Gerddi Kew

gardd fotaneg yn Kew, Llundain

Gardd fotanegol yn Kew, Llundain Fwyaf, Lloegr, yw Gerddi Kew. Mae'n cynnwys un o gasgliadau botanegol a mycolegol mwyaf, a mwyaf amrywiaethol y byd.[1] Fe'i sefydlwyd yn 1840 o'r ardd ecsotig ym Mharc Kew yn Middlesex, Lloegr. Mae casgliad byw yr ardd yn cynnwys mwy na 30,000 math gwahanol o blanigion, tra bo'r llysieufa, un o'r rhai mwyaf yn y byd, yn cynnwys dros saith miliwn o esiamplau o blanhigion wedi eu gwasgu. Mae'r llyfrgell yn cynnwys dros 750,000 o gyfrolau, ac mae'r casgliad darluniau yn cynnwys mwy na 175,000 o brintiau a darluniadau o blanhigion. Mae'n un o atuniadau mwyaf poblogaidd Llundain a fe'i gydnabyddir fel Safle Treftadaeth y Byd.

Gerddi Kew
Mathgardd fotaneg, llysieufa, sefydliad addysg uwch, gardd Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Llundain Richmond upon Thames
Daearyddiaeth
SirLlundain Fwyaf
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd272.32 ha Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tafwys Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.4789°N 0.2936°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ1793776087 Edit this on Wikidata
Rheolir ganRoyal Botanic Gardens, Kew Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethparc rhestredig neu ardd restredig Gradd I, Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Manylion

Hanes

Y polyn fflag yng Ngerddi Kew, a fu'n sefyll rhwng 1959 a 2007.

Mae Kew yn cynnwys y gerddi eu hunain, yn ogystal â chymuned leol fechan. Gwelwyd cartref brenhinol yn yr ardal yn gyntaf yn 1299 pan symudodd Edward I ei lys i faenordy gerllaw yn Richmond (neu Sheen fel y'i gelwid ar y pryd). Fe adawyd y maenordy hwnnw wedyn, ond adeiladodd Harri VII Balas Sheen (Palas Richmond erbyn hyn) yn 1501, a daeth hwnnw'n gartref brenhinol parhaol[2][3][4] Oddeutu dechrau'r 16g, ymgartrefodd gwŷr llys Plas Richmond yn Kew, gan adeiladu tai mawr.[5] Roedd y tai hyn yn cynnwys tŷ Mari Tudur, ac adeiladwyd ffordd i gysylltu'r tŷ hwnnw â Phalas Richmond yn 1522. Oddeutu 1600, adnabyddid y tir lle mae Gerddi Kew heddiw fel Maes Kew, cae mawr oedd yn cael ei ffermio gan un o'r ystadau preifat newydd ar y pryd.[6][7]

Gellir olrhain dechreuad Gerddi Kew yn ôl i pan gyfunwyd ystadau brenhinol Richmond a Kew yn 1772.[8] Adeiladodd William Chambers lawer o adeiladau gardd, gan gynnwys y pagoda Tsieiniaidd sy'n dal yn y gerddi hyd heddiw yn 1761. Ychwanegodd Sior III at y gerddi gyda chymorth William Aiton a Joseph Banks.[9]

Gwnaethwyd Gerddi Kew yn ardd fotanegol genedlaethol yn 1840.[10] Yn dilyn hynny, helaethwyd yr ardd i fod yn 30 hectr (75 erw) a'r goedardd i fod yn 109 hectr (270 erw), ac wedyn yn 121 hectr (300 erw).

Adeiladwyd y Tŷ Palmwydd gan y pensaer Decimus Burton a'r gwnaethurwr haearn Richard Turner rhwng 1844 a 1848. Dyma'r tro gyntaf i haearn gyr gael ei ddefnyddio ar raddfa mor fawr. Fe'i cydnabyddir fel adeilad haearn a gwydr Fictorianaidd mwyaf pwysig y byd.[11][12] Adeiladwyd y Tŷ Tymherol, sydd ddwywaith mor fawr a'r Tŷ Palmwydd, wedyn yn y 19g. Dyma'r tŷ gwydr Fictorianaidd mwyaf yn y byd heddiw.

Ym mis Chwefror 1913, llosgwyd y Tŷ Te yng Ngerddi Kew i'r llawr gan y swffragetiaid Olive Wharry a Lilian Lenton fel rhan o gyfres o dannau bwriadol yn Llundain.[13]

Collodd Gerddi Kew gannoedd o goed yn Storm Fawr 1987.[14]

Rhwng 1959 a 2007, Gerddi Kew oedd gan y polyn fflag talaf ym Mhrydain. Fe godwyd y polyn - wedi ei wneud o un goeden Ffynidwydden Douglas o Ganada - i ddathlu canmlwyddiant talaith British Columbia a dauganmlwyddiant Gerddi Kew. Bu'n rhaid tynnu'r polyn i lawr yn 2007 oherwydd fod difrod tywydd a chnocellod y coed wedi ei wneud yn beryglus.[15]

Ym mis Gorffennaf 2003, rhoddodd UNESCO y gerddi ar eu rhestr o Safleoedd Treftadaeth y Byd.[16]

Cwblhawyd prosiect pum mlynedd a gostiodd £41 miliwn i adnewyddu'r Tŷ Tymherol ym mis Mai 2018.[17]

Gweler hefyd

  • Gwyfyn bwâu Kew (Lladin: Brithys crini)
  • St Kew, Pentref a phlwyf sifil yng Nghernyw (Cernyweg: Lanndoghow)
  • Ciwa, santes a merthyr Gymreig o ddechrau'r 5g. 'Ciwa' neu 'Gigwa' yn Gymraeg (Cernyweg: Cuach, Kuet; Saesneg: Kew).

Cyfeiriadau