Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd 2009
Roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Bae Caerdydd 2009 yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd rhwng Mai 25 a Mai 30 2009.
Enghraifft o'r canlynol | Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ![]() |
---|---|
Dyddiad | 2009 ![]() |
Lleoliad | Bae Caerdydd ![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/ca/Milennium_Centre%2C_St_David%27s_Day_Canolfan_y_Mileniwm%2C_Dydd_G%C5%B5yl_Dewi_2009_%283678311190%29.jpg/250px-Milennium_Centre%2C_St_David%27s_Day_Canolfan_y_Mileniwm%2C_Dydd_G%C5%B5yl_Dewi_2009_%283678311190%29.jpg)
Dyma oedd yr eildro yn hanes y mudiad i Ganolfan y Mileniwm fod yn ganolbwynt i weithgareddau gyda stondinau ag arddangosfeydd gerllaw a'r arddangosfa Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn adeilad y Senedd - nad oedd wedi ei adeiladu pan ymwelodd yr Eisteddfod a Chaerdydd ddiwethaf yn 2005.[1]
Cynhaliwyd Gŵyl Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Bae Caerdydd ar 11 Ebrill 2008.
Roedd y dathlu yn dechrau am 11 y bore yng nghaffi 'Hufen' yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gyda derbyniad i wahoddedigion a ddymunir croesawu'r Eisteddfod i'r brifddinas. I ddilyn, bu ysgolion Cymraeg cynradd Caerdydd yn cymryd rhan mewn perfformiad i groesawu'r Ŵyl yn y Lanfa ym Mae Caerdydd.[2]
Roedd y niferoedd ar gyfer yr wythnos gyfan yn uwch nag Eisteddfod Sir Conwy 2008 - 96,013 o gymharu â 91,785 yn Llandudno.
Ond, o drwch blewyn, methodd Eisteddfod 2009 yng Nghanolfan y Mileniwm a churo Eisteddfod 2005 (yng Nghaerdydd) - ymwelodd 572 yn fwy â honno, 96,585.[3]
Enillwyr
- Y Goron - Lleucu Fflur Hughes o Bencaenewydd ger Pwllheli oedd yn ohebydd gyda'r Cymro yn ei swyddfa ym Mhorthmadog.[4]
- Y Gadair - Neb yn deilwng
- Y Fedal Ddrama - Gruffudd Eifion Owen o Bwllheli[5]
- Y Fedal Lenyddiaeth -
- Tlws y Cyfansoddwr - Manon Hughes, yn wreiddiol o Babell ger Treffynnon, Sir Y Fflint. Bu'n astudio Cerdd yng Coleg Sant Ioan, Caergrawnt, a'r Delyn yn y Guildhall, Llundain.[6]
- Y Fedal Gelf - Léa Sautin, gwneuthurwr print ac yn animeiddiwr o Ben Llŷn, sy’n byw yng Nghaerdydd [7]
- Medal y Dysgwr - Caroline Hagg, Ysgol Gyfun Trefynwy yn Sir Fynwy. Roedd yn astudio Lefel A ac yn byw ym mhentref bychan Penallt ger Trefynwy.[8]