frig gwryw yn y gwyrddling yn eithriadol mewn rhywogaethau deuocaidd neu led-deuocaidd y tu allan i deulu moron (Umbelliferae).[6]

Terminoleg cynefin

Eir i'r dudalen Cors am gymhlethdodau terminoleg y cynefin hwn.

Adwaith i ffactorau biotig

Tra gall y gwyrddling dyfu i uchder o 250 cm[6] mae pori yn gostwng hyn i 50 cm. Mae geifr yn gostwng y level i lai na hanner yr hyn mae defaid yn ei wneud.[6] Mae gan y gwyrddling nifer o bathogenau ffyngaidd ac yswyr pryfedol. Ymddengys fod yr olew yn cael effaith negyddol ar bryfed sydd yn ei ysu.

Entomolegol

Er gwaetha rhinweddau gwrth-bryfedegol y planhigyn mae'n amlwg i amryw o bryfed ddatblygu'r gallu i ddygymod a hwynt, oherwydd mae'r gwyrddling yn fwyd pennaf i lindys y gwyfynod canlynol yng Nghymru neu Brydain:

Teulu'r Pothellwyr Lyonetiidae
  • Bucculatrix cidarella [8]

Turiwr i ddail gwern a gwyrddling. Gweddol gyffredin dros Brydain. Fe'u cafwyd ar y gwyrddling yng Nghymru yn y gogledd-orllewin yn unig, ym Môn a Chors Fochno. Ymddengys i'w boblogaeth fod yn sylweddol uwch ar y gwyrddling na phan fydd ar y gwern[9]

Teulu'r Noswyfynod Noctuidae

Mae'r poblogaethau gogleddol yn fwy amrywiol eu patrwn na'r rhai yn y de, ac efallai bod hyn rhywsut yn gysylltiedig â'r duedd i ffafrio gwyrddling fel bwyd gan y lindys yno, gan i'r rhywogaeth ffafrio helyg ymhellach i'r de. Gall poblogaethau amrywiol gydfyw â rhai unffurf yng Nghymru heb gyd-genhedlu[10]

  • gwrid y gors Coenophila subrosea
    Gwrid y Gors: gwyfyn hynod brin yn dal ei dir yng Nghymru

Hynod brin. Nis cafwyd ym Mhrydain ar ôl c.1850 tan 9 Awst 1965 pan gafwyd sbesimen yng ngogledd Cymru (Morfa Harlech) Cafwyd rhagor ychydig yn ddiweddarach yng Nghors Fochno. Maent yn fwy eang eu bwyd ar y Cyfandir[9]

Ym Mhrydain fe ddeorodd y lindys ar ôl ffafrio ymborthi ar wyrddling a chorhelygen dros goed fforest sydd fwyd pennaf iddynt ar y Cyfandir.

  • Gwyfyn bwâu mawr[11]

Mae'r gwyrddling yn ffurfio rhan o fwyd y gwyfynod canlynol: Clai mannog, Xestia baja; gwyfyn bwâu arian Polia hepatica; pali hardd Lacanobia contigua; pali dwy aren Papestra biren; teulu'r gwyfynod tai (Oecophoridae), Dasystoma salicella.

CEIR ADRODDIAD MWY CYNHWYSFAWR O'R PRYFED SYDD YN EI YSU YMA[6]

Enwau

Lladin

Myrica gale (L.): myrica yn golygu persawr (myrike yn hen enw Groegaidd am y tamarisc, i'r hwn y mae'n debyg) a gale yn hen enw Saesneg am y planhigyn[12]

Cymraeg[13][14][15]
Enwau Cymraeg eraill a'u hetymoleg[16]

Gellir gwahaniaethu 2-4 Grwp o'r enwau amgen hyn, sef a) Grwp Gwyrddling, b) Grwp Bwrli sydd efallai yn cyd-darddu a gwyrddling, c) Grwp Myrtwydd, tras Beiblaidd? ac ch) Grwp Madywydd, o myrtwydd efallai ond yn amwys ei ystyr?.

  • Gwyrddling, gwrling, gwyrling, [gwyrdd1+elf. anh.]

Cyfeiriad cynharaf: 15g. (Diw. 16g.) Gwyn 3 175, A ffaling wrddling wyrdd-las / a phinagl aur a phen glas [Deio ab Ieuan Du i’r paun].
Cyfeiriad nodedig: 1682 E. Lhuyd: LL 75, Two or three small roots of Gwrddling [:- Sweet Gale].

  • Cwrli (Meirion), cwrlid, (Meirion), cwrli

Amr. ar yr uchod?Nid oes cyfeiriad yn GPC at cwrli na cwrlid yn yr ystyr arbennig dan sylw.

  • Bwrli

Cyfeiriad nodedig: 1813 Welsh Botanology 162.Gall bwrli (emetig) fod yn ffurf gysefin neu'n amrywiad ar gwrling ayb. Gall fod yn ffurf wallus o cwrli wedi ei gopio wedyn.Bwrli: eg. Bot. Gwyrddling: sweet gale, bog myrtle.
Cyfeiriad cynharaf: 1784 T. Pennant: TW ii. (1883), 307, The Gale, or bog myrtle … is called Bwrli, or the emetic plant.

  • Madywydd, Mordywydd,

madywydd [?mad1+ywydd] e.ll. neu eg. Bot. Helyg Mair, gwyrddling, Myrica gale: amr. mordywydd. Cyfeiriadau geiriadurol yn unig sydd i'r rhain ac eithrio:1707 AB 281c, The Dutch Myrtle or sweet Gale is called in Cardiganshire Mordywydd d.g. myrtle

  • Myrtwydd y gors, Madywydd bêr, Madrwydd, Mydywydd.

Myrtwydd [myrt+gwŷdd1] e.ll. (un. b. myrtwydden). Bot. Coed o’r tylwyth Myrtus, yn enw. M. communis, sef llwyn a chanddo ddail bytholwyrdd, blodau persawrus pinc neu wyn, ac aeron dulas: myrtles (cyfeiriadau Beiblaidd gan gynnwys yr enwog "1620 Sech i. 8, yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrt-wŷdd (1588 Sech i. 8, myr-wŷdd)".Myrwydd [myrr1+gwŷdd1, cf. 1588 Sech i. 11, coed myrr] e.ll. Coed myrr, yn wallus am fyrtwydd: myrrh-trees, erron. for myrtle trees.

Enwau'r ieithoedd Celtaidd
Llydaweg: reed,[17] red (ret, 1492)[18]
Gwyddeleg: raideog
Gaeleg yr Alban: raidog, railleog neu roid roddag
Manaweg: roddagagh
Gwyddeleg: rideog (Gwyddeleg-ganol: raideog).

Ffurfiai'r enwau hyn sylfeini cyfenwau ac enwau lleoedd ym Mhrydain. Er enghraift, daw Auchreddie(New Deer heddiw) yn swydd Buchan o'r Gaeleg am "gae gwyrddling". Mae pentref Wyrley (Hen Saesneg: wir = gwyrddling; weah = tir wedi ei glirio, yn golygu 'man lle tyf y gwyrddling'. Oes cliw yma i darddiad yr gair gwyrddling?). Sonnir am y lle yn arolwg Doomsday fel Wirlega yn 1170 (Ekwall 1987). Yn ddiwedddarach cyfyd y cyfenw Worley. Mae tref fach Porsgrunn, yn Norwy wedi ei enwi ar ôl gwyrddling.[6]

Enwau lleoedd

Cors Gwrli (Meirionydd), Gwern y Gwrlid ar dir Gellirydd, Llanaber, Meirion, Werglodd gwrlid yn Betws Bach, Llanystumdwy, Arfon (TE).
Cafwyd y pedwar enw canlynol a allai gyfeirio at y gwyrddling yng Archif Melville Richards.[19] Dengys ffurf yr enw fel y'i cofnodwyd, y dyddiad cynharaf, yr ardal a'r "hen sir": Blaen Cae'r Gwrli (1789, Cororion, Caernarfon); Cae'r-gwrle (1838, Llantrisant, sir amhendant); Gwern y gwrling (1600, Dolbenmaen, Caernarfon); Gwrlin bach (1844, Dolbenmaen, Caernarfon)

Defnydd

Gellir crynhoi rhinweddau'r gwyrddling o dan tri phennawd, Moddion lles a Meddygaeth, (moddion gwrth llyngyr a phryfed, erthylbair a chyfogbair), Diod (sawru brag), a Defnyddioldeb ymarferol (llifo gwlan a chrwyn, gwneud cwyr). Cyflwynir y tri yn fras yn eu trefn.

Moddion lles a Meddygaeth
  • Moddion gwrth bryfed a llyngyr

Ceir amryw o gyfeiriadau at ddefnyddio cwrlid neu helyg Mair i gael gwared o chwain o welyau,[20] e. e. "gosod canghenau o hono o amgylch y gwely, a [hel] ymaith y chwain".[21] Ategir hynny gan un enw arno o Northumberland, sef "fleawood".[22] Disgrifir ei ddefnydd i'r perwyl hwn yn fyw iawn gan Richard Adams, Abererch yn ei atgofion am weini fel gwas back yn Crugan, Llanbedrog lle byddai'n lletya yn y llofft stabl yno ac yn cael ei boenydio'n arw gan chwain:

"Hen le felly fyddai'r llofft stabal yn aml iawn. Mae gen i gof mynd, tua 1930, hefo'r hwsmon, William Davies, Dinas, i gors Rhyd John, Llanbedrog i hel helyg Mair. Roeddem yn mynd a fo i'w roi yn y matresi i gael gwared o chwain. Roedd y chwain yn casáu ei oglau, and wrth lwc roedd yn ddigon derbyniol i mi. Byddai William Davies yn ffyddiog iawn o rinweddau'r helyg Mair ac roedd o'n effeithiol iawn hefyd. Rwy'n cofio iddo ddweud un tro ei fod wedi llenwi'r fatres a'r dail: "a cael fy neffro 'n nos am ddau o gloch y bora gan ryw swn crafu mawr y chwain yn methu mynd allan dan drws achan!"[23]

Diolch i'r llwch sych sawrus a oruchuddia'r dail,[24] mae'n dda i gael gwared o lyngyr o'r cylla a cheir amryw o gyfeiriadau at hynny o'r 18g a dechrau'r 19g:"An infusion of the leaves as tea, and an external application of them to the abdomen, are considered as a certain and efficacious vermifuge."[25] "Tarflyngyr llesol ydyw'r llyswydd hwn (y Gwyrddling), gan gymeryd y flail nail! ai yn bylor, neu gwedi eu mwydo mewn dwr berwdig."[20]

Rhoddid y dail, wedi eu sychu, yn y cwpwrdd dillad i roi arogl hyfryd ar y dillad ac i amddiffyn rhag y pry dillad. "Cyn dyddiau'r moth balls doedd dim gwell i'w cael na dail helygen Mair rhwng y dillad i gadw'r gwyfynod neu'r pry cadach draw ohonynt."[26]

Mae'n dda rhag pryfed brathog yn yr haf. Ar Ynys Islay arferir crogi bwnsied o helyg Mair yn y gegin i gadw pryfed ymaith.[27] Mae'n arfer cyffredin gan rai i rwbio'r dail ar eu talcen, gwddw a garddyrnau, neu i roi sbrigyn o'r planhigyn yn y cap i'r un diben. Bydd pysgotwyr yn gwisgo sbrigyn ohono, os yw'n gyfleus ar gael, pan yn eistedd mewn cwmwl o wybed ar lan llyn neu afon yn Eryri.

Erbyn hyn mae cwmni o'r Alban (Scotica Pharmaceuticals) [ddim yn bod bellach 2017?] yn gwerthu eli o'r helygen Fair ar gyfer cerddwyr sy'n cael eu plagio gan y pryfed duon brathog Albanaidd.[28] Mae tyddynwyr ar Ynys Skye hefyd yn marchnata cynnyrch fath dan yr enw Myrica.[29]

  • Moddion peri erthylu a chyfogi

Adnabuwyd yn Ffrainc fel erthylbair dan yr enw Herba Myrti Rabantini[24]

"The Gale or bog myrtle... is called Bwrli, or the emetic plant."[30]
"The poor inhabitants [of North Wales] are not inattentive to its virtues, they term it Bwrle, or the emetic plant, and use it for this purpose".[30]Mae'r dail yn cynnwys olewau anweddol a gwenwynig, sydd hefyd yn chwerw a thynhaol ar y croen (astringent).

Diod

Fe'i defnyddiwyd fel amnewidyn i hopys yn swydd Efrog lle gelwid y cwrw yn Gale Beer. Sychwyd yr 'aeron' (conau neu moch coed) i'w cynnwys fel sbeis mewn potes[24] Lle nad oedd hopys ar gael i roi blas chwerw ar gwrw defnyddid canghennau'r gwyrddling i'r un diben.[31] Ond, yn ôl Thomas Parry, Glan Gors: "mae yn gofyn ei hir ferwi, neu y mae y ddiod yn chwannog o godi dolur yn y pen"[21]

Yn 2011 rhoddwyd caniatad i berchennog bragdy gasglu cwrlid o dir Cefn uchaf [Llanbedr]. Bwriadai ei ddefnyddio i gynyrchu cwrw. Darllenais hefyd eu bod

Llun: y diweddar Wil Jones

yn ei ddefnyddio i baratoi ‘snapps’ mewn rhai gwledydd.Evie M Jones yn Llais Ardudwy (trwy law Haf Meredydd)Chwi gofiwch (Bwletin 38) mai o gwyrddling y daw “cwrlid”, sef yr helygen Fair yn amlach i lawer ohonom heddiw.

Defnyddioldeb ymarferol

Yn y 18g, pan wehyddid brethyn cartref yn gyffredin yng Nghymru, defnyddid y rhisgl i liwio gwlan yn felyn ac i lifo crwyn llouau.[24][32] Ceid yr un defnydd ohono yn Sweden ac yn yr Alban.[27] Gorferwid yr 'aeron' mewn dwr i greu sorod o gwyr i wneud canwyllau.[24] Yng Ngogledd America defnyddir aelod arall o deulu Myrica, y "wax myrtle" neu helygen Fair gwyrog, i'r diben hwn. Berwir y cwyr aroglus i wneud canhwyllau sydd a gales?? mawr amdanynt mewn siopau crefft am eu bod yn gollwng persawr hyfryd with losgi [Baker, M. (1996), Discovering the Folklore of Plants, Shire Books]

Nodweddion eraill

Byddai ffermwyr yn ceisio cadw eu gwartheg godro rhag pori helyg Mair am y byddai blas chwerw y planhigyn yn dod trwodd i'r llefrith a'r 'menyn.
Mae bathodyn llwyth Albanaidd y Campbell wedi ei seilio ar y gwyrddling

Llyfryddiaeth

  • 1 Gledhill, D., The Names of Plants (1989).
  • 2 Peeing, F.H. a Waiters, S.M., Atlas of the British Flora (1990).
  • 3 Ellis, R G., Flowering Plants of Wales (1983).
  • 4 Awbery, Cr., Blodau'r Maes a'r Ardd ar Lafar Gwlad, Llyfrau Llafar Gwlad, rhif 31 (1995).
  • 5 Davies, D. a Jones, A., Enwau Cymraeg ar Blanhigion (1995).
  • 6 Hayes, D., Planhigion Cymru a'r Byd, Gwasg Mats Onn (1995).
  • 7 Evans, J., A Tour Through Part of North Wales in the Year 1798, and at Other Times (1800) Llundain, tud 149.
  • 8 Vickery, Roy, Dictionary of Plant-Lore (1995).
  • 9 Parry, Thomas, Llysieuaeth Feddygol, Arg. H. Humphreys, Caernarfon (c.1860), tud 48.
  • 10 Williams, Mair, Yn Ymyl Tŷ'n y Coed (1999).
  • 11 Davies, Hugh, Welsh Botanology (1813).
  • 12 Grigson, Geoffrey, The Engishman's Flora (1958).
  • 13 Adams, Richard, "Helyg Mair", Ffenn a Thyddyn 4 (1989).
  • 14 Darwin, Tess, The Scots Herbal (1996).
  • 15 Mabey, R., Flora Britanica (1996)
  • 16 Baker, Margaret, Discovering The Folklore of Plants, Shire Books (1996).
  • 17 Pennant, T., Tours in Wales (1883), tud 307.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn : Llên y Llysiau Llên Natur (Cymdeithas Edward Llwyd).


Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: