Gorsaf reilffordd Cryw
Mae gorsaf reilffordd Crewe yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Crewe (Cryw) yn Swydd Gaer, Gogledd-orllewin Lloegr.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Crewe |
Agoriad swyddogol | 1837 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyrain Swydd Gaer |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.089°N 2.433°W |
Cod OS | SJ710547 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 12 |
Côd yr orsaf | CRE |
Rheolir gan | Virgin Trains, Avanti West Coast |
Hanes
Agorwyd gorsaf reilffordd Cryw ar 4ydd Gorffennaf 1837, gan Gwmni Rheilffordd Grand Junction. Cyrhaeddodd y trên cyntaf o Lerpwl, ac aeth i Birmingham.[1] Nod y cwmni oedd uno Rheilffordd Llundain a Birmingham efo Rheilffordd Lerpwl a Manceinion. Aeth y lein o Orsaf Reilffordd Stryd Curzon yn Birmingham i Warrington, lle'r ymunodd hi â Rheilffordd Warrington a Newton, cangen leol o Reilffordd Lerpwl a Manceinion.[2]Penderfynwyd symud gweithdai'r rheilffordd o Edge Hill, Lerpwl, i safle mwy canolog yng Nghryw;[1] prynwyd tir ar gyfer gweithdai rheilffordd ym 1840. Yn Hydref 1840, agorwyd Rheilffordd Caer a Chryw. Yn Awst 1842, agorwyd rheilffordd arall o Gryw i Fanceinion trwy Wilmslow a Stockport. Ym 1848, agorwyd lein o Gryw i Kidsgrove, rhan o Reilffordd Gogledd Swydd Stafford, yn hwyluso cludo glo o byllau gogledd Swydd Stafford.[1] Ffurfiwyd Rheilffordd Llundain a'r Gogledd Orllewin ym 1846 wrth uno cwmnïau Grand Junction, Llundain a Birmingham, a Birmingham a Manceinion,[3] ac ym 1948, agorwyd lein o Gryw i Amwythig gan y cwmni. Adeiladwyd y gweithdai erbyn 1846, a chrëwyd y dref o ganlyniad i dwf sydyn yn y boblogaeth leol, o 148 ym 1831 i 4571 ym 1851 a 17810 erbyn 1871.[2]
Ailadeiladwyd yr orsaf yn 1861 ac ychwanegwyd platfformau 5 a 6. Ychwanegwyd lein osgoi ar gyfer trenau nwyddau tua diwedd y 19g, ac yn enwir "the muck hole" gan selogion y rheilffyrdd hyd at heddiw.[4]
Daeth y Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin yn rhan y Rheilffordd Llundain, Canolbarth ac Albanaidd ym 1923, fel rhan o ad-drefniant cenedlaethol y rheilffyrdd, ac ym 1948 daeth y cwmni'n rhan o Ranbarth Llundain Canolbarth o'r Rheilffyrdd Prydeinig.[5]
Dechreuodd gwaith trydaneiddio'r rheilffyrdd o Lundain i Fanceinion, Lerpwl a Glasgow ym 1959, a chwblhawyd y prosiect ym 1974.[6] Cafodd y lein rhwng Cryw a Kidsgrove ei thrydaneiddio fel rhan o'r cynllun Llundain-Manceinion; Mae'n cysylltu â lein arall o Lundain i Fanceinion trwy Stoke-on-Trent, ac yn cael ei defnyddio fel gwyriad o bryd i'w gilydd. Erbyn hyn, dim ond y rheilffyrdd o Gryw i Amwythig, a Chryw i Gaer a Chaergybi, sydd heb eu trydaneiddio.
Gwasanaethau presennol
Yn ddyddiol, mae 22 drên yn mynd trwy Gryw pob awr, yn ogystal â gwasanaethau llai aml. Dyma grynodeb:[7][8][9][10][11][12]
- 2 drên Virgin pob awr i Euston
- Trên London Midland pob awr i Euston trwy Stoke-on-Trent a Northampton.
- 2 drên London Midland pob awr i Lerpwl.
- Trên Virgin Trains pob awr i Birmingham
- 2 drên London Midland pob awr i Birmingham.
- Trên Virgin Trains pob awr i Glasgow Canolog neu Gaeredin.
- Trên Virgin Trains pob awr i Manchester Piccadilly, yn galw yn Wilmslow a Stockport
- 1 drên Trafnidiaeth Cymru pob awr i Manchester Piccadilly trwy Wilmslow a Stockport
- Trên Northern Rail pob awr i Manchester Piccadilly trwy Gorsaf reilffordd Manchester Airport
- Trên Northern Rail pob awr i Piccadilly Manceinion trwy Stockport
- Trên Virgin Trains pob awr i Gaer, rhai yn mynd ymlaen at Fangor a Chaergybi ac 1 pob dydd i Wrexham General.
- Trên Trafnidiaeth Cymru pob awr i Gaerfyrddin trwy Gaerdydd Canolog, pob yn ail yn mynd ymlaen at Aberdaugleddau.
- Trên Trafnidiaeth Cymru pob awr i Gaer
- Trên East Midlands Trains pob awr i Derby trwy Stoke-on-Trent.
- Trên Trafnidiaeth Cymru pob dydd i Birmingham trwy Stafford a 2 drên pob dydd i Birmingham trwy Amwythig
- Trên CrossCountry pob dydd i Piccadilly Manceinion, 1 drên pob dydd i Fryste a 2 drên pob dydd i Bournemouth.
Gorsaf gynt | RHEILFFYRDD GWREIDDIOL | Gorsaf nesaf | ||
Worleston | Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin Rheilffordd Caer a Chryw | Terminws Lein ar agor, gorsaf wedi cau | ||
Minshull Vernon Lein ar agor, gorsaf wedi cau | Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin Rheilffordd Grand Junction | Betley Road Lein ar agor, gorsaf wedi cau | ||
Terminws | Rheilffordd Llundain a Gogledd Orllewin Rheilffordd Amwythig a Chryw Rheilffordd Nantwich a Market Drayton | Willaston Lein ar agor, gorsaf wedi cau | ||
Terminws | Rheilffordd y Great Western Rheilffordd Nantwich a Market Drayton | Willaston Lein ar agor, gorsaf wedi cau | ||
Terminws | Rheilffordd Gogledd Swydd Stafford Lein Cryw - Derby | Radway Green Lein ar agor, gorsaf wedi cau |
Gorsaf gynt | RHEILFFYRDD PRESENNOL | Gorsaf nesaf | ||
Nantwich | Trafnidiaeth Cymru Lein y Gororau | Wilmslow | ||
Terminws neu Stafford | Trafnidiaeth Cymru Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru | Caer | ||
Terminws | East Midland Trains Lein Cryw - Derby | Alsager | ||
Llundain (Euston) | First ScotRail Sleeper Celyddon | Preston | ||
Stafford | London Midland Birmingham - Lerpwl | Winsford | ||
Terminws | London Midland Llundain-Cryw | Alsager | ||
Terminws | Northern Rail Lein Cryw - Manceinion | Sandbach | ||
Stafford | Cross Country Rhwydwaith Traws Gwlad | Wilmslow | ||
Wolverhampton | Virgin Trains Birmingham - Glasgow/Caeredin | Warrington Bank Quay | ||
Stafford | Virgin Trains Lein Lerpwl | Runcorn | ||
Stafford neu Llundain (Euston) | Virgin Trains Lein Manceinion | Wilmslow | ||
Milton Keynes Canolog | Virgin Trains Canghennau Caer/Caergybi/Wrecsam | Caer |