Gor-ecsploetio
Mae gor-ecsbloetio, a elwir hefyd yn orgynaeafu, yn cyfeirio at gynaeafu adnodd adnewyddadwy nes ei fod yn peri i'r peth hwnnw, neu'r rhywogaeth honno fod yn brin neu wedi'i difodi.[1] Gall gor-ecsbloetio parhaus arwain at ddinistrio'r adnodd, gan na fydd yn gallu ailgyflenwi. Mae'r term yn berthnasol i adnoddau naturiol megis dyfrhaenau dŵr, porfeydd a choedwigoedd, planhigion meddyginiaethol, stoc pysgod a bywyd gwyllt arall.
![]() Cafodd stociau o Penfras|benfras eu gor-ecsploetio'n ddifrifol yn y [[1970au a’r 1980au, gan arwain at eu cwymp sydyn yn 1992. | |
Math | exploitation of natural resources ![]() |
---|---|
![]() |
Mewn ecoleg, mae gor-ecsbloetio'n disgrifio un o'r pum prif weithgaredd sy'n bygwth bioamrywiaeth fyd - eang.[2] Mae ecolegwyr yn defnyddio'r term i ddisgrifio grwpiau sy'n cael eu cynaeafu ar gyfradd anghynaliadwy, o ystyried eu cyfraddau marwoldeb naturiol a'u gallu i atgenhedlu. Gall hyn arwain at ddifodi'r boblogaeth. Mewn bioleg cadwraeth, mae'r term yn cael ei ddefnyddio fel arfer yng nghyd-destun gweithgaredd economaidd dynol sy'n cynnwys cymryd adnoddau biolegol, neu organebau, mewn niferoedd mwy nag y gall eu poblogaethau ei wrthsefyll.[3] Mae'r term hefyd yn cael ei ddefnyddio a'i ddiffinio ychydig yn wahanol mewn pysgodfeydd, hydroleg a rheoli adnoddau naturiol.
Fodd bynnag, o'i wneud yn iawn, gall gor-ecsploetio fod yn gynaliadwy, fel y trafodir isod yn yr adran ar bysgodfeydd. Yng nghyd-destun pysgota, gellir defnyddio’r term gorbysgota yn lle gor-ecsbloetio, yn ogystal â 'gorbori' wrth reoli stoc, 'torri gormod o goed' mewn rheoli coedwigoedd, 'gorddrafftio' wrth reoli dyfrhaenau, a rhywogaethau mewn perygl wrth fonitro rhywogaethau. Nid yw gor-ecsbloetio yn weithgaredd sy'n gyfyngedig i fodau dynol. Gall ysglyfaethwyr a llysysyddion a gyflwynir, er enghraifft, or-ecsploetio'r fflora a'r ffawna brodorol.
Hanes
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/2d/Giant_Haasts_eagle_attacking_New_Zealand_moa.jpg/220px-Giant_Haasts_eagle_attacking_New_Zealand_moa.jpg)
Mae pryder ynghylch gor-ecsbloetio yn fenomenom gymharol ddiweddar, er nad yw gor-ecsbloetio ei hun yn ffenomen newydd. Roedd clogynnau seremonïol a wisgwyd gan frenhinoedd Hawaii yn cael eu gwneud o'r aderyn mamo; defnyddiai un clogyn blu 70,000 o adar o'r rhywogaeth hon sydd bellach wedi darfod. Mae'r dodo, aderyn na fedrai hedfan o Mauritius, yn enghraifft adnabyddus arall o or-ecsbloetio. Fel gyda llawer o rywogaethau ynys, roedd yn naïf o'r perygl ac am rai ysglyfaethwyr, gan ganiatáu i bobl ddynesu ato a'i ladd yn rhwydd.[6]
O'r cyfnod cynharaf, mae hela wedi bod yn weithgaredd dynol pwysig fel modd o oroesi a gwelwyd gor-ecsbloetio ar ffurf gor-hela. Mae'r ddamcaniaeth <i>overkill</i> (digwyddiadau o'r difodiant Cwaternaidd) yn esbonio pam y digwyddodd y difodiant megaffawnaidd o fewn cyfnod cymharol fyr. Gellir olrhain hyn i fudo dynol. Y dystiolaeth fwyaf o'r ddamcaniaeth hon yw bod 80% o rywogaethau mamaliaid mawr Gogledd America wedi diflannu o fewn 1,000 o flynyddoedd i ddyfodiad bodau dynol i gyfandiroedd hemisffer y gorllewin.[7] Digwyddodd y difodiant megafawna cyflymaf erioed yn Seland Newydd - erbyn 1,500 OC, dim ond 200 mlynedd ar ôl dyfodiad dyn, cafodd deg rhywogaeth o adar moa enfawr eu hela i ddifodiant gan y Māori.[4] Digwyddodd ail don o ddifodiant yn ddiweddarach pan ddaeth yr Ewropeiaid.
Sectorau
Pysgodfeydd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/18/Bluefin-big.jpg/220px-Bluefin-big.jpg)
Mewn pysgodfeydd gwyllt, mae gor-egsbloetio neu orbysgota yn digwydd pan fo stoc pysgod wedi'i bysgota'n "is na'r maint a fyddai, ar gyfartaledd, yn cynnal uchafswm cynnyrch cynaliadwy hirdymor y bysgodfa".[8] Fodd bynnag, gall gor-egsbloitio fod yn gynaliadwy. [9]
Dywedir bod y stoc bysgod yn “cwympo” pan fo'u biomas yn gostwng mwy na 95 y cant o’u biomas hanesyddol uchaf. Cafodd stociau penfras yr Iwerydd eu gor-ecsbloitio’n ddifrifol yn y 1970au a’r 1980au, gan arwain at eu cwymp sydyn yn 1992.[10] Er bod pysgota wedi dod i ben, mae'r stoc penfras wedi methu ag adennill ei phlwyf.[10] Mae absenoldeb penfras fel ysglyfaethwr pigfain mewn llawer o ardaloedd wedi arwain at raeadru troffig (rhyngweithiadau anuniongyrchol pwerus a all reoli ecosystemau cyfan).[10]
Erbyn y 2020au roedd tua 25% o bysgodfeydd y byd yn cael eu gorbysgota.[11] Gall y pysgodfeydd hyn sydd wedi'u disbyddu adfer os cwtogir ar y pysgota, nes bod y biomas stoc yn dychwelyd i'r biomas gorau posibl. Ar y pwynt hwn, gellir ailddechrau cynaeafu yn agos at yr uchafswm cynaliadwy.[12]
Adnoddau dŵr
Mae adnoddau dŵr, fel llynnoedd a dyfrhaenau, fel arfer yn adnoddau adnewyddadwy sy'n ail-lenwi'n naturiol (defnyddir y term dŵr ffosil weithiau i ddisgrifio dyfrhaenau nad ydynt yn ail-lenwi). Mae gor-ecsbloetio'n digwydd os yw adnodd dŵr, fel y Dyfrhaen Ogallala (dyfroedd dan yr wyneb yng Ngwastadeddau Mawr, UDA), yn cael ei gloddio neu ei echdynnu ar gyfradd sy'n uwch na'r gyfradd ail-lenwi, hynny yw, ar gyfradd sy'n uwch na'r cyfaint parhaus ymarferol. Fel arfer daw ail-lenwi o nentydd yr ardal, afonydd a llynnoedd. Dywedir bod dyfrhaen sydd wedi'i gorddefnyddio wedi'i gorddrafftio neu wedi'i disbyddu. Mae coedwigoedd yn gwella ail-lenwi dyfrhaenau mewn rhai mannau, er bod coedwigoedd yn gyffredinol yn ffynhonnell bwysig o ddisbyddu dyfrhaenau hefyd![13][14] Gall dyfrhaenau sydd wedi'u disbyddu gael eu llygru â halogion fel nitradau, neu eu difrodi'n barhaol trwy ymsuddiant neu drwy halwynau o'r cefnfor.
Coedwigaeth
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/da/Gordon_River_Clearcut.jpg/220px-Gordon_River_Clearcut.jpg)
Mae coedwigoedd yn cael eu gor-ecsbloetio pan gânt eu cwympo yn gyflymach nag y mae'r broses o ailgoedwigo'n digwydd. Gall ailgoedwigo gystadlu â defnyddiau tir eraill megis cynhyrchu bwyd, pori da byw, a chreu trefi ar gyfer twf economaidd pellach. Yn hanesyddol mae defnyddio cynhyrchion coedwig, gan gynnwys pren a phren tanwydd, wedi chwarae rhan allweddol mewn cymdeithasau dynol. Heddiw, mae gwledydd datblygedig yn parhau i ddefnyddio pren ar gyfer adeiladu tai, a mwydion pren ar gyfer papur. Mewn gwledydd sy'n datblygu mae bron i dri biliwn o bobl yn dibynnu ar bren ar gyfer gwresogi a choginio. Mae enillion economaidd tymor byr a wneir trwy drosi coedwigoedd i amaethyddiaeth, neu or-ecsbloetio cynhyrchion pren, yn nodweddiadol yn arwain at golli incwm hirdymor a chynhyrchiant biolegol hirdymor. Mae Gorllewin Affrica, Madagascar, De-ddwyrain Asia a llawer o ranbarthau eraill wedi profi refeniw is oherwydd gor-ecsbloetio a'r dirywiad mewn cynaeafau pren o ganlyniad.[15]
Bioamrywiaeth
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/35/Maldivesfish2.jpg/220px-Maldivesfish2.jpg)
Un o'r prif fygythiadau i fioamrywiaeth fyd-eang yw gor-ecsbloetio.[2] Mae bygythiadau eraill yn cynnwys llygredd, rhywogaethau anfrodorol, darnio cynefinoedd, dinistrio cynefinoedd,[2] hybrideiddio afreolus,[16] newid hinsawdd,[17] asideiddio cefnforoedd[18] a'r gyrrwr y tu ôl i lawer o'r rhain, a gorboblogi dynol.[19]
Rhywogaethau sydd mewn perygl ac wedi diflannu
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/bb/Conuropsis_carolinensisAWP026AA2.jpg/220px-Conuropsis_carolinensisAWP026AA2.jpg)
Mae rhywogaethau o bob grŵp o ffawna a fflora yn cael eu heffeithio gan or-ecsbloetio. Mae angen adnoddau ar bob organeb fyw i oroesi. Gall gorddefnyddio'r adnoddau hyn am gyfnodau hir ddisbyddu stociau naturiol i'r graddau na allant adfer o fewn cyfnod byr o amser. Mae bodau dynol bob amser wedi cynaeafu bwyd ac adnoddau eraill sydd eu hangen arnynt i oroesi, ond roedd poblogaethau dynol, yn hanesyddol, yn fach, a'r dulliau casglu'n gyfyngedig i feintiau bychan. Gyda chynnydd esbonyddol yn y boblogaeth ddynol, mae marchnadoedd sy'n ehangu a galw cynyddol, ynghyd â gwell mynediad a thechnegau ar gyfer dal, yn achosi ecsbloetio llawer o rywogaethau y tu hwnt i lefelau cynaliadwy.[20] Yn ymarferol, mae’n lleihau adnoddau gwerthfawr i lefelau mor isel fel nad yw eu hecsbloetio bellach yn gynaliadwy a gall arwain at ddifodiant y rhywogaeth, yn ogystal â chael effeithiau dramatig, nas rhagwelwyd, ar yr ecosystem.[21] Mae gor-ecsbloetio yn aml yn digwydd yn gyflym wrth i farchnadoedd newydd agor, gan ddefnyddio adnoddau nas defnyddiwyd yn flaenorol.
Fertebratau
Mae gor-ecsbloetio yn bygwth traean y fertebratau sydd mewn perygl, yn ogystal â grwpiau eraill. Ac eithrio pysgod bwytadwy, mae'r fasnach anghyfreithlon mewn bywyd gwyllt yn werth $10 biliwn y flwyddyn, yn fydeang. Mae'r diwydiannau sy'n gyfrifol am hyn yn cynnwys y fasnach mewn cig anifeiliaid gwyllt, y fasnach mewn meddygaeth Tsieineaidd, a'r fasnach ffwr.[22]
Sefydlwyd Confensiwn ar gyfer Masnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau o Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl, neu CITES, er mwyn rheoli a rheoleiddio’r fasnach mewn anifeiliaid sydd mewn perygl. Ar hyn o bryd mae'n amddiffyn tua 33,000 o rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion. Amcanyfrifir bod chwarter yr fertebratau sydd mewn perygl yn Unol Daleithiau America a hanner y mamaliaid sydd mewn perygl yn cael eu priodoli i or-ecsbloetio.[2][23]
Adar
Yn gyffredinol, mae 50 o rywogaethau adar sydd wedi diflannu ers 1500 (tua 40% o’r cyfanswm) wedi eu gor-ecsbloetio.[24]