Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009 ar gaeau Stad Rhiwlas, ger Y Bala, Gwynedd, rhwng y 1af a’r 8fed o Awst. Roedd cost yr Eisteddfod yn £3.3 miliwn gyda'r gronfa leol wedi codi £290,000, sef £90,00 yn fwy na'r targed.[2]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009
 ← BlaenorolNesaf →

-

LleoliadTir Stad y Rhiwlas, Y Bala, Gwynedd. LL23 7DN
Cynhaliwyd1af-8fed o Awst 2009
ArchdderwyddDic Jones
Daliwr y cleddyfRobin o Fôn
CadeiryddElfyn Llwyd
LlywyddGwilym Prys Davies
Cost cynnal£3.3 miliwn
Nifer yr ymwelwyr164,689 [1]
Enillydd y GoronCeri Wyn Jones
Enillydd y Gadairneb yn deilwng
Gwobr Daniel OwenFflur Dafydd
Gwobr Goffa David EllisTrebor Lloyd Evans
Gwobr Goffa Llwyd o’r BrynElin Williams
Gwobr Goffa Osborne RobertsTrystan Llŷr Griffiths
Gwobr Richard BurtonGwydion Rhys
Y Fedal RyddiaithSiân Melangell Dafydd
Medal T.H. Parry-WilliamsHaf Morris
Tlws Dysgwr y FlwyddynMeggan Lloyd Prys
Tlws y CerddorAtal y Wobr
Ysgoloriaeth W. Towyn RobertsCatrin Aur
Medal Aur am Gelfyddyd GainElfyn Lewis
Medal Aur am Grefft a DylunioLowri Davies
Gwobr Ivor DaviesOsi Rhys Osmond
Gwobr Dewis y BoblLowri Davies
Ysgoloriaeth yr Artist IfancHywel Prytherch Roberts
Medal Aur mewn Pensaernïaethpenseiri canolfan ymwelwyr Hafod Eryri
Ysgoloriaeth PensaernïaethSian Seys-Evans
Medal Gwyddoniaeth a ThechnolegDafydd Dafis
Gwefanwww.eisteddfod.org

Oherwydd yr holl law yn ystod yr wythnosau a oedd yn arwain at yr eisteddfod, roedd y maes ei hun mewn stâd reit ddrwg ar ddydd Sadwrn cyntaf yr ŵyl. Dywedodd y prif weithredwr, Elfed Roberts, fod y sefyllfa'n "edrych yn ddigon blêr ar y Maes ond bod gweithwyr yn ceisio cymoni a gosod ffyrdd i lawr". Erbyn canol yr wythnos, roedd cyflwr llawr y maes wedi gwella'n sylweddol oherwydd gwellhad yn y tywydd ac ymdrechau i gorchuddio'r ardaloedd gwlyb efo lloriau.

Poster Gigs Cymdeithas yr Iaith

Prif gystadlaethau

Prif Gystadlaethau
CystadleuaethTeitl y DarnFfugenwEnw
Y GadairAtal y wobr
Y GoronYn y Gwaed"Moelwyn"Ceri Wyn Jones
Y Fedal RyddiaethY Trydydd Peth"y mynydd segur"Siân Melangell Dafydd
Gwobr Goffa Daniel OwenY Llyfrgell"Palindrom"Fflur Dafydd

Y Cadeirio

Dyfarnwyd nad oedd neb yn deilwng yn 2009, ac atalwyd y gadair am y tro cyntaf ers 1998. Dywedodd y cyn-Archdderwydd Selwyn Iolen (yn absenoldeb Dic Jones) ei bod yn "bwysicach cadw safon na chynnal seremoni".

Y Coroni

Enillydd y goron oedd y Prifardd Ceri Wyn Jones am gerddi wedi'u cyflwyno i'w ewythr, y diweddar Barchedig Aled ap Gwynedd.

Gwobr Goffa Daniel Owen

Fflur Dafydd a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen. Y beirniaid oedd John Rowlands, Geraint Vaughan Jones a Rhiannon Lloyd. Galwodd John Rowlands yr awdur yn "ddewin llenyddol" a luniodd "nofel anghyffredin dros ben".

Gwobrau Celf

  • Y Fedal Aur am Bensaernïaeth: penseiri canolfan ymwelwyr Hafod Eryri, y ganolfan newydd ar gopa'r Wyddfa gafodd ei hagor ym mis Mehefin.
  • Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio: Lowri Davies, crochenydd o Gaerdydd, sy'n derbyn £5,000 fel gwobr am ei gwaith cerameg.
  • Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain: Elfyn Lewis, Porthmadog, am ei baentiadau haniaethol.

Dysgwr y Flwyddyn

Y pedwar a aeth ymlaen i'r rownd derfynol oedd: John Burton, Zoë Morag Pettinger, Meggan Lloyd Prys a Dominic Gilbert.Enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2009 oedd Meggan Lloyd Prys.

Maes B

Roedd Maes B yn dal 3,000 o bobl.[3]

Darlledu ar y we

Am y tro cyntaf erioed roedd yn bosib i bawb drwy'r byd wylio'r Brifwyl wrth i BBC Cymru ddarlledu'r digwyddiadau yn fyw ar y we, gydag Arfon Haines Davies a Sara Edwards yn sylwebu'n fyw ar y digwyddiadau. Roedd y darllediadau drwy gyfrwng y Saesneg.[4]

Prif swyddogion y pwyllgor gwaith

  • Cadeirydd: Elfyn Llwyd, Llanuwchllyn
  • Is-gadeiryddion: Gerallt Hughes, Arthog; Evie Morgan Jones, Llanbedr; Geriant Lloyd Jones, Penrhyndeudraeth; Dilwyn Morgan, Y Bala
  • Ysgrifennydd: Ian Lloyd Hughes, Y Bala.

Galeri Lluniau

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol