Figaniaeth

athroniaeth sy'n gwrthod defnyddio anifeiliaid
Gofal! Mae'r erthygl hon yn sôn am ddeiet nad yw'n cynnwys unrhyw gynnyrch gan anifeiliaid, ac nid llysieuaeth.

Figaniaeth yw'r ymarfer o fwyta lysiau a ffrwythau'n unig, heb unrhyw gynnyrch gan anifeiliaid (Saesneg: Veganism). Mae figaniaeth yn ffordd o fyw a ddilynir ers canrifoedd ond mae'r term yn tarddu o'r 1940au. Gellir diffinio figaniaeth (mewn modd negyddol) drwy ddweud fod y llyswr yn ymwrthod rhag bwyta cig neu ecsbloitio anifeiliaid mewn unrhyw fodd, a hynny drwy beidio â defnyddio llaeth, wyau, caws, gwlân na mêl. Bathwyd y gair Saesneg vegan yn 1944 gan Donald Watson (sef cydsefydlydd the Vegan Society), drwy gywasgu'r gair vegetarian h.y. veg- + -an.

Bwyd y llyswr
photographphotograph
photographphotograph
Clocwedd o'r top chwith: toffw, pitsa,
cacenau di-fenyn a makizushi
Diffiniad cyffredinolPeidio a defnyddio cynnyrch anifeiliaid
Blaenarwyd y tir ganRoger Crab (1621–1680)[1]
James Pierrepont Greaves (1777–1842)
Percy Bysshe Shelley (1792–1822)
Sylvester Graham (1794–1851)[2]
Amos Bronson Alcott (1799–1888)
Donald Watson (1910–2005)
H. Jay Dinshah (1933–2000)
Bathiad Saesneg (vegan)Tachwedd 1944, gan y British Vegan Society
Llyswyr enwog
Rhestr o lyswyr ar Wici Saesneg

Mae sawl rheswm dros fod yn figan (sef person sy'n ymarfer figaniaeth), gan gynnwys rhesymau amgylcheddol, moesol, meddygol, neu ddietegol.

Roedd syniadau gwreiddiol Watson yn 1944 yn ymwneud â llysieuwr nad oedd ychwaith yn defnyddio cynnyrch llaeth, ac ymhen ychydig ehangodd y diffiniad i gynnwys wfftio'r ymarfer o ecsbloitio a defnyddio anifeiliaid mewn unrhyw fodd.[3] Cynyddodd y diddordeb mewn llysiaeth yn y 2000au pan ddaeth ar y farchnad fwydydd amrywiol, wedi'u prosesu'n arbennig ar gyfer deiet figanaidd. Nododd nifer o athletwyr eu bod yn figaniaid, yn enwedig yn y Triathlon Ironmana'r ultramarathon.[4]

Yr athletwr Carl Lewis, figan

Datgelodd gwaith ymchwil y maethegydd Winston Craig yn 2009 fod deiet figanaidd yn cynnwys lefelau uchel o ffibr, magnesiwm, asid ffolig, fitamin C, fitamin E a haearn, a'i fod yn isel mewn caloriau, braster dirlawn, asidau brasterog, colestorol, fitamin D, calsiwm, zinc a |fitamin B12.[5] Ymddengys yn ôl adroddiadau gan sawl corff safonol[6] fod deiet y figan yn gwarchod rhag rhai afiechydon megis afiechyd y galon,[7] ac yn addas ar gyfer pob oedran, Un o'r ychydig fwynau / fitaminau nad yw ar gael mewn planhigion yw B12 (sy'n cael ei greu gan feicro-organebau megis bacteria), felly dylai figaniaid gymeryd ychwanegion B12 ar ffurf tabledi.[8] Dywedir hefyd fod figaniaid, ar y cyfan, yn deneuach na'r arfer, gyda cholestorol a phwysau gwaed is. Credir hefyd fod ffactorau megis ymwrthod rhag cig, bwyta ffrwythau, a meddu ar indecs màs y corff (BMI) isel yn amddiffyn y corff rhag cansar.[9]

Hanes

Mae llysieuaeth yn ymarfer hŷn na figaniaeth, a gellir ei olrhain yn ôl i India a Groeg. Yn y 19eg y daw'r gair vegetarian i fodolaeth. Defnyddiwyd y gair 'llysieuwr/aig' yn y 15-6g, ond ei ystyr oedd 'person sy'n defnyddio llysiau a pherlysiau i bwrpas meddygol.[10] Roedd 'Geiriadur Saesneg Rhydychen yn wreiddiol yn y 19g yn nodi mai'r actores Fanny Kemble (1809–1893), yn Georgia yn 1839 a sgwennodd y gair am y tro cyntaf.[11] Y bryd hynny total vegetarians oedd y term a ddefnyddiwyd am y figan.[12]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau