Fesigl semenol
Organau cenhedlu gwrywaidd |
---|
![]() |
|
Mae'r fesigl semenol yn un o bâr o chwarennau a geir yn yr isgeudod, sy'n gweithredu i gynhyrchu llawer o gynhwysion cyfansoddol semen. Maent yn darparu rhwng 60 a 70% o gyfanswm cyfaint y semen[1].
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endidau anatomegol ![]() |
---|---|
Math | fesigl, organ component gland, endid anatomegol arbennig ![]() |
![]() |
Strwythur
Mae'r chwarennau semenol yn ddau diwb 5 cm o hyd. Fe'u lleolir rhwng ffwndws y bledren a'r rectwm. Eu perthynas anatomegol bwysicaf yw gyda'r vas deferens, sy'n cyfuno â dwythell y fesigl semenol i ffurfio'r ddwythell alldaflol, sydd wedyn yn draenio i'r wrethra prostatig[2].
Yn fewnol mae gan y chwarren strwythur crwybrog, gyda llabedennau a mwcosa wedi'i linio gan epitheliwm. Mae'r celloedd hyn yn cael eu dylanwadu gan destosteron sydd yn gwneud iddynt dyfu'n dalach gyda lefelau uwch. Maent yn gyfrifol am gynhyrchu secretiadau semenol.
Swyddogaeth
Mae gan secretiadau'r chwarren semenol rôl allweddol yng ngweithrediad semen, gan greu hyd at 70% o'i gyfaint cyfan. Mae'r secretiadau yn cynnwys;
- hylif alcalïaidd - sydd yn niwtraleiddio asidedd y wrethra gwrywaidd a'r fagina er mwyn hwyluso goroesiad sbermatosoa.
- ffrwctos – math o siwgr sy'n ffynhonnell ynni ar gyfer y sbermatosoa.
- prostaglandinau - sy'n rhwystro ymateb system imiwnedd corff y fenyw rhag ymosod ar y semen o gorff estron.
- ffactorau ceulo - a gynlluniwyd i gadw semen yn llain atgenhedlu'r fenyw wedi i'r dyn alldaflu.
Mae gweddill y semen yn cynnwys sbermatosoa o'r ceilliau, secretiadau o'r brostad a mwcws o'r chwarennau bulbourethral.
Anhwylderau
Mae anhwylderau'r fesigl semenol yn cynnwys llid[3] codennau, crawniadau, anomaleddau cynhenid, cyst hydatid, cerrig calsiwm a thiwmorau.