Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014

Cynhelwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014 ar faes arfordirol Llanelli. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Ngŵyl y Cyhoeddi ar 29 Mehefin 2013 gyda dros fil o bobl yn gorymdeithio drwy dref Caerfyrddin.[1] Cyfanswm nifer yr ymwelwyr oedd 143,502.[2]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014
 ← BlaenorolNesaf →
LleoliadParc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli
Cynhaliwyd2 - 8 Awst 2014
ArchdderwyddChristine James
Daliwr y cleddyfRobin o Fôn
CadeiryddGethin Thomas
LlywyddJohn Meurig Thomas
Nifer yr ymwelwyr143,502
Enillydd y GoronGuto Dafydd
Enillydd y GadairCeri Wyn Jones
Gwobr Daniel OwenLleucu Roberts
Gwobr Goffa David EllisAndrew Matthews
Gwobr Goffa Llwyd o’r BrynElliw Alwen
Gwobr Goffa Osborne RobertsMeinir Wyn Roberts
Gwobr Richard BurtonSteffan Cennydd
Y Fedal RyddiaithLleucu Roberts
Medal T.H. Parry-WilliamsAlun Jones
Y Fedal DdramaDewi Wyn Williams
Tlws Dysgwr y FlwyddynJoella Price
Tlws y CerddorSioned Eleri Roberts
Ysgoloriaeth W. Towyn RobertsEirlys Myfanwy Davies
Medal Aur am Gelfyddyd GainSean Edwards
Medal Aur am Grefft a DylunioSusan Phillips
Gwobr Ivor DaviesMarian Delyth
Gwobr Dewis y BoblMai Thomas
Ysgoloriaeth yr Artist IfancSera Wyn Walker
Medal Aur mewn PensaernïaethLoyn & Co
Ysgoloriaeth PensaernïaethRichard Timmins
Medal Gwyddoniaeth a ThechnolegGoronwy Wynne
Gwefanwww.eisteddfod.org.uk

Cafwyd sawl cyngerdd gan gynnwys: Gala Agoriadol gyda chaneuon o sioeau cerdd poblogaidd gan gynnwys Grav, Nia Ben Aur, Pum Diwrnod o Ryddid ac Er Mwyn Yfory. Ar y nos Sadwrn cyntaf, cynhaliwyd cyngerdd gyda: Wynne Evans, John Owen-Jones, Shan Cothi, a Kizzy Crawford. Ymhlith y perfformwyr eraill roedd: Nigel Owens, Tri Tenor Cymru, Huw Chiswell, Gillian Elisa, Gwenda a Geinor a Chôr y Wiber. Noson glasurol oedd ar y nos Iau, sef Messe Solennelle, Gounod a Requiem, Faure gyda Fflur Wyn, Trystan Llŷr Griffiths, Gwion Tomos, a Cherddorfa Siambr Cymru, dan arweiniad Grant Llewellyn.

O fewn tafliad carreg i'r maes y sefydlwyd y Maes Carafanau a'r Gwersylla Teuluol - ar dir Castell y Strade.

CystadleuaethTeitl y DarnFfugenwEnw
Prif Gystadlaethau
Y GadairLloches"Cadwgan"Ceri Wyn Jones
Y GoronTyfu"Golygfa 10"Guto Dafydd
Y Fedal RyddiaithSaith Oes Efa"Honna"Lleucu Roberts
Gwobr Goffa Daniel OwenRhwng Edafedd"Botwm Crys"Lleucu Roberts

Llenyddiaeth

Crëwyd y Goron gan Angharad Pearce Jones a chafodd ei rhoi'n wobr am ddilyniant o ddeg o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell, dan y teitl ‘Tyfu’. Guto Dafydd oedd enillydd y Goron. Yn ôl Dylan Iorwerth, un o'r beirniaid, Maen nhw'n gerddi sy'n cyffroi wrth eu darllen ac wrth weithio yn y meddwl.[3] ‘Lloches’ oedd teitl y Gadair ac fe'i rhoddwyd am awdl ar fwy nag un o’r mesurau caeth heb fod dros 250 llinell. Yr Athro Prifysgol, Damian Walford Davies o Brifysgol Aberystwyth oedd yn ail.[4]

Robert Hopkins, crefftwr lleol, oedd gwneuthurwr y Gadair a'r enillydd oedd Ceri Wyn Jones. Dau o'r tri beirniaid yn unig a fynegodd fod ei gerdd yn deilwng o'r Gadair; anghytunodd Alan Llwyd gan fynegi: Mae Cadwgan yn gynganeddwr hynod o fedrus, mae'n amlwg, ond methodd gyda'r awdl hon, yn fy marn i.[5] Ar y llaw arall, barn Idris Reynolds oed, Fe'm cyffyrddwyd gan awdl "Cadwgan". Mae'n fardd disglair ac yn llwyr deilyngu Cadair Eisteddfod Sir Gâr eleni.

Enillydd y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Lleucu Roberts sy'n wreiddiol o Bow Street, Ceredigion ond sy'n byw ers tua 1992 yn Rhostryfan ger Caernarfon. Rhoddwyd Gwobr Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi a mynegodd Bethan Mair, un o'r tri beirniaid, Fe'm rhwydwyd gan y nofel gymesur, hardd a theimladwy, "Rhwng Edafedd"... Saith stori fer a enillodd iddi'r Fedal Ryddiaith, yn olrhain oes merch, drwy wahanol gyfnodau saith o ferched mewn gwahanol rannau o Gymru. Dyma lenor penigamp, medd Catrin Beard, sydd wedi saernïo pob stori'n grefftus a chaboledig.

Dewi Wyn Williams oedd enillydd y Fedal Ddrama.

Gwaith buddugol coll Cyfansoddiadau a Beirniadaethau

Ni ymddangosodd gwaith buddugol y gystadleuaeth Monolog yng Nghyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod. “Nid yw’r Eisteddfod yn ystyried bod y deunydd arobryn yn addas, am wahanol resymau, i’w gyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.” oedd sylw'r Eisteddfod am waith Rhodri Trefor.[6]

Cerddoriaeth

Enillydd Tlws y Cerddor oedd Sioned Eleri Roberts sydd o Fangor ac sy'n gweithio'n aml gydag Ensemble Cymru ac sy'n arbenigo ar y clarinet. Mae hi hefyd yn diwtor ym Mhrifysgol Bangor a dyma oedd y tro cyntaf iddi gystadlu mewn cystadleuaeth gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[7]

Maes B

Ymhlith yr artistiaid a ymddangosodd ym Maes B roedd: Y Bandana, Yr Ods, Sen Segur, Colorama, Gwenno Saunders, Y Reu, Mellt, Gramcon, Al Lewis Band, Y Cledrau, Sŵnami a Chowbois Rhos Botwnnog.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau