Gwn Chekhov

Egwyddor ddramatig yw gwn Chekhov sy'n datgan bod rhaid i bob elfen mewn stori fod yn hanfodol, ac y dylid cael gwared ag unrhyw elfennau amherthnasol sydd fel petaent yn gwneud "addewidion gwag". Mae'r datganiad wedi'i gofnodi mewn nifer o lythyrau a ysgrifennwyd gan Anton Chekhov, gyda pheth amrywiaeth:[1][2][3]

  • "Gwaredwch bopeth nad yw'n berthnasol i'r stori. Os dwedwch chi yn y bennod gyntaf bod reiffl wedi'i osod ar y wal, mae'n rhaid iddo gael ei danio yn yr ail neu drydedd bennod. Os nad yw'n mynd i gael ei danio, ni ddylai fod wedi'i osod yno."[4]
  • "Ni ddylid fyth osod reiffl sydd wedi'i lwytho ar y llwyfan oni bai ei fod am gael ei danio. Mae'n ddrwg i wneud addewidion na fedrwch eu cadw." Chekhov, llythyr at Aleksandr Semenovich Lazarev (ffugenw A. S. Gruzinsky), 1 Tachwedd 1889.[5][6][7] Y "gwn" yn fan hyn yw'r monolog roedd Chekhov yn ei ystyried yn ddiangen ac amherthnasol i weddill y ddrama.
  • "Os ydych chi wedi gosod gwn ar y wal yn yr act gyntaf, yna dylid ei danio yn y nesaf. Peidiwch a'i roi yno fel arall." O Gurlyand's Reminiscences of A. P. Chekhov, yn Teatr i iskusstvo 1904, Rhif. 28, 11 Gorffennaf, t. 521.[8]
Anton Chekhov, 1900

Cyfeiriadau