Gemau Ymerodraeth Prydain 1930

Gemau Ymerodraeth Prydain 1930 oedd y cyntaf o'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad. Fe'i cynhaliwyd yn Hamilton, Ontario, Canada rhwng Awst 16–23, 1930.

Gemau Ymerodraeth Prydain 1930
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad1930 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd16 Awst 1930 Edit this on Wikidata
Daeth i ben23 Awst 1930 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
Olynwyd ganGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadHamilton Edit this on Wikidata
Yn cynnwysrowing at the 1930 British Empire Games Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gemau 1af Ymerodraeth Prydain
Campau59
Seremoni agoriadol16 Awst
Seremoni cau23 Awst
II  >

Hanes

Yn dilyn cyfarfod ymysg athletwyr a swyddogion gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig yng Ngemau Olympaidd 1928 yn Amsterdam penderfynwyd sefydlu gemau rhwng gwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig. Canada gafodd ei dewis i gynnal y Gemau agoriadol fel y wlad fuddugol yn Nhlws Londsdale; cystadleuaeth a drefnwyd i ddathlu coroni Brenin Sior V ym 1911.

Gordon Smallacombe, athletwr o Ganada, enillodd y fedal aur cyntaf erioed yn y naid driphlyg.[1]

Chwaraeon

Timau yn cystadlu

Cafwyd 11 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig, 1930

Tabl Medalau

 Safle CenedlAurArianEfyddCyfanswm
1  Lloegr25221360
2 Canada20161854
3 De Affrica64818
4  Seland Newydd3429
5  Awstralia3418
6  Yr Alban23510
7  Cymru0213
8 Gaiana Brydeinig0112
9 Iwerddon0101
Cyfanswm595749165

Medalau'r Cymry

Dim ond dau aelod oedd yn nhîm Cymru ar gyfer y Gemau yn Hamilton gyda'r medalau i gyd yn dod gan y nofwraig Valerie Davies. Ni chafodd Gymru wahoddiad i yrru tîm athletau i Hamilton gan nad oedd gan Gymru gorff athletau cenedlaethol ar y pryd, ond llwyddodd y Cymro, Reg Thomas i ennill medal aur tra'n gwisgo fest Lloegr.[2] Yn yr un modd, enillodd Albert Love o Gaerdydd fedal efydd yn y sgwâr bocsio tra'n cynrychioli Lloegr oherwydd diffyg tîm bocsio Cymreig.[3]

MedalEnwCystadleuaeth
ArianValerie DaviesNofio400llath dull rhydd
ArianValerie DaviesNofio100llath dull rhydd
EfyddValerie DaviesNofio100llath ar ei chefn

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Rhagflaenydd:
Cyntaf
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Llundain