Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Tawe, Nedd ac Afan 2003

Eisteddfod yr Urdd a gynhaliwyd ym Mharc Margam, Port Talbot ym Mai 2003

Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Tawe, Nedd ac Afan 2003 rhwng 26 - 31 Mai 2003 a chynhaliwyd hi ym Mharc Gwledig Margam ger Port Talbot.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Tawe, Nedd ac Afan 2003
Enghraifft o'r canlynolEisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad2003 Edit this on Wikidata
LleoliadParc Gwledig Margam Edit this on Wikidata
Castell Margam yn rhan o Parc Gwledig Margam ger Port Talbot, lleoliad yr Eisteddfod

Gweithgareddau a rhagbrofion o fewn maes yr Eisteddfod

Carreg filltir bwysig yn hanes yr Eisteddfod oedd cynnal y rhagbrofion ar y maes ei hun mewn lleoliadau fel yr Orendy, y Pafiliwn a Phafiliwn S4C. Bydd Castell Margam hefyd yn gartref ysblennydd i'r arddangosfa Gelf, Dylunio a Thechnoleg.

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod ar Celfyddydau, "Mae'r ffaith fod y cyfan o'r gweithgareddau bron yn digwydd ar yr un lleoliad eleni yn ddatblygiad pwysig yn hanes yr Eisteddfod."[1]

Enillwyr

  • Y Goron - Debbie Anne Williams o Borthmadog oedd yn astudio gradd ymchwil MPhil yn rhan amser ar y pwnc 'Rhyddiaith i Ennill' ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn ysgrifennu "i'r darllenydd cyffredin". Roedd newydd ddechrau swydd gyda Menter Iaith Gwynedd fel Swyddog Ieuenctid a'r Gymraeg.[2]
  • Y Gadair - Ifan Prys o Landwrog yn ennill am y 3ydd tro gyda cherdd am Ryfel Irac. Graddiodd yn Aberystwyth ac roedd yn dilyn cwrs Ymarfer Dysgu ym Mhrifysgol Bangor ar y pryd.[3]
  • Y Fedal Ddrama - Luned Emyr o Gaerdydd Enillodd y Fedal yn Eisteddfod Llanbedr Pont Steffan ym 1999, ac yn Ngŵyl yr Urdd 2001 (ni bu Eisteddfod gyffredin oherwydd Clwy'r Traed a'r Genau y flwyddyn honno). Cafodd ei hysbrydoli i ysgrifennu drama fuddugol eleni, monolog o'r enw Ystafell Dywyll, pan oedd ar gwrs wyth mis yn y Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Ebeltoft, yn Nenmarc.[4]
  • Y Fedal Lenyddiaeth - Nia Peris o Ddyffryn Nantlle oedd byw yng Nghaerdydd ers pedair blynedd, am ei chyfrol Cyfarwydd, oedd yn gasgliad o farddoniaeth a straeon byrion.[5]
  • Tlws Cyfansoddwr - Angharad Lewis o Bontarddulais ger Abertawe byw ym Mangor ers pedair blynedd gan ddilyn cwrs gradd B.Mus Cerddoriaeth yn y Brifysgol ac wedi dilyn gwrs ymarfer dysgu uwchradd.[6]
  • Y Fedal Gelf -
  • Medal y Dysgwr - Jack Price, aelod o Adran Coleg Iâl, Cylch Maelor. Roedd yn astudio'r Gymraeg i Lefel A ac am fynd i Brifysgol Aberystwyth a mynd yn gyfieithydd.[7]

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol