Emilia Broomé
Ffeminist a swffragét o Sweden oedd Emilia Broomé (13 Ionawr 1866 - 2 Mehefin 1925); roedd hefyd yn wleidydd, yn athrawes ysgol uwchradd ac yn fredspolitiker. Ei henw llaw oedd Emilia Augusta Clementina Broomé, née Lothigius. Yn 1914, fe'i hetholwyd, fel y ferch gyntaf, i Gynulliad Cenedlaethol Sweden.
Emilia Broomé | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 13 Ionawr 1866 ![]() Jönköpings Sofia church parish ![]() |
Bu farw | 2 Mehefin 1925 ![]() Kungsholm ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, gwleidydd lleol, Q106580697, fredspolitiker, female supporter of women's right to vote, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, Q111363944 ![]() |
Swydd | city council member, aelod o fwrdd, cadeirydd, cadeirydd, cadeirydd, aelod o fwrdd, cadeirydd ![]() |
Plaid Wleidyddol | Liberal Party of Sweden, Cymdeithas Genedlaethol y Meddwl Rhydd ![]() |
Tad | Isak Lothigius ![]() |
Plant | Birgit Broomé ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Illis Quorum ![]() |
Fe'i ganed yn Jönköpings församling ar 13 Ionawr 1866; bu farw yn ninas Stockholm ac fe'i claddwyd ym "Mynwent y Gogledd".[1][2][3][4][5][6][7]
Magwraeth
Wedi cyfnod yn astudio yn yr ysgol leol i fenywod, cafodd radd yn 'Wallinska skolan' ym 1883 a graddiodd mewn athroniaeth a meddygaeth yn Uppsala ym 1884. Wedi hynny, fe'i cyflogwyd yn athrawes yn ysgol Anna Whitlock yn Stockholm.[8][9][10][11][12]
Yr addysgwraig
Hi oedd cadeirydd Stockholmsföreningen o blaid kvinnans politiska rösträtt (sef Cangen Stockholm o Gymdeithas Genedlaethol Etholfraint y Menywod) o'i sefydlu ym 1902 hyd at 1906. Roedd yn aelod o fwrdd cyfarwyddwyr y CSA (Y Gymdeithas Lles Cymdeithasol) rhwng 1904 –1925, ac yn aelod o Gyfarwyddiaeth Addysg Stockholm.
Heddwch
Sefydlodd a bu'u gadeirydd Undeb Heddwch Menywod Sweden, o 1898 nes iddi uno ag Undeb Heddwch Sweden ym 1911, a gweithredodd hefyd fel cynrychiolydd Sweden yn y gynhadledd heddwch ryngwladol yn Haag yn 1899.
Y gwleidydd
Enwebwyd Emilia Broomé ar gyfer etholiad Cyngor Dinas Stockholm yn 1910 ac yn 1911. Fe'i hetholwyd i gyngor y ddinas yn ystod yr ail etholiad a gwasanaethodd rhwng 1911–1924. Hi oedd cadeirydd y merched rhyddfrydol 1917–1920.
Emilia Broomé oedd y fenyw gyntaf o Sweden i fod yn rhan o bwyllgor deddfwriaethol gwladwriaeth Sweden (Lagberedningen), a oedd yn paratoi cyfreithiau newydd a bu'n aelod o'r pwyllgor rhwng 1914–1918. Cymerodd ran yn y gwaith o ysgrifennu'r gyfraith briodas ddiwygiedig ym 1920, lle cafodd dynion a merched eu gwneud yn gyfartal yn llygad y gyfraith, a lle datganwyd bod y fenyw briod yn cael yr hawl i bleidleisio, yn cael cyflog cyfartal (1921) ac yn rhoi'r hawl i fenywod i gael eu cyflogi ym mhob proffesiwn swyddogol yn 1923.
Aelodaeth
Bu'n aelod o Gymdeithas Stockholm ar gyfer Hawl Gwleidyddol y Merched i Bleidleisio, a'r Undeb Ganolog ar gyfer Gwaith Cymdeithasol am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Illis Quorum (1916)[13] .