Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llŷn ac Eifionydd 2023 ym Moduan, Gwynedd, rhwng 5 - 12 Awst 2023.[16] Hwn oedd Eisteddfod olaf yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd.
Llywydd yr Ŵyl oedd Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, ac roedd hefyd yn un o feirniaid cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.[17]
Erbyn diwrnod cyntaf yr Eisteddfod, roedd £503,610 wedi ei godi gan y gronfa leol, y tro cyntaf iddo basio'r hanner miliwn. Dywedodd Ashok Ahir, Llywydd Llys yr Eisteddfod, na fyddai'r fath ymdrech yn bosib os nad oedd yr Eisteddfod yn teithio o amgylch Cymru.[18]
Cyngherddau
Cychwynnodd yr Eisteddfod gyda chyngerdd dan y teitl ‘Y Curiad: Ddoe, Heddiw, Fory’ ar y nos Sadwrn yng nghwmni’r grŵp gwerin, Pedair (Gwyneth Glyn, Gwenan Gibbard, Meinir Gwilym a Siân James), a Côr Gwerin yr Eisteddfod. Roedd nifer o artistiaid amlwg Cymru yn westeion arbennig, sef Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn, Einir Humphreys, Twm Morys, Tudur Phillips, Patrick Rimes a band gwerin.
Roedd y Gymanfa Ganu yn y Pafiliwn Mawr nos Sul, 6 Awst, fel arfer, gyda’r arweinydd profiadol Pat Jones wrth y llyw. Yr organydd oedd Ilid Anne Jones a bydd Côr y Gymanfa’n ymuno i ganu’r emynau, ynghyd â chanu cyfres o drefniannau newydd o rai o ganeuon enwocaf Leila Megàne, y mezzo-soprano enwog o Lŷn. Bydd nifer o’r caneuon yn adnabyddus iawn, gan gynnwys - ‘Gwlad y Delyn’, ‘Bwthyn Bach To Gwellt’, ‘Pistyll y Llan’, ‘Y Nefoedd’ a ‘Dafydd y Garreg Wen’. Paratowyd y trefniannau gan Ilid Anne Jones, ac fe’u golygwyd gan Huw Gwynne.[19]
Y Maes
Lleolwyd y Maes ym Moduan ar dir wrth ochr yr A497. (52°54′21″N 4°28′23″W / 52.905779°N 4.473136°W). Roedd y maes carafanau ar gaeau cyfagos i'r gogledd o'r Maes gyda Maes B i'r de o'r brif ffordd.
Roedd cynllun arbennig yn cynnig tocynnau am ddim i deuluoedd incwm isel sy'n byw yng Ngwynedd. Clustnodwyd £150,000 o gymorth ariannol gan Llywodraeth Cymru i gefnogi'r cynllun.[20]
Daeth glaw trwm ar y dydd Sadwrn cyntaf gan greu pyllau dŵr a mwd ond roedd y cae yn sychu'n gyflym, ac roedd y tywydd yn gymharol braf weddill yr wythnos.[21]
Prif gystadlaethau
Y Gadair
Enillydd y Gadair oedd Alan Llwyd (ffugenw "Llanw a Thrai"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Karen Owen, ar ran ei chyd-feirniaid Cathryn Charnell-White a Rhys Iorwerth. Dim ond 6 ymgeisydd oedd eleni ac roedd yn syndod i'r beirniaid fod cyn lleied wedi ymgeisio, yn enwedig wedi i'r pandemig oedi'r cystadlu am bron i dair blynedd. Y dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y testun Llif. Dywedodd y beirniaid fod y "tri mewn cytundeb llwyr, yn dawel ein meddyliau, mai Llanw a Thrai ydi'r bardd sydd ar y brig, a'i fod yn gwbl deilwng o'r Gadair a phob braint ac anrhydedd a berthyn iddi".[2]
Noddwyd y Gadair gan deulu’r diweddar Dafydd Orwig, addysgwr, arloeswr a chyn-gadeirydd Cyngor Sir Gwynedd. Mae'r Prifardd yn derbyn y gadair a £750. Cynlluniwyd a chrëwyd y Gadair gan Stephen Faherty sy'n byw ger Rhuthun ond yn hanu o ardal Porthmadog. Lluniwyd y Gadair o ddarn mawr o goeden dderw a blannwyd ar ymyl y Lôn Goed dros 200 mlynedd yn ôl.[22]
Y Goron
Enillydd y Goron oedd Rhys Iorwerth (ffugenw "Gregor"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Jason Walford Davies ar ran ei gyd-feirniaid Marged Haycock ac Elinor Wyn Reynolds. Cystadlodd 42 eleni a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Rhyddid. Yn cloi ei feirniadaeth, dywedodd Jason Walford Davies "Yr hyn a geir gan Gregor yw enghraifft loyw o fewnoli'r testun gosod i'r fath raddau nes bod 'pwnc' arwynebol yn troi'n rhan fywiol o weadwaith yr iaith a'r meddwl."[23]
Creuwyd y goron gan Elin Mair Roberts o'r Ffôr, ger Pwllheli ac fe'i noddwyd gan Gangen Sir Gaernarfon Undeb Amaethwyr Cymru. Roedd yna hefyd wobr ariannol o £750, a roddwyd gan deulu Bryn Bodfel, Rhydyclafdy, er cof am Griffith Wynne.
Gwobr Goffa Daniel Owen
Yr enillydd oedd Alun Ffred Jones o Lanllyfni. Traddodwyd y feirniadaeth gan Sioned Wiliam, ar ran ei chyd-feirniaid Mared Lewis a Dewi Prysor. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen a £5,000 gafodd ei roi gan Williams Homes a Grŵp Cynefin.
Daeth 10 cynnig ar y gystadleuaeth eleni a dywedodd y beirniaid bod "gan bob nofelydd rhywbeth gwahanol iawn i’w gynnig ac fe gafodd Mared a Dewi a finne bleser mawr yn trafod eu gwaith…". Roedd y tri beirniaid yn unfrydol fod "Gwynt y Dwyrain" gan Gerddi Gleision yn llwyr haeddu Gwobr Daniel Owen 2023.[24]
Y Fedal Ryddiaith
Enillydd y Fedal oedd Meleri Wyn James o Aberystwyth gyda'i nofel Hallt dan y ffugenw "Fi a Ti".
Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Porth". Yn ogystal â derbyn y Fedal Ryddiaith roedd gwobr ariannol o £750, yn rhoddedig er cof am Robyn a Gwenan Léwis, gan y teulu.
Thraddodwyd y feirniadaeth gan Menna Baines, ar ran ei chyd-feirniaid Lleucu Roberts ac Ion Thomas.[25]
Y Fedal Ddrama
Enillydd y Fedal oedd Cai Llewelyn Evans, sy'n wreiddiol o Bontarddulais ac yn byw yn Nhreganna, Caerdydd, am ei ddrama Eiliad o Ddewiniaeth (ffugenw "Wasabi"). Roedd 26 ymgais eleni. Traddodwyd y feirniadaeth gan Steffan Donnelly ar ran ei gyd-feirniaid Seiriol Davies ac Elgan Rhys. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Cyflwynwyd y Fedal er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). Cyflwynwyd rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa JO Roberts.[8]
Canlyniadau cystadlaethau
Bandiau Pres
1. Bandiau Pres Pencampwriaeth | Dosbarth 11. Seindorf Arian Deiniolen2. Band Arian Llaneurgain3. Seindorf Beaumaris
3. Bandiau Pres Dosbarth 41. Band Pres Treffynnon2. Band Pres Porthaethwy3. Seindorf Arian yr Oakeley, Blaenau Ffestiniog
4. Bandiau Pres Ieuenctid1. Seindorf Ieuenctid Beaumaris, Beaumaris2. Band Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, Caernarfon
Cerdd Dant
5. Côr Cerdd Dant dros 20 mewn nifer1. Côr yr Heli2. Côr Trillyn3. Côr Tônteg
6. Parti Cerdd Dant1. Lleisiau Ceiri2. Parti Tegeirian3. Parti'r Cwm
7. Parti Cerdd Dant o dan 25 oed 1. Aelwyd Chwilog2. Parti Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn
8. Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant1. Ceri, Ruth a Siriol, Conwy2. Pedwarawd Cennin, Caernarfon3. Lleucu, Fflur, Annest a Mared, Bala
9. Deuawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd1. Siriol a Ruth, Dyffryn Clwyd2. Elin ac Anna, Pentreuchaf, Pwllheli3. Carol a Helen, Botwnnog ac Aberystwyth
10. Deuawd Cerdd Dant o dan 21 oed1. Branwen a Hanna, Llanbedr Dyffryn Clwyd2. Ela Mablen Griffiths-Jones ac Olivia Davies, Llanybydder3. Gwenan ac Ynyr, Rhuthun
11. Gwobr Aled Lloyd Davies - Unawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd1. Siriol Elin2. Elin Tomos3. Enlli Pugh-Jones
12. Unawd Cerdd Dant 16 ac o dan 21 oed1. Branwen Medi Jones, Llanbedr Dyffryn Clwyd2. Owain John, Llansannan3. Llŷr Ifan Eirug, Aberystwyth
13. Unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed1. Lowri Anes Jarman, Llanuwchllyn2. Ela Mablen Griffiths-Jones, Llanybydder3. Leusa Francis, Caernarfon
14. Unawd Cerdd Dant o dan 12 oed1. Nanw Melangell Griffiths-Jones2. Madi Gwyn Williams3. Jini-Grug Dobson
15. Cystadleuaeth gyfeilio1. Emma Cerys Buckley2. Beca Haf Williams3. Alwena Mair Owen
16. Gosodiad o dan 25 oed1. Gronw Ifan, Llwyndyrys
122. Perfformiad Gwreiddiol1. Glanaethwy, Bangor2. Criw Yr Ynys, Bodedern3. Criw Porthor, Pen Llŷn
Cerddoriaeth
17. Côr Adloniant: Côr heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr CF12. Côr Ieuenctid Môn3. Côr Llanddarog
18. Côr Cymysg: heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr Llundain2. Côr Dyffryn Clwyd3. Côr CF1
19. Côr Lleisiau Tenor | Bas : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr Meibion Machynlleth2. Côr Meibion Llangwm3. Côr Meibion Ar ôl Tri
20. Côr Lleisiau Soprano | Alto : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Aelwyd Chwilog, Chwilog2. Tegalaw, Bala3. Lleisiau Mignedd, Caernarfon
21. Côr i rai 60 oed a throsodd : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr Hen Nodiant, Caerdydd2. Encôr, Porthaethwy3. Côr Cynhaearn, Porthmadog a'r cylch
22. Côr Ieuenctid o dan 25 oed : heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr Ieuenctid Mon2. Merched Plastaf3. Côr Iau Glanaethwy
23. Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru1. Côr Eifionydd2. Côr BuAnn3. Meibion Marchan
24. Y Gân Gymraeg Orau1. Côr Ieuenctid Môn
25. Tlws Arweinydd Corawl yr Ŵyl er cof am Sioned James1. Mari Lloyd Pritchard (Côr Ieuenctid Môn)
26. Côr yr Ŵyl1. Côr Ieuenctid Mon
27. Ensemble Lleisiol Agored : 3-6 mewn nifer1. Merched Mela, Pwllheli2. Ensemble Dyffryn Clwyd, Abergele3. Merched Iwan, Caerfyrddin
28. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts1. Erin Gwyn Rossington, Llanfair Talhaearn2. Emyr Lloyd Jones, Caernarfon3. Dafydd Jones, Dinbych4. Robin Gruffudd Hughes, Llundain
29. Unawd Soprano 25 oed a throsodd1. Heulen Cynfal2. Sioned Llewelyn3. Sara Davies
30. Unawd Mezzo-Soprano | Contralto | Uwchdenor 25 oed a throsodd1. Catrin Mair Parry2. Gerallt Rhys Jones
31. Unawd Tenor 25 oed a throsodd1. Elis Jones2. Efan Williams3. Ben Ridler
32. Unawd Bariton | Bas 25 oed a throsodd1. Ilan Jones2. Twm Tegid3. Andrew Evans
33. Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban Glas1. Heulen Cynfal
34. Canu Emyn i rai 60 oed a throsodd1. Richard Treflyn Jones2. Arfon Rhys Griffiths3. Gwynne Jones
35. Unawd Lieder | Cân Gelf 25 oed a throsodd1. Siôn Eilir Roberts2. Aled Wyn Thomas3. Lyndsey Vaughan Pleming
36. Unawd Lieder | Cân Gelf o dan 25 oed1. Owain John, Llansannan, ger Dinbych2. Erwan Hughes, Bethel3. Llinos Haf Jones, Penarth
37. Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd1. Dyfan Parry Jones, Machynlleth2. Heulen Cynfal Y Parc, Bala3. Bethan Elin, Ynys Môn
38. Unawd Soprano 19 ac o dan 25 oed1. Manon Ogwen Parry, Penarth2. Kathy Macaulay, Caerdydd3. Ffion Mair Thomas, Crymych
39. Unawd Mezzo-Soprano | Contralto | Uwchdenor 19 ac o dan 25 oed1. Llinos Haf Jones2. Elen Wyn
40. Unawd Tenor 19 ac o dan 25 oed1. Rhys Meilyr, Llangefni2. Elis Garmon Jones, Llanuwchllyn
41. Unawd Bariton | Bas 19 ac o dan 25 oed1. Owain Rowlands2. Tomos Heddwyn Griffiths3. Owain John
42. Gwobr Goffa Osborne Roberts - Y Rhuban Glas1. Llinos Haf Jones
43. Unawd o Sioe Gerdd 19 oed a throsodd1. Lili Mohammad2. Siriol Elin3. Ffion Elin Davies
44. Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts1. Lili Mohammad
45. Unawd o Sioe Gerdd o dan 19 oed1. Leisa Mair Lloyd-Edwards, Dyffryn Nantlle2. Alis Tomos, Caernarfon3. Leusa Francis, Caernarfon
46. Unawd Soprano | Alto | Uwchdenor 16 ac o dan 19 oed1. Branwen Medi Jones, Llanbedr Dyffryn Clwyd2. Leisa Mair Lloyd-Edwards, Dyffryn Nantlle3. Lea Morus Williams, Llansannan
47. Unawd Tenor | Bariton | Bas 16 ac o dan 19 oed1. Guto Jenkins, Pencader, Llandysul2. Gwern Morus Williams, Penmynydd3. Ynyr Lewys Rogers, Rhuthun
48. Unawd Soprano | Alto 12 ac o dan 16 oed1. Ela Mablen Griffiths-Jones2. Alwena Mair Owen3. Ela Mai Williams
49. Unawd Tenor | Bariton | Bas 12 ac o dan 16 oed1. Efan Arthur Williams2. Liam Arfon Jones3. Deio Rhys
50. Unawd o dan 12 oed1. Elen Dafydd Roberts2. Awen Grug Hogg3. Olwen Swyn
51. Gwobr Goffa Eleri Evans1. Elain Rhys
52. Grŵp Offerynnol Agored1. Maria a Gwenno2. Triawd Ffliwt Canolfan Gerdd William Mathias3. Ysgol Delyn Derwent
53. Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd1. Aisha Gwyneth Palmer
54. Unawd Chwythbrennau 19 oed a throsodd1. Ruby Howells2. Lleucu Parri3. Daniel O'Callaghan
55. Unawd Llinynnau 19 oed a throsodd1. Cai Charles2. Thomas Mathias3. Carys Barnes
56. Unawd Piano 19 oed a throsodd1. Tomos Boyles
57. Unawd Offerynnau Pres 19 oed a throsodd1. Freddie Hughes
58. Unawd Telyn 19 oed a throsodd1. Aisha Gwyneth Palmer2. Anna Phillips3. Heledd Newton
60. Rhuban Glas Offerynnol 16 ac o dan 19 oed1. Rufus Edwards
61. Unawd Chwythbrennau 16 ac o dan 19 oed1. Catrin Edwards, Aberaeron
63. Unawd Piano 16 ac o dan 19 oed1. Rufus Edwards, Wrexham2. Catrin Edwards, Aberaeron3. Gruffudd ab Owain, Y Bala
64. Unawd Offerynnau Pres 16 ac o dan 19 oed1. George Hughes, Llysfaen2. Glyn Porter, Caernarfon3. Catrin Mai Huws-Thomas, Caernarfon
65. Unawd Telyn 16 ac o dan 19 oed1. Cadi Glwys Davies, Dyffryn Tanat2. Emma Cerys Buckley, Pontllyfni, Caernarfon3. Megan Elan Jones
66. Unawd Offeryn/nau Taro 16 ac o dan 19 oed1. Bryn Richards, Caerfyrddin
67. Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed1. Llew Mills
68. Unawd Chwythbrennau o dan 16 oed1. Lea Mererid Roberts2. Martha Nel3. Christina Hutchinson-Rogers
69. Unawd Llinynnau o dan 16 oed1. Michael Hutchinson-Rogers
70. Unawd Piano o dan 16 oed1. Martha Rhys2. Lea Mererid Roberts3. Malena Gwynn Aled
71. Unawd Offerynnau Pres o dan 16 oed1. Anna Celyn Evans2. Leusa Francis3. Gruffydd Siôn
72. Unawd Telyn o dan 16 oed1. Alwena Mair Owen2. Malena Gwynn Aled3. Sali Mair
73. Unawd Offeryn/nau Taro o dan 16 oed1. Llew Mills
74. Tlws y Cerddor1. Lowri Mari Jones
75. Emyn-dôn gyfoes1. Sian Wheway
76. Trefniant o unrhyw gân Gymreig gyfoes i fand pres a chôr addas fel diweddglo cyngerdd1. Owain Roberts, Llundain
77. Unawd1. Ruth Owen, Llanrwst
78. Darn ar gyfer ensemble telyn1. Morfudd Sinclair, Stourport on Severn
80. Cystadleuaeth i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oed1. Rhiannon Iwerydd, Crymych
Dawns
81. Tlws Coffa Lois Blake1. Dawnswyr Talog, Sir Gaerfyrddin2. Dawnswyr Nantgarw, Caerdydd
82. Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru1. Dawnswyr Hafwyl, Caerfyrddin2. Dawnswyr Môn, Ynys Mon3. Dawnswyr Caernarfon, Caernarfon
83. Parti Dawnsio Gwerin o dan 25 oed1. Dawnswyr Triban Talog, Sir Gaerfyrddin2. Dawnswyr Gwenyn Talog, Sir Gaerfyrddin3. Dawnswyr Nantgarw, Caerdydd
84. Dawns Stepio i grŵp1. Dawnswyr Nantgarw, Caerdydd2. Dawnswyr Talog, Sir Gaerfyrddin3. Clocswyr Madryn, Pwllheli
85. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio1. Daniel a Morus Jones, Caerdydd2. Aaron, Abel, Caian a Dion, Blaenycoed3. Esther, Erin a Luned
86. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Fechgyn 18 oed a throsodd1. Daniel Calan Jones, Caerdydd2. Elwyn Siôn Williams, Caerdydd3. Trystan Gruffydd
87. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Ferched 18 oed a throsodd1. Lleucu Parri, Caerdydd2. Elen Morlais Williams, Caerdydd3. Gwennan Staziker
88. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Fechgyn o dan 18 oed1. Morus Caradog Jones2. Dion Ioan Jones3. Caian Wyn Evans
89. Dawns Stepio Unigol mewn arddull draddodiadol i Ferched o dan 18 oed1. Erin Eluned Jones2. Cadi Glwys Davies3. Luned Medi Defis
91. Parti o Ddawnswyr Di-Brofiad1. Ysgafndroed2. Dawnswyr Porth Neigwl3. Dawnswyr Plenydd
92. Cyfansoddi dawns 1. Idwal Williams, Llanrug
93. Dawns greadigol | Gyfoes Unigol1. Amy Morgan, Llambed2. Ebony Morgans, Rhydaman3. Twm Môn Huws, Llannerchymedd
94. Dawns greadigol | gyfoes i grŵp dros 4 mewn nifer1. Grŵp Eilian, Amlwch2. Ysgol Ddawns Sally Saunders, Llambed
95. Dawns aml-gyfrwng i bâr neu driawd mewn unrhyw arddull1. Sally Saunders School of Dance - Amy & Anna, Llambed2. Catherine ac Elen, Llundain3. Lowri a Jodie, Llannerch-y-medd ag Amlwch
96. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd 12 oed a throsodd1. Ebony Morgans, Rhydaman2. Mia Fflur, Amlwch3. Olly Louis Fraser Jones, Caernarfon
97. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd o dan 12 oed1. Lal Prydderch Ifan, Bodedern2. Elsa Gwyn Vaughan Pleming, Deiniolen3. Mia Elin Mckeaveney, Llannerchymedd
98. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Bâr neu Driawd1. Lowri & Jodie2. Mia Elin Mckeaveney & Lal Prydderch Ifan3. Amber & Elan
99. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Grŵp1. Hudoliaeth2. Bodiau Llachar Gwrachod3. Disgyrchiant
Dysgu Cymraeg
101. Côr Dysgwyr1. Côr Cambria2. Cantorion Y Gelli3. Côr Dinllaen
102. Parti Canu : hyd at 12 mewn nifer1. Parti Cyd Aberystwyth2. Parti Nant Wiber
103. Sgets: Sgwrs mewn meddygfa1. Grwp Hirnant: Amanda Laing and Nichola Bradley, Llanrhaeadr ym Mochnant2. Parti Llambed, Llanbedr Pont Steffan2. Mwtaniad: Kees Vugts, Kate Williams, Gary Williams, Sue Marcus, Llangammarch
105. Llefaru Unigol 16 oed a throsodd 1. Georgina Cornock-Evans, Pumpsaint2. Susan Fogarty, Pwllheli3. David Christie, Bangor
106. Unawd Lleisiol1. Seren Parri, Birmingham2. Peter Lane, Mynydd Nefyn3. Roz Williams Jones, Chwilog
107. Cystadleuaeth Y Gadair1. Sophie Roberts, Trelawnyd
108. Cystadleuaeth Y Tlws Rhyddiaith1. Matt Elliott, Bae Colwyn
109. Darn o ryddiaith : Lefel Canolradd1. Joan Benison, Caerdydd
110. Darn o ryddiaith : Lefel Sylfaen1. Helen Morris, Matlock
111. Darn o ryddiaith : Lefel Mynediad1. Lesley Butler, Porthmadog
112. Flog (blog fideo) 1. Linda McGrath, Bootle
Gwerin
115. Côr Alaw Werin dros 20 mewn nifer1. Côr yr Heli2. Côr Glanaethwy3. Côr Cymunedol Yr Ynys
116. Parti Alaw Werin hyd at 20 mewn nifer1. Eryrod Meirion2. Lodesi Dyfi3. Aelwyd Chwilog
117. Parti Alaw Werin o dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer1. Aelwyd Yr Ynys2. Aelwyd Chwilog
118. Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis 21 oed a throsodd1. Cai Fôn Davies2. Cadi Mars Jones3. Siriol Elin
119. Unawd Alaw Werin 16 ac o dan 21 oed1. Branwen Medi Jones2. Cadi Gwen Williams3. Leisa Mair Lloyd-Edwards
120. Unawd Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed1. Fflur Erin Edwards2. Cari Lovelock3. Non Alaw Prys
121. Unawd Alaw Werin o dan 12 oed1. Awen Grug Hogg2. Elen Dafydd Roberts3. Nanw Melangell Griffiths-Jones
Llefaru
130. Côr Llefaru dros 16 mewn nifer1. Genod Llŷn2. Sarn Helen3. Lleisiau Cafflogion
131. Parti Llefaru hyd at 16 mewn nifer1. Parti Man a Man2. Mamau Genod Llŷn3. Yr Alltudion
132. Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn 21 oed a throsodd1. Anni Llŷn
133. Llefaru Unigol 21 oed a throsodd1. Cai Fôn Davies, Bangor2. Hanna Llŷn, Caerdydd3. Siôn Jenkins, Llandysilio, Sir Benfro a Treganna, Caerdydd
135. Y Rhuban Glas Ieuenctid: Llefaru Unigol 16 ac o dan 21 oed1. Sara Elan Jones, Llanbedr Pont Steffan2. Erin Llwyd, Corwen3. Gwenan Mars, Dinbych
136. Llefaru Unigol 12 ac o dan 16 oed1. Gwenno Llwyd Beech2. Beca Dwyryd3. Trystan Bryn Evans
137. Llefaru Unigol o dan 12 oed1. Awel Grug Lewis2. Ruby Haf James3. Elain Grug Williams
138. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur 16 oed a throsodd1. Meleri Morgan2. Daniel O'Callaghan3. Cai Fôn Davies
139. Llefaru Unigol o’r Ysgrythur o dan 16 oed1. Peredur Hedd Llywelyn2. Fflur McConnell3. Olwen Roberts
140. Perfformio Darn Digri Agored heb fod yn hwy na 4 munud o hyd : Cymdeithas Eisteddfodau Cymru1. Peredur Hedd Llywelyn2. Erin Dwyfor Roberts3. Gwion Dafydd Bowen
Llenyddiaeth
143. Cyfansoddi 3 cerdd heb eu cyhoeddi na’u darlledu: Agored1. Osian Owen, Twtil, Caernarfon
144. Englyn Unodl Union: Ynys1. Alan Llwyd, Abertawe
145. Cerdd Gaeth heb fod dros 30 o linellau: Mur neu Muriau1. Alan Iwi, Didcot
146. Telyneg: Neb1. Meinir Ebbsworth, Cwrtnewydd
147. Sianti: Agored1. Elen Williams, Pwllheli
148. Soned: Ffenestr neu Ffenestri1. Alan Llwyd, Abertawe
149. Tair Cerdd i Blant: Agored1. Gwen James, Caernarfon
150. Geiriau Cân yn y Dull Canu Gwlad: Agored1. Elen Williams, Pwllheli
151. Tair o Gerddi Byrion Ysgafn: Agored1. John Wyn Jones, Llangefni
156. Ysgoloriaeth Fentora Emyr Feddyg1. Miriam Sautin, Caerdydd
157. Gwobr Stori Fer Tony Bianchi1. Math Wiliam, Caerdydd
158. Stori fer ffraeth1. Gwenda Richards, Caernarfon
159. Casgliad o 9 darn o Lên Meicro1. Sian Meinir, Penarth
160. Ysgrif1. Morgan Owen, Aberystwyth
161. Erthygl1. Carwyn Tywyn, Porth Tywyn
163. Sgript i eitem podlediad hyd at 10 munud: Agored1. Carwyn Tywyn, Porth Tywyn
164. Tlws yr Ifanc i rai o dan 25 oed1. Gruffudd Emrys ab Owain, Y Bala
165. Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac sy’n dal i fyw yn yr Ariannin1. Alwen Green, Trevelin
Theatr
166. Actio Drama neu waith dyfeisiedig1. Ffermwyr Ifanc Uwchaled, Cerrigydrudion2. Cwmni Drama Llanystumdwy, Llanystumdwy3. Ysgol Dyffryn Conwy, Llanrwst
167. Actor gorau cystadleuaeth 1661. Gwyn Wheldon — Cwmni Drama Llanystumdwy
168. Cyfarwyddwr gorau cystadleuaeth 1661. Sian Edwards — Ffermwyr Ifanc Uwchaled
169. Gwobr Richard Burton 19 oed a throsodd1. Cai Fôn Davies2. Iestyn Gwyn Jones3. Nel Rhys Lewis
170. Deialog1. Grŵp Nel, Caernarfon2. Betsan, Seren a Ela, Llanelli3. Ceuron a Ania, Ynys Môn
171. Monolog 16 ac o dan 19 oed 1. Owain Siôn, Llanfairpwllgwyngyll2. Elan Calan Davies, Blaenau Ffestiniog3. Gruff Gwyn, Eglwysbach
172. Monolog 12 ac o dan 16 oed1. Leusa Elgan Metcalfe2. Ela Mablen Griffiths-Jones3. Malena Gwynn Aled
175. Trosi un o’r canlynol i’r Gymraeg1. Sioned Young, Clunderwen
176. Cyfansoddi dwy fonolog gyferbyniol1. Martin Huws, Ffynnon Taf
179. Adolygiad o gynhyrchiad theatrig Cymraeg1. Sioned Young, Clunderwen
180. Sgript ‘stand-yp’1. Gwion Clarke, Caernarfon
Anrhydeddau'r Orsedd
Gwisg werdd
- Aled Davies, Chwilog – Gweinidog bro a chyfarwyddwr y Cyngor Ysgolion Sul a Chyhoeddiadau'r Gair
- Edwin Humphreys, Pentreuchaf – un o gerddorion mwyaf dylanwadol y sîn roc
- Ywain Myfyr, Dolgellau – un o sefydlwyr Gŵyl Werin Geltaidd Dolgellau a Sesiwn Fawr Dolgellau. Aelod o grwpiau Cilmeri a Gwerino
- Esyllt Nest Roberts de Lewis, Y Wladfa – aeth i Batagonia dan y Cynllun Dysgu Gymraeg bron ugain mlynedd yn ôl. Mae'n gweithio athrawes Gymraeg, athrawes delyn, cyfieithydd a golygydd
- Gareth Roberts, Deiniolen – wedi gweithio dros les pobl ifanc Menter Fachwen, disgyblion ysgol a phobl ei ardal
- Glyn Tomos, Caernarfon – sefydlodd y cylchgrawn roc Sgrech ar ddiwedd y 1970au. Sefydlodd Papur Dre yng Nghaernarfon
- Mari Lloyd Pritchard, Biwmares – bu'n gyfrifol am ailsefydlu Theatr Ieuenctid Môn. sefydlodd Gôr Ieuenctid Môn ac arweinydd Encôr, côr ar gyfer aelodau dros 60 oed
- Gareth 'Neigwl' Williams, Botwnnog – bardd a chyfrannwr colofn i'w bapur bro, Llanw Llŷn
- Sioned Wyn, Cricieth – cynhyrchydd teledu cwmni Chwarel
- Heulwen Davies, Dolanog - urddir am ei chyfraniad fel arweinydd Aelwyd Penllys am gyfnod o dri deg mlynedd, a hynny'n gwbl wirfoddol
- Richard Owen, Penrhyn-coch, Aberystwyth. Rhoddodd oes o wasanaeth i'r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru drwy'i waith gyda Chyngor Llyfrau Cymru am dros dri deg mlynedd.
- Jeffrey Howard, Caerdydd - organydd dawnus a chyfarwyddwr cerdd sy'n un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl er ugain mlynedd a mwy. Derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2018.
- Marion Loeffler, Caerdydd - wedi ei magu yn yr Almaen, symudodd i Gymru, a bu'n gweithio yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd am flynyddoedd. Bellach mae'n Ddarllenydd ym maes Hanes Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.
- Carlo Rizzi, Penarth - arweinydd adnabyddus, sydd wedi bod yn Arweinydd Cerddoriaeth Opera Cenedlaethol Cymru ac wedi gweithio gyda chwmnïau ar draws y byd.
Gwisg Las
- Mabon ap Gwynfor – gwleidydd ac ymgyrchydd sy'n Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd ers 2021
- Meryl Davies, Pwllheli – Cyn-reolwr ward yn Ysbyty Bryn Beryl Pwllheli, mae wedi codi miloedd o bunnau i elusennau. bu'n Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr
- Owain Idwal Davies, Llanrwst – yn y gwasanaeth hamdden ac yna yn y weinidogaeth, mae wedi bywiogi'i fro drwy egnïo'r iaith a rhannu'i gariad at ddiwylliant a chwaraeon
- Hywel Edwards, Padog, Betws-y-coed – un o wirfoddolwyr diwyd sy'n cynorthwyo a chefnogi Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd
- Marian Edwards, Padog, Betws-y-coed – un o wirfoddolwyr diwyd sy'n cynorthwyo a chefnogi Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd
- Siân Eirian, Llangernyw – wedi gweithio yn ddiwyd dros fudiad yr Urdd ac wedi bod yn Gyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd. Roedd yn gyfrifol am greu gwasanaeth Cyw a Stwnsh yn ystod ei chyfnod fel Pennaeth Rhaglenni Plant a Phobl Ifanc S4C
- Kenneth Fitzpatrick, Morfa Nefyn – cyn-swyddog morwrol harbwr a harbwr-feistr ym Mhwllheli, Porthmadog a'r Bermo
- Mared Gwyn Jones - â'i gwreiddiau yn Nefyn a Llanbedrog, Mared Gwyn, Brwsel yw llais Cymru yn Ewrop
- Aled Hughes, Llanfairpwll - un o Hogia' Llŷn, a'i wreiddiau'n ddwfn yn nalgylch y Brifwyl eleni. Cyflwynwydd rhaglen gylchgrawn ddyddiol ar Radio Cymru
- Kristoffer Hughes, Bodorgan - bu'n gweithio fel technegydd patholegol ar gyfer y Crwner yng ngogledd orllewin Cymru. Yn adnabyddus fel y comedïwr drag, Magi Nogi, ac mae'n bennaeth Urdd Derwyddon Môn
- Terry Jones Hughes, Tudweiliog - Un o hoelion wyth ei filltir sgwâr a'i gymuned leol. Yn amaethwr tan iddo ymddeol, mae'r capel a'r diwylliant Cymraeg yn Llŷn yn agos at ei galon
- Andrew John - Bu'n yn Esgob Bangor er 2009 ac yn Archesgob Cymru er 2021
- Christine Jones, Pwllheli - urddir am ei chyfraniad diflino i gymuned ei milltir sgwâr dros flynyddoedd lawer. Yn gefnogwr brwd yr Ŵyl Cerdd Dant a'r Eisteddfod, chwaraeodd ran flaenllaw yn codi arian yn lleol eleni
- Dewi Bryn Jones, Garndolbenmaen - prif arloeswr technolegau'r iaith Gymraeg. Gwnaeth fwy nag unrhyw un i ddatblygu adnoddau ac offer iaith gyfrifiadurol ar gyfer y Gymraeg. Ef yw arweinydd tîm yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.
- Hywel Jones, Ysbyty Ifan - un o'r tîm bychan o wirfoddolwyr diwyd sy'n cynorthwyo a chefnogi Ela Jones, Arolygydd Gwisgoedd yr Orsedd
- John Llyfnwy Jones, Llithfaen - fyddai Llithfaen ddim yn Llithfaen heb John Llyfnwy - mae'n rhan mor annatod o'r pentref. Roedd yn un o brif sylfaenwyr Tafarn y Fic
- Linda Jones, Ffestiniog - bu'n weithgar yn ardal Blaenau Ffestiniog ers blynyddoedd, ac yn un o sefydlwyr cwmni Seren, un o fentrau cymdeithasol blaenllaw Cymru
- Mair Jones, Llaniestyn - mae wedi codi miloedd o bunnoedd i wahanol elusennau. Mae'n cymryd rhan flaenllaw yn ymgyrch Operation Christmas Child bob blwyddyn
- Malcolm Jones, Tremadog - mae wedi cymryd rhan yn Ras yr Wyddfa bob blwyddyn er ei chychwyn ddeugain a chwech o flynyddoedd yn ôl. Cynrychiolodd Gymru mewn sawl cystadleuaeth rhedeg mynydd rhyngwladol gyda chryn lwyddiant
- Gwyn Mowll, Llanrug - mae wedi treulio dros ddeugain mlynedd yn dysgu, cefnogi a hwyluso karate traddodiadol 'Shotokan' yng Nghymru yn wirfoddol. Ar ddechrau'r 1990au, chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o greu Ffederasiwn Karate Traddodiadol Cymru
- Enid Owen, Botwnnog - wedi ymgymryd â swyddi mewn cymdeithasau bach a gwirfoddoli i roi profiadau i blant a phobl ifanc. Dechreuodd Enid yr arferiad o gystadlu yng nghystadlaethau canu'r Urdd gyda phlant Adran Botwnnog
- Llinos Angharad Owen, Beddgelert - Ar ôl gyrfa ym myd addysg, yn gweithio bellach i elusen Tir Dewi, sy'n cynorthwyo ffermwyr a'u teuluoedd gyda phryderon a phroblemau
- Rhiannon Parry, Pen-y-groes - yn sylfaenydd a golygydd papur bro Y Gadlas am flynyddoedd, ers symud i Ddyffryn Nantlle a wedi cyfrannu colofn fisol i'r papur lleol, Lleu.
- Alun Roberts, Caernarfon - ymgorfforiad o'r ysbryd cymunedol Cymreig ar ei orau, o gefnogi gweithwyr ffatri Friction Dynamics i'w waith gyda Banc Bwyd Caernarfon, ac o brosiectau fel Porthi Pawb i'r fenter O Law i Law
- Alwyn Roberts, Llanuwchllyn - gynghorydd cymuned poblogaidd ar gyngor plwyf Llanuwchllyn ac yn Gyn-gadeirydd y Cyngor. Mae'n aelod o Gôr Godre'r Aran a hefyd o barti Tri Gog a Hwntw, sy'n cynnal nosweithiau llawen, ac mae'n Ysgrifennydd Eisteddfod Gadeiriol y pentref er 2001
- Nicola Saffman, Caernarfon - yn wreiddiol o Fanceinion, symudodd i Gymru a dysgodd y Gymraeg. Bu'n Ddirprwy-grwner gogledd orllewin Cymru am ugain mlynedd - y ferch gyntaf yn y swydd
- Catrin Elis Williams, Bangor - bu'n ysgrifennydd Y Gymdeithas Feddygol am sawl blwyddyn ac yn uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor, yn hyrwyddo addysg feddygol yng ngogledd Cymru a chyfrannu at osod sail yr Ysgol Feddygol yn y gogledd
- Ruth Wyn Williams, Bangor - wedi cyfrannu'n sylweddol at wella ansawdd gwasanaethau nyrsio anableddau dysgu yng Nghymru
- Einir Wyn, Aber-soch - gweithiodd yn ddiflino i gadw'r ysgol leol ar agor, ac er mai ofer fu'r ymdrechion, cyflwynodd lyfrau o'r hen ysgol i elusen sy'n hyrwyddo a datblygu gallu addysgol disgyblion ysgolion cynradd, uwchradd a phrifysgolion gwledydd Affrica.
- Pedr ap Llwyd, Aberystwyth - Yn wreiddiol o Benrhyndeudraeth, ef yw Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru. Fel rhan o'i weledigaeth i hyrwyddo hygyrchedd, llwyddodd yn ystod y cyfnod clo i ysgogi gweithlu'r Llyfrgell i gyflymu prosesau trawsnewid digidol er mwyn sicrhau bod ein treftadaeth ddogfennol yn fwy hygyrch i bawb
- Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan - urddir am ei chyfraniad arbennig i'r gamp o bowls dros gyfnod o 30 mlynedd. Hi oedd Capten Tîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022
- Dyfrig Davies, Llandeilo - Mae'n Gadeirydd yr Urdd, ac arweiniodd y mudiad yn gadarn a theg drwy bandemig COVID-19 a dathliadau'r canmlwyddiant yn 2022. Yn Gadeirydd TAC, mae'n rhan allweddol o'r diwydiant creadigol yng Nghymru, gan gefnogi cwmnïau cynhyrchu bach a mawr i sicrhau fod y berthynas ag S4C yn ffynnu.
- Geraint Lloyd, Lledrod - un o leisiau mwyaf adnabyddus Radio Cymru am flynyddoedd lawer. Dechreuodd ei yrfa gyda Radio Ceredigion, ac eleni ymunodd â gorsaf radio Môn FM
- John Mahoney, Caerfyrddin - pêl-droediwr a chwaraeodd dros Gymru. Wedi i'w yrfa ddod i ben yn 1983, aeth ati i ddysgu Cymraeg, gan fynychu sesiynau lefel uwch 'Siawns am Sgwrs' yng ngorllewin Cymru.
- Laura McAllister, Caerdydd - Athro Llywodraethiant a Pholisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae'n Gyd-gadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Eleni, fe'i hetholwyd i Bwyllgor Gweithredol UEFA: mae hi bellach yn Is-lywydd y corff hwnnw
- John Roberts, Aberystwyth llais cyfarwydd ar Radio Cymru am flynyddoedd lawer yn cyflwyno rhaglen Bwrw Golwg ar foreau Sul. Mae hefyd yn llenor, a chyhoeddodd ddwy nofel o safon