Goldie Hawn

cyfarwyddwr ffilm a chynhyrchydd a aned yn Washington, D.C. yn 1945

Mae Goldie Jean Hawn (ganed 21 Tachwedd 1945) yn actores, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Americanaidd sydd wedi ennill Gwobr yr Academi. Mae'n fwyaf adnabyddus am actio mewn ffilmiau comedi poblogaidd yn ystod y 1960au, 1970au, 1980au a'r 1990au.

Goldie Hawn
GanwydGoldie Jean Studlendgehawn Edit this on Wikidata
21 Tachwedd 1945 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Uwchradd Montgomery Blair
  • Prifysgol America Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor teledu, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, canwr, cerddor, actor llwyfan, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, cyflwynydd teledu, cynhyrchydd ffilm Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadSai Baba of Shirdi Edit this on Wikidata
Taldra1.6764 metr Edit this on Wikidata
PriodGus Trikonis, Bill Hudson Edit this on Wikidata
PartnerKurt Russell Edit this on Wikidata
PlantOliver Hudson, Kate Hudson, Wyatt Russell Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am Actores Gynhaliol Orau, Gwobr Crystal, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Women of the Year, Hasty Pudding Woman of the Year Edit this on Wikidata

Ei Bywyd Cynnar

Fe'i ganwyd yn Washington, D.C., yn ferch i Laura (née Steinhoff), perchennog siop emwaith / ysgol ddawns, ac Edward Rutledge Hawn, cerddor mewn band a chwaraeai mewn digwyddiadau mawrion yn Washington. Cafodd ei henwi ar ôl modryb ei mam. Mae ganddi chwaer, Patricia; a brawd, Edward, a fu farw cyn ei genedigaeth. Ar ochr ei thad, mae Hawn yn ddisgynnydd uniongyrchol i Edward Rutledge, un o arwyddwyr Datganiad Annibyniaeth yr Unol Daleithiau. Magwyd Hawn ym Mharc Takoma, Maryland. Roedd ei thad yn Bresbyteraidd a'i mam yn Iddewes, yn ferch i fewnfudwyr o Hwngari; magwyd Hawn fel Iddewes.

Dechreuodd Hawn wersi ballet a dawnsio tap pan oedd yn dair oed, a dawnsiodd yng nghorws cynhyrchiad Ballet Russe de Monte Carlo o "The Nutcracker" ym 1955. Perfformiodd ar lwyfan am y tro cyntaf fel actores ym 1961, gan chwarae rhan Juliet yng nghyrchiad Gŵyl Shakesperaidd Virginia o Romeo a Juliet. Erbyn 1964, roedd yn rhedeg a chyfarwyddo ysgol ballet, wedi iddi adael Prifysgol Americanaidd, lle'r oedd yn astudio Drama. Ym 1964, gwnaeth Hawn ei pherfformiad dawns proffesiynol cyntaf mewn cynhyrchiad o "Can-Can" ym Mhafiliwn Texas yn Ffair y Byd Efrog Newydd. Dechreuodd weithio fel dawnswraig broffesiynol flwyddyn yn ddiweddarach, ac ymddangosodd fel dawnswraig go-go yn Ninas Efrog Newydd.

Ffilmograffiaeth

BlwyddynFfilmRôlNodiadau eraill
1968The One and Only, Genuine, Original Family BandGiggly GirlCredited as Goldie Jeanne.
1969Cactus FlowerToni SimmonsGwobr yr Academi - Yr Actores Gefnogol Orau
1970There's a Girl in My SoupMarion
1971$Dawn Divineaka Dollars
1972Butterflies Are FreeJill Tanner
1974The Sugarland ExpressLou Jean Poplin
The Girl from PetrovkaOktyabrina
1975ShampooJill
1976The Duchess and the Dirtwater FoxAmanda Quaid/Duchess Swansbury
1978Foul PlayGloria Mundy
1979Lovers and LiarsAnita
1980Private BenjaminPvt. Judy Benjamin/GoodmanEnwebwyd am Wobr yr Academ - Yr Actores Orau
Seems Like Old TimesGlenda Gardenia Parks
1982Best FriendsPaula McCullen
1984Swing ShiftKay Walsh
ProtocolSunny Davis
1986WildcatsMolly McGrath
1987OverboardJoanna Stayton/Annie Proffitt
1990Bird on a WireMarianne Graves
1991DeceivedAdrienne Saunders
1992CrissCrossTracy Cross
HouseSitterGwen Phillips
Death Becomes HerHelen Sharp
1996The First Wives ClubElise Elliot
Everyone Says I Love YouSteffi Dandridge
1999The Out-of-TownersNancy Clark
2001Town & CountryMona Miller
2002The Banger SistersSuzette
2009Ashes To AshesFfilm gyntaf Hawn fel cyfarwyddwr


Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.