Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont, Taf, ac Elai 2017

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont, Taf, ac Elai 2017

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont, Taf ac Elai 2017 rhwng 29 Mai a 3 Mehefin 2017 ym Mhencoed.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Pen-y-bont, Taf, ac Elai 2017
Enghraifft o'r canlynolEisteddfod Genedlaethol yr Urdd Edit this on Wikidata
Dyddiad2017 Edit this on Wikidata
LleoliadPen-coed Edit this on Wikidata

Cynheliwyd gorymdaith Gŵyl Gyhoeddi yr Eisteddfod ar ddydd Sadwrn 8 Hydref 2016 yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr gydag adloniant i ddilyn ar gaeau Pontnewydd.[1] Cafwyd perfformiadau gan Syrcas Circus, cyflwynwyr rhaglen blant Stwnsh ar S4C, cymeriadau rhaglen Cyw, stondinau nwyddau, Band Mawr Pen-y-bont, y gantores Danielle Lewis, Cpt Smith a pherfformiadau gan ysgolion, adrannau a grwpiau lleol.[2]

Cynhaliwyd Cyngerdd Agoriadol ym mhefiliwn y Maes ar 28 Mai gyda'r gyflwynwraig Sian Lloyd yn arwain a cherddoriaeth gan Sophie Evans, Only Boys Aloud (fersiwn iau o Only Men Aloud!, Dawnswyr Bro Taf, Steffan Rhys Hughes, Rhydian Jenkins, Côr Bro Taf ac eraill.[3]

Bu i bron 90,000 ymweld â'r Maes yn ystod yr wythnos a dros 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos.[4]

Enillwyr

  • Y Goron - Elen Gwenllian Hughes, Aelwyd Chwilog[5][4]
  • Y Gadair - Gwynfor Dafydd [6][4]
  • Y Fedal Ddrama - Mared Llywelyn[4]
  • Y Fedal Lenyddiaeth -
  • Tlws y Cyfansoddwr - Ryan Howells[4]
  • Enillydd y Fedal Gelf - Tomos Sparnon[7][8]
  • Medal y Dysgwr - Rebecca Jones o Gwmdâr, Cwm Cynon oedd yn fyfyrwraig Cymraeg ail-iaith ym Mhrifysgol Abertawe[9]

Oriel

Cyfeiriadau

Dolenni allanol