Glenda Jackson

actores a aned yn 1936

Actores a gwleidydd Seisnig oedd Glenda May Jackson, CBE (9 Mai 193615 Mehefin 2023).[1] Enillodd ddwy Wobr Academi am yr Actores Orau. Roedd hi'n aelod seneddol Hampstead a Highgate rhwng 1992 a 2010.

Glenda Jackson
LlaisGlenda jackson bbc radio4 film programme 06 07 2007 b007rmcx.flac Edit this on Wikidata
GanwydGlenda May Jackson Edit this on Wikidata
9 Mai 1936 Edit this on Wikidata
Penbedw Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mehefin 2023 Edit this on Wikidata
Blackheath Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, actor llwyfan, actor, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
PlantDan Hodges Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, Gwobr 'Emmy' i Actores Arbennig mewn Cyfres Ddrama, Gwobr Primetime Emmy ar gyfer Prif Actores Eithriadol mewn Cyfres Bitw neu Ffilm, Drama Desk Award for Outstanding Actress in a Play, Drama League Award, Gwobr Theatr yr Evening Standard am yr Actores Orau Edit this on Wikidata

Cafodd ei geni ym Mhenbedw, yn ferch adeiladwr. Cafodd ei addysg yn yr ysgol ramadeg leol. Bu'n gweithio yn Boots am ddwy flynedd.[2] Priododd Roy Hodges ym 1958; fe wnaethant ysgaru ym 1976. Bu iddynt fab, y newyddiadurwr Dan Hodges.

Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Elisabeth I, brenhines Lloegr, yn y gyfres BBC Elizabeth R (1971). Enillodd y Wobr BAFTA Teledu am y rôl 'na; enillodd y BAFTA Ffilm am ei rôl yn Sunday Bloody Sunday (1971). Chwaraeodd rôl Elisabeth eto yn y ffilm Mary Queen of Scots (1971). Roedd hi hefyd yn enwog am ymddangos fel gwestai seren yn y Morecambe and Wise Show.[3][4] Ar y llwyfan, chwaraeodd rannau fel Hedda Gabler a Cleopatra. Ennillodd Wobr Tony am ei hymddangosiad yn Three Tall Women gan Edward Albee (2018).

Roedd hi'n aelod o'r Blaid Lafur. Cafodd ei hethol i'r senedd ym 1992 ac addawodd roi'r gorau i actio. Ar ôl marwolaeth Margaret Thatcher, gwnaeth un o'i areithiau pwysicaf yn y Senedd San Steffan.[5]

Ar ôl ymddeol o'r Senedd yn 2015 dychwelodd i actio. Perfformiodd y brif rhan yn y ffilm deledu Elizabeth is Missing am fenyw yn ei 80au yn byw gyda dementia. Am y rhan yma, enillodd wobr yr Actores Orau BAFTA yn 2019 ac Emmy yn 2020.

Ffilmyddiaeth

Ffilmiau

BlwyddynTeitlRôl
1963This Sporting LifeCantoresheb ei achredu
1967Marat/SadeCharlotte Corday
1968Tell Me Lies
1968NegativesVivien
1969Women in LoveGudrun BrangwenGwobr Academi
1971The Music LoversAntonina Miliukova
1971Sunday Bloody SundayAlex Greville
1971The Boy FriendRita Monroe
1971Mary, Queen of ScotsElisabeth I, brenhines Lloegr
1972The Triple EchoAlice
1973Bequest to the NationEmma HamiltonAKA The Nelson Affair
1973A Touch of ClassVickie AllessioGwobr Academi
1973The Devil Is a WomanSister Geraldine
1975The MaidsSolange
1975The mantic EnglishwomanElizabeth Fielding
1975HeddaHedda Gabler
1976The Incredible SarahSarah Bernhardt
1977Nasty HabitsSister Alexandra
1978House CallsAnn Atkinson
1978StevieStevie Smith
1978The Class of Miss MacMichaelConor MacMichael
1979Lost and FoundPatricia Brittenham
1980HealthIsabella Garnell
1980HopscotchIsobel von Schonenberg
1982The Return of the SoldierMargaret Grey
1982Giro CitySophie
1985Turtle DiaryNeaera Duncan
1987Beyond TherapyCharlotte
1988Business as UsualBabs Flynn
1988Salome's Last DanceHerodias / Lady Alice
1989The RainbowAnna Brangwen
1989DoombeachMiss
1990King of the WindCaroline o Ansbach

Teledu

BlwyddynTeitlRôl
1957–61ITV Play of the WeekIris Jones / Aelod o'r rheithgor2 pennod
1963Z-CarsHospital Nurse / WPC Fernley2 pennod
1965–68Wednesday Play, TheThe Wednesday PlayCathy / Julie2 pennod
1967Half Hour StoryClaire FoleyPennod: "Which of These Two Ladies Is He Married To?"
1969ITV Sunday Night TheatreMarina PalekPennod: "Salve Regina"
1970Play of the MonthMargaret SchlegelPennod: "Howards End"
1971Elizabeth RElisabeth I, brenhines Lloegr6 pennod; Gwobr Emmy
1971–74The Morecambe & Wise ShowHerself4 pennod
1979Christmas With Eric & Ernie
1980The Muppet ShowPennod: "Glenda Jackson"
1980The Morecambe & Wise Show
1981The Patricia Neal StoryPatricia NealFfilm teledu
1984SakharovYelena Bonner (Sakharova)Ffilm teledu
1988American PlayhouseNina LeedsPennod: "Strange Interlude"
1990Carol & CompanyDr. Doris KruberPennod: "Kruber Alert"
1990T.Bag's Christmas Ding DongVanity Bag
1991A Murder of QualityAilsa Brimley
1991The House of Bernarda AlbaBernarda Alba
1992The Secret Life of Arnold BaxHarriet Cohen
2019Elizabeth is MissingMaudGwobr BAFTA

Cyfeiriadau