Gleidio

Gweithgaredd hamdden a chwaraeon cystadleuaeth rhyngwladol yw gleidio, efo peilotydd yn hedfan awyren heb beiriant. Sylweddolodd Syr George Cayley ym 1853 sut i wneud peiriant sy'n drymach na'r awyr hedfan. Datblygodd y Brodyr Wright ar hynny pan greon nhw yr awyren gyntaf wedi'i phweru gan injan.

Gleidr Ventus 2 yn glanio tra'n gollwng dŵr sydd wedi cael ei defnyddio fel balast.
Gleidiwr crog

Datblygodd Gleidio fel chwaraeon yn y 1920au – yn dechrau gyda hedfan am fwy o amser, ac wedyn i hedfan am fwy o bellder dros y wlad. Trwy wella dealltwriaeth o aerodynameg a'r tywydd, gellir hedfan pellach a chyflymach erbyn hyn. Mae hedfan am bellder hir iawn yn bosib trwy hedfan mewn awyr sy'n codi ac mae hedfan am fwy na 1,000 cilomedr yn bosib. Mae peilotydd yn gallu gweithio i ennill cymwysterau a bathodynnau i ddangos ei sgiliau.

Mae gleidio cystadleuol yn boblogaidd iawn hefyd efo llawer o gystadlaethau lleol a rhanbarthol ar draws y byd, gyda Cystadleuaeth y Byd bob yn ail flwyddyn.


Safleoedd gleidio

634 VGS
636 VGS
Brynbuga
Cwm Nedd
Dinbych
Llandegla
Talgarth
Mynydd Hir
Swydd Amwythig
Swydd Henffordd
Safleoedd gleidio yng Nghymru

Ceir sawl lle i hedfan yng Nghymru oherwydd mae llawer o gribau mynydd yn y wlad. Ceir pum cangen o'r Clwb Gleidio Prydeinig yn Talgarth, Cwm Nedd, Brynbuga, Dinbych a Llandegla sy'n croesawu'r cyhoedd i hedfan gyda nhw. Ceir dau Sqwadron Gleidio Cadetiaid Awyr; un yn Sain Tathan (ger Caerdydd) ac un arall ym Mhenryn Gŵyr (ger Abertawe).

PwyLleGleider
634 VGSSain TathanVigilant T1
636 VGSAbertaweVigilant T1
Clwb Gleidio Cwm NeddRhigos??
Clwb Gleidio De CymruBrynbugaK13
Grob 103 Twin Astir
K8
Grob G102 Astir
Clwb Gleido DinbychParc LenewiVenture
Clwb Gleido Gogledd CymruLlandegla??
Clwb Gleidio Mynydd DuTalgarthK13
K21
K6
SZD-30 Pirat
SZD-51 Junior


Dolenni allanol