Gwilym Davies
gweinidog (B), hyrwyddwr dealltwriaeth ryngwladol; sylfaenydd Neges Heddwch Plant Cymru
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr oedd Gwilym Davies CBE (24 Mawrth 1879 – 26 Ionawr 1955),[1] a dreuliodd lawer o'i oes yn ceisio gwella cysylltiadau rhyngwladol wrth gefnogi gwaith Cynghrair y Cenhedloedd a'i olynydd, y Cenhedloedd Unedig. Fo hefyd oedd y dyn cyntaf i ddarlledu yn Gymraeg, ar Ddydd Gŵyl Dewi 1923.[2]
Gwilym Davies | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Mawrth 1879 ![]() |
Bu farw | 26 Ionawr 1955 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl ![]() |
Priod | Mary Elizabeth Ellis ![]() |
Gwobr/au | CBE ![]() |
Deallai Gwilym Davies grym y dechnoleg newydd a llwyddodd i ysgogi danfon Neges Heddwch ac Ewyllus Da (a ddaeth maes o law o dan adain Urdd Gobaith Cymru) ar y tonfenni radio ar 28 Mehefin 1923.[3][4]
Roedd yn enedigol o Fedlinog, Merthyr Tudful ble roedd ei dad, D. J. Davies, hefyd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr.
Roedd yn briod â Mary Elizabeth Ellis a oedd yn un o arweinwydd Apêl Heddwch Menywod Cymru yn 1923 ac 1924.
Cyfeiriadau
🔥 Top keywords: Wicipedia:Cysylltwch â niHafanArbennig:SearchA470XXX: Return of Xander CageHebog tramorArbennig:RecentChangesTübingenYr Ail Ryfel BydCategori:Ffilmiau o'r British RajSiôn Daniel YoungWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaCymruWicipedia:Cymorth28 TachweddMici PlwmHentai KamenWicipedia:Ynglŷn â WicipediaWicipedia:Porth y GymunedCyfathrach rywiolPrifysgol Eberhard Karl TübingenSafleoedd rhyw35 DiwrnodFleur de LysCymraeg14 GorffennafDonald TrumpEva StrautmannSpecial:SearchWicipedia:Y CaffiCelt (band)HelaWicipedia CymraegVoice of AmericaYmgais i lofruddio Donald TrumpWicipedia:CymraegSex and The Single GirlBoulevard Nights