Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2018 ym Mae Caerdydd ar 3-11 Awst 2018. Hwn oedd Eisteddfod olaf y trefnydd Elfed Roberts cyn iddo ymddeol o'r swydd ar ôl 25 mlynedd. Dywedodd y trefnydd fod Caerdydd yn "brifddinas hyderus a bywiog, a bod y Bae yn un o ganolfannau cymdeithasol y ddinas, a bod mynd Eisteddfod i'r Bae yn arbrawf hynod gyffrous". Hwn hefyd oedd Eisteddfod olaf Geraint Llifon fel Archdderwydd cyn trosglwyddo'r awenau i Myrddin ap Dafydd.[2] Beirniadwyd Geraint Llifon yn llym ar y cyfryngau am sylw negyddol am ferched yn seremoni y Coroni. Ar y dydd Iau ymwelodd Geraint Thomas, enillydd Tour de France 2018 a'r Senedd a'r Eisteddfod.
Yn hytrach na Maes traddodiadol, lleolwyd yr Eisteddfod yn yr ardal o gwmpas y Senedd a Chanolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, gyda'r Ganolfan yn cymryd lle'r Pafiliwn arferol. Adeilad y Senedd oedd cartref Y Lle Celf. Gosodwyd yr amryw stondinau ar y parciau o gwmpas yr Eglwys Norwyaidd ac ar waelod Rhodfa Lloyd George. Gosodwyd llwyfan y maes a'r pentref bwyd ym Mhlas Roald Dahl. Defnyddiwyd hen adeilad Profiad Doctor Who ar gyfer Maes B gyda Chaffi Maes B ar dir cyfagos.
Profodd yr Eisteddfod yn llwyddiant gyda nifer yn canmol natur agored a chynhwysol y Maes. Dywedodd nifer o stondinwyr eu bod wedi yn brysur a fod busnes wedi bod yn dda. Yn dilyn yr "arbrawf" cododd rhai y syniad o barhau gyda'r un patrwm yn y dyfodol gyda Maes agored ac am ddim. Dywedodd yr Eisteddfod y byddai rhaid edrych ar sut y gellir ariannu y fath ŵyl mewn lleoliadau eraill, lle efallai nad oes yr adnoddau ac adeiladau fel oedd ar gael ym Mae Caerdydd.[3]
Yng nghyfarfod Cyngor yr Eisteddfod yn Aberystwyth ar 24 Tachwedd 2018 datgelwyd fod fwy o ymwelwyr nag erioed o’r blaen wedi ymweld a'r Eisteddfod yng Nghaerdydd gyda rhai amcangyfrifon yn dweud fod hanner miliwn o ymwelwyr wedi dod i'r Maes. Oherwydd nad oedd tâl mynediad i'r Maes a'r gost ychwanegol, roedd diffyg ariannol gweithredol o £290,139.
Prif gystadlaethau
Y Gadair
Enillydd y Gadair oedd Gruffudd Eifion Owen (ffugenw "Hal Robson-Kanu"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Ceri Wyn Jones, ar ran ei gyd-feirniaid Emyr Davies a Rhys Iorwerth. Cystadlodd un ar ddeg, a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, o dan y teitl Porth. Dywedodd y beirniaid fod hi'n gystadleuaeth eithriadol o agos, a bod "y gŵr dienw" hefyd yn deilwng o'r Gadair, ond roedd awdl Gruffudd wedi rhoi mwy o wefr i'r tri beirniad.[4] Datgelwyd mai Eurig Salisbury (ffugenw "y gŵr dienw") oedd yn ail am y Gadair.[5]
Noddwyd y Gadair gan Amgueddfa Cymru i ddathlu pen-blwydd Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan yn 70 oed yn 2018, a phenodwyd Chris Williams o Oriel y Gweithwyr, Ynyshir i'w chreu. Bu Sain Ffagan yn gartref i arddangosfeydd am grefftau traddodiadol yng Nghymru ers ei sefydlu ym 1948. Derbyniodd yr enillydd hefyd wobr ariannol o £750, yn rhoddedig gan Gaynor a John Walter Jones er cof am eu merch Beca.
Y Goron
Enillydd y Goron oedd Catrin Dafydd (ffugenw "Yma"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Christine James ar ran ei chyd-feirniaid Ifor ap Glyn a Damian Walford Davies. Cystadlodd 42 eleni a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Olion. Testun y casgliad oedd Cymreictod "cymysg" Trelluest (Grangetown), Caerdydd ac yn y feirniadaeth dywedodd Christine James "Dyma gasgliad amserol ac apelgar o obeithiol gan fardd sy’n lladmerydd huawdl dros Gymreictod cymysg, byrlymus y brifddinas".[6]
Gemydd o Gastell-nedd, Laura Thomas, 34 oed, a ddewisiwyd i gynllunio'r goron, a dywedir ei bod wedi creu dyluniad "modern ac unigryw ond sydd hefyd yn parchu traddodiadau’r Eisteddfod".[2] Noddir y goron gan Brifysgol Caerdydd. Astudiodd Laura gemwaith yn Central Saint Martins yn Llundain, ac mae hi'n gweithio i gwmni Gemwaith Mari Thomas yn Llandeilo, Sir Gaerfyrddin. Derbyniodd yr enillydd hefyd wobr ariannol o £750, rhoddedig gan Manon Rhys a Jim Parc Nest.
Gwobr Goffa Daniel Owen
Yr enillydd oedd Mari Williams o Gaerdydd. Traddodwyd y feirniadaeth gan Meinir Pierce Jones ar ran ei chyd-feirniaid Bet Jones a Gareth Miles. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, yn rhoddedig gan CBAC. Daeth 10 cynnig ar y gystadleuaeth eleni. Doe a Heddiw oedd enw y darn buddugol pan gafodd ei gyflwyno, ac "Ysbryd yr Oes" oedd y ffugenw. Bellach, ailenwyd y nofel yn Ysbryd yr Oes.
Y Fedal Ryddiaith
Enillydd y Fedal oedd Manon Steffan Ros o Dywyn gyda'i chyfrol Llyfr Glas Nebo dan y ffugenw "Aleloia". Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema "Ynni" gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r Fedal. Derbyniwyd 14 o gyfrolau eleni a thraddodwyd y feirniadaeth gan Sonia Edwards ar ran ei chyd-feirniaid Menna Baines a Manon Rhys.[7]
Tlws y Cerddor
Enillydd y tlws oedd Tim Heeley, sydd o Scarborough yn wreiddiol ac sy'n gweithio yn Sir y Fflint. Y dasg oedd cyfansoddi darn i gerddorfa lawn fyddai'n gweddu i ddrama dditectif ar y teledu, heb fod yn fwy na saith munud. Traddodwyd y feirniadaeth gan John Rea ar ran ei gyd-feirniaid John Hardy ac Owain Llwyd.[8]
Y Fedal Ddrama
Enillydd y Fedal oedd Rhydian Gwyn Lewis, yn wreiddiol o Gaernarfon sydd nawr yn byw yn Grangetown, Caerdydd, am ei ddrama Maes Gwyddno (ffugenw "Elffin"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Betsan Llwyd ar ran ei chyd-feirniaid Sarah Bickerton ac Alun Saunders. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Cyflwynwyd y Fedal er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).[9]
Canlyniadau Cystadlaethau
Alawon Gwerin
1. Côr Alaw Werin dros 20 mewn nifer1. Côr Merched Canna2. Ger y Lli3. Côr Godre'r Garth
2. Parti Alaw Werin hyd at 20 mewn nifer1. Eryrod Meirion2. Hogie'r Berfeddwlad3. Lodesi Dyfi
3. Parti Alaw Werin dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer1. Amôr2. Aelwyd Yr Ynys3. Aelwyd Porthcawl
4. Cystadleuaeth Goffa Lady Herbert Lewis 21 oed a throsodd1. Emyr Lloyd Jones2. Rhydian Jenkins3. Enlli Lloyd Pugh
5. Unawd Alaw Werin 16-21 oed1. Cai Fôn Davies2. Llinos Haf Jones3. Lewys Meredydd
6. Unawd Alaw Werin 12-16 oed1. Cadi Gwen Williams2. Owain John3. Nansi Rhys Adams
7. Unawd Alaw Werin dan 12 oed1. Ioan Joshua Mabbutt2. Efan Arthur Williams3. Ela Mablen Griffiths-Jones
8. Cyflwyniad ar lafar, dawns a chân1. Glanaethwy2. Ysgol Treganna3. Bro Taf
9. Grŵp Offerynnol neu Offerynnol a Lleisiol1. Tawerin Bach2. Sesiwn Caerdydd3. Tawerin
10. Unawd ar unrhyw offeryn gwerin1. Gareth Swindail-Parry2. Osian Gruffydd3. Mared Lloyd
Bandiau Pres
12. Bandiau Pres Pencampwriaeth/Dosbarth 11. Band Tylorstown2. Band BTM3. Seindorf Arian Deiniolen
13. Bandiau Pres Dosbarth 21. Band Pres Bwrdeistref Casnewydd2. Band Melingriffith 23. Band Tref Blaenafon
14. Bandiau Pres Dosbarth 31. Band Pres Dyffryn Taf2. Band Arian Llansawel3. Band Pres RAF Sain Tathan
15. Bandiau Pres Dosbarth 41. Band Pres Rhondda Uchaf2. Band Gwaun Cae Gurwen3. Seindorf Arian Dyffryn Nantlle
16. Côr Cerdd Dant dros 20 mewn nifer1. Côr Merched y Ddinas
17. Parti Cerdd Dant hyd at 20 mewn nifer1. Criw Caerdydd2. Meibion y Gorad Goch3. Parti'r Gromlech
18. Parti Cerdd Dant dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer1. Amôr2. Aelwyd Porthcawl
Celfyddydau Gweledol
Cerdd Dant
19. Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant Agored1. Pedwarawd Glantaf2. Pedwarawd Cennin3. Triawd Marchan
20. Deuawd Cerdd Dant dros 21 oed1. Alaw ac Enlli2. Siôn Eilir ac Elis Jones3. Trefor ac Andrew
21. Deuawd Cerdd Dant dan 21 oed1. Celyn Cartwright a Siriol Jones2. Annest ac Elain3. Fflur Davies a Leisa Gwenllian
22. Unawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd1. Rhydian Jenkins2. Enlli Lloyd Pugh3= Trefor Pugh3= Teleri Mair Jones
23. Unawd Cerdd Dant 16-21 oed1. Llio Meirion Rogers2. Cai Fôn Davies3. Celyn Cartwright
24. Unawd Cerdd Dant 12-16 oed1. Owain John2. Gwenan Mars Lloyd3. Nansi Rhys Adams
25. Unawd Cerdd Dant dan 12 oed1. Lowri Anes Jarman2. Ela Mablen Griffiths-Jones3. Ela Mai Williams
Cerddoriaeth
27. Cyfeilio i rai o dan 25 oed1. Elain Rhys Jones
28. Cyflwyno Rhaglen o Adloniant - Côr heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr CF12. Côr Dyffryn Dyfi3. CôRwst
29. Côr Cymysg heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côrdydd2. Côr CF13. Côr Capel Cymreig y Boro, Llundain
30. Côr Meibion heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr Meibion Pontarddulais2. Côr Meibion Machynlleth3. Côr Meibion Taf
31. Côr Merched heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr Merched Canna2. Lodesi Dyfi3. Cantonwm
32. Côr i rai 60 oed a throsodd heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr Hen Nodiant2. Encôr3. Henffych
33. Côr Ieuenctid dan 25 oed heb fod yn llai nag 20 mewn nifer1. Côr y Cwm2. Côr Heol y March3. Côr Hŷn Ieuenctid Môn
38. Ensemble lleisiol 10-26 oed rhwng 3 a 6 mewn nifer1. Ensemble Glantaf2. Criw Aber3=. Swynol3=. Lleisiau'r Ynys
34. Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru1. Côr Caerdydd2. Côr Bro Meirion3. Côr Seingar
35. Cân Gymraeg OrauGwahoddiad - Côr CF1
36. Tlws Arweinydd Corawl yr Ŵyl er cof am Sioned JamesEleri Roberts - Côr Heol y March
37. Côr yr Ŵyl Côrdydd
39. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts ac Ysgoloriaeth William Park-Jones1. Steffan Lloyd Owen2. Ffion Edwards3. Huw Ynyr4. Elen Lloyd Roberts
40. Unawd Soprano 25 oed a throsodd1. Aneira Evans2. Joy Cornock3. Angharad Watkeys
41. Unawd Mezzo-Soprano/Contralto/Gwrth-denor 25 oed a throsodd1. Nia Eleri Hughes Edwards2. Carys Griffiths-Jones3. Iona Stephen Williams
42. Unawd Tenor 25 oed a throsodd1. Efan Williams2. Arfon Rhys Griffiths3. Aled Wyn Thomas
43. Unawd Bariton/Bas 25 oed a throsodd1. Andrew Peter Jenkins2. Steffan Jones3. Treflyn Jones
44. Gwobr Goffa David Ellis - Y Rhuban GlasAndrew Peter Jenkins
45. Canu Emyn 60 oed a throsodd1. Gwynne Jones2. Glyn Morris3. Vernon Maher
46. Unawd Lieder/Cân Gelf 25 oed a throsodd1. Peter Totterdale2. Aled Wyn Thomas3. Trefor Williams
47. Unawd Lieder/Cân Gelf o dan 25 oed1. Dafydd Wyn Jones2. Ryan Vaughan Davies3. Sioned Llewelyn
48. Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd1. Robert Lewis2. Dafydd Allen3. Erfyl Tomos Jones
49. Unawd Soprano 19-25 oed1. Ffion Edwards2. Tesni Jones3. Sioned Llewelyn
50. Unawd Mezzo-Soprano/Contralto/Gwrth-denor 19-25 oed1. Ceri Haf Roberts2. Erin Fflur3. Kieron-Connor Valentine
51. Unawd Tenor 19-25 oed1. Ryan Vaughan Davies2. Dafydd Wyn Jones
52. Unawd Bariton/Bas 19-25 oed1. Emyr Lloyd Jones2. Dafydd Allen3. Rhodri Wyn Williams
53. Gwobr Goffa Osborne Roberts - Y Rhuban GlasRyan Vaughan Davies
54. Perfformiad unigol 19 oed a throsodd o gân o Sioe Gerdd1. Gwion Morris Jones2. Celyn Llwyd3. Huw Blainey4. Gwion Wyn Jones
55. Perfformiad unigol dan 19 oed o gân o Sioe Gerdd1. Owain John2. Gabriel Tranmer3. Lili Mohammad
56. Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd RobertsHuw Blainey
57. Unawd i Ferched 16-19 oed1. Glesni Rhys Jones2. Manon Ogwen Parry3. Llinos Haf Jones
58. Unawd i Fechgyn 16-19 oed1. Cai Fôn Davies2. Owain Rowlands3= Lewys Meredydd3= Elwyn Siôn Williams
59. Unawd i Ferched 12-16 oed1. Gwenan Mars Lloyd2. Lili Mohammad3. Erin Swyn Williams
60. Unawd i Fechgyn 12-16 oed1. Owain John2. Ynyr Lewis Rogers3. Osian Trefor Hughes
61. Unawd dan 12 oed1. Alwena Mair Owen2. Ioan Joshua Mabbutt3. Nia Menna Compton
62. Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano - Cystadleuaeth Goffa Eleri Evans1. Anne Collard
63. Grŵp Offerynnol Agored1. Pumawd Pres A52. Band Pres y Waen Ddyfal3. Band Cymunedol Melingriffith
64. Deuawd Offerynnol Agored1. Nia ac Anwen2. Heledd a Merin3. Cerys ac Erin
65. Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsoddCarys Gittins
66. Unawd Chwythbrennau 19 oed a throsodd1. Carys Gittins2. Carwyn Thomas3. Epsie Thompson
67. Unawd Llinynnau 19 oed a throsodd1. Ben Tarlton2. Saran Davies3. Mabon Jones
68. Unawd Piano 19 oed a throsodd1. Iwan Owen2. Endaf Morgan3=. Dominic Ciccotti3=. Rachel Starritt
69. Unawd Offerynnau Pres 19 oed a throsodd1. Peter Cowlishaw2. Pete Greenwood3. Merin Rhyd
70. Unawd Telyn 19 oed a throsodd1. Manon Browning2. Alis Huws3. Anwen Mai Thomas
71. Unawd Offeryn/nau Taro 19 oed a throsodd1. Heledd Gwynant
72. Rhuban Glas Offerynnol 16-19 oed1. Tomos Wynn Boyles
73. Unawd Chwythbrennau 16 ac o dan 19 oed1. Katie Bartels2. Daniel O'Callaghan3. Mali Gerallt Lewis
74. Unawd Llinynnau 16 ac o dan 19 oed1. Elliot Kempton2. Aisha Palmer3=. Eirlys Lovell-Jones3=. Osian Gruffydd
75. Unawd Piano 16 ac o dan 19 oed1. Tomos Wynn Boyles2. Bill Atkins3=. Glesni Rhys Jones3=. Medi Morgan
76. Unawd Offerynnau Pres 16 ac o dan 19 oed1. Gabriel Tranmer
77. Unawd Telyn 16 ac o dan 19 oed1. Aisha Palmer
79. Rhuban Glas Offerynnol dan 16 oed1. Charlotte Kwok
80. Unawd Chwythbrennau dan 16 oed1. Catrin Roberts2. Georgina Belcher3. Millie Jones
81. Unawd Llinynnau dan 16 oed1. Eddie Mead2. Felix Llywelyn Linden3=. Mea Verallo3=. Elen Morse-Gale
82. Unawd Piano dan 16 oed1. Charlotte Kwok2. Beca Lois Keen
83. Unawd Offerynnau Pres dan 16 oed1. Rhydian Tiddy2. Glyn Porter3=. Lisa Morgan3=. Alice Newbold
84. Unawd Telyn dan 16 oed1. Cerys Angharad2. Heledd Wynn Newton3=. Megan Thomas3=. Erin Fflur Jardine
85. Unawd Offeryn/nau Taro dan 16 oed1. Owain Siôn
86. Tlws y CerddorTim Heeley
87. Emyn-dônAnn Hopcyn
89. Darn i ensemble jazzGareth Rhys Roberts
90. Trefnu alaw werin Gymreig ar gyfer unrhyw gyfuniad o offerynnauGeraint Ifan Davies
91. Darn gwreiddiol i ensemble lleisiol tri llais fyddai'n addas ar gyfer disgyblion oedran cynraddMorfudd Sinclair
92. Cystadleuaeth i ddisgyblion 16 ac o dan 19 oedTwm Herd
93. Cystadleuaeth Tlws SbardunGwilym Bowen Rhys
Dawns
94. Cystadleuaeth Tlws Coffa Lois Blake1. Dawnswyr Nantgarw2. Dawnswyr Tawerin3. Cwmni Dawns Werin Caerdydd
95. Tlws Cymdeithas Ddawns Werin Cymru1. Dawnswyr Tawerin2. Dawnswyr Môn3. Dawnswyr Caerdydd 2
96. Parti Dawnsio Gwerin dan 25 oed1. Bro Taf2. Dawnswyr Penrhyd3. Disgyblion a chyn-ddisgyblion Ysgol Uwchradd Aberaeron
97. Dawns Stepio i Grŵp1. Bro Taf 12. Bro Taf 2
98. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio1. Daniel ac Osian2. Elen Morlais ac Ioan Wyn Williams3. Deuawd Trewen
99. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn 16 oed a throsodd1. Osian Gruffydd2. Daniel Calan Jones3. Trystan Gruffydd
100. Dawns Stepio Unigol i Ferched 16 oed throsodd1. Nia Rees2. Lois Glain Postle3. Lleucu Parri
101. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn1. Morus Caradog Jones2. Iestyn Gwyn Jones3. Ioan Wyn Williams
102. Dawns Stepio Unigol i Ferched dan 16 oed1. Elen Morlais Williams2. Mared Lloyd3. Celyn James
103. Props ar y Pryd (103) / Improv1. Ioan, Elen a Mali2. Trystan ac Osian3. Elwyn, Ella a Cadi4. Iestyn a Morus
105. Dawns Greadigol/Gyfoes Unigol1. Lowri Angharad Williams2. Branwen Marie Owen3. Nel Meirion
106. Dawns Greadigol/Gyfoes i Grŵp dros 4 mewn nifer1. Adran Amlwch2. Adran Rhosllanerchrugog3. E.K Wood Dance
107. Dawns Greadigol/Cyfoes i Bâr1. Lowrie a Jodie2. Caitlin ac Elin3. Cari Owen a Ffion Bulkeley
108. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd i rai 12 oed a throsodd1. Charlie Lindsay2. Kai Easter3. Catrin Jones
109. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd i rai dan 12 oed1. Lydia Grace Madoc2. Jodie Garlick3. Lowri Angharad Williams
110. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Bâr1. Charlie Lindsay a Megan Burgess2. Lowri a Jodie3. Caitlin ac Elin
111. Dawns Disgo, Hip Hop neu Stryd i Grŵp1. Hudoliaeth2. Heintys3. Jukebox Collective
Drama
112. Actio Drama neu waith dyfeisiedig1. Cwmni Criw Maes2. Cwmni Drama'r Gwter Fawr3. Cwmni Doli Micstiyrs
115. Deialog1. Anni a Begw2. Leisa Gwenllian a Lois Glain Postle3. Iestyn a Nye
116. Gwobr Richard Burton i rai rhwng 16 a 25 oedEilir Gwyn
117. Monolog i rai 12-16 oed1. Morgan Sion Owen2. Manon Fflur3. Zara Evans
120. Trosi i'r GymraegJim Parc Nest
121. Cyfansoddi dwy fonolog gyferbyniolJohn Gruffydd Jones
122. Cyfansoddi drama radio mewn unrhyw genreGareth William Jones
123. Ffilm fer ar unrhyw ffurf ddigidolIolo Edwards
124. Tlws Dysgwr y FlwyddynMatt Spry
Dysgwyr
125. Côr Dysgwyr rhwng 10 a 40 mewn nifer1. Côr Daw2. Côr Dysgwyr Sir Benfro3. Côr Dysgwyr Porthcawl
126. Llefaru Unigol 16 oed a throsodd (dysgwyr)1. Helen Evans
127. Parti Canu (dysgwyr)1. Parti Daw Naw2. Hen Adar Y Fenni3. Parti Canu'r Fro
128. Unawd (dysgwyr)1. Stephanie Greer2. Paula Denby3. Kathy Kettle
129. Llefaru Unigol 16 oed a throsodd: lefel Mynediad/Canolradd (dysgwyr)1. Lyn Bateman2. Helen Kennedy3. Alan Kettle
130. Sgets (dysgwyr)1. Dosbarth Hwyliog Caron
131. Cystadleuaeth Y GadairRosa Hunt
132. Cystadleuaeth Y Tlws RhyddiaithRosa Hunt
133. Llythyr i'w roi mewn capsiwl amserSue Hyland
134. Fy hoff ap / My favourite appAngela Taylor
135. Sgwrs rhwng dau berson dros y ffensKathy Sleigh
136. Darn i bapur bro yn hysbysebu digwyddiadTracy Evans
137. Gwaith grŵp neu unigolRebecca Edwards
138. Gwaith unigolSarah Williams
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
139. Y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg er AnrhydeddHefin Jones
140. Erthygl GymraegGwydion Jones
142. Gwobr Dyfeisio / ArloeseddCadi Nicholas
Llefaru
145. Côr Llefaru dros 16 mewn nifer1. Côr Sarn Helen2. Merched Eglwys Minny Street
146. Parti Llefaru hyd at 16 mewn nifer1. Parti Man a Man2. Merched Ryc a Rôl Clwb Rygbi Cymry Caerdydd3. Ail Wynt
147. Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn 21 oed a throsoddKaren Owen
148. Llefaru Unigol Agored1. Megan Llŷn2. Elliw Dafydd3. Siôn Jenkins
149. Cystadleuaeth Dweud Stori1. Eiry Palfrey2. Fiona Collins3. Ifan Wyn
150. Llefaru Unigol 16-21 oed1. Cai Fôn Davies2. Efa Prydderch3. Mali Elwy Williams
151. Llefaru Unigol 12-16 oed1. Non Fôn Davies2. Sophie Jones3. Nansi Rhys Adams
152. Llefaru Unigol dan 12 oed1. Betrys Llwyd Dafydd2. Beca Marged Hogg3. Elin Williams
153. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur 16 oed a throsodd1. Meleri Morgan2. Caryl Fay Jones3. Cai Fôn Davies
154. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur dan 16 oed1. Sophie Jones2. Morgan Sion Owen3. Owain John
Llenyddiaeth
157. Englyn unodl union: Llwybr Arfordir CymruR John Roberts
158. Englyn ysgafn: Cawdel/LlanastDai Rees Davies
160. Cywydd heb fod dros 14 o linellau: BaeDafydd Mansel Job
161. Soned: EsgidiauElin Meek
162. Filanél: BreuddwydHuw Evans
163. Pum triban i'r synhwyrauRhiain Bebb
164. Chwe limrigIdris Reynolds
165. Cyfansoddi cerdd i'w llefaru ar lwyfan gan bobl ifanc 12-16 oedJohn Gruffydd Jones
166. Deg cyfarchiad mewn cardiau ar gyfer amrywiaeth o achlysuronJohn Eric Hughes
168. Ysgoloriaeth Mentora Emyr FeddygGwynne Wheldon Evans
169. Gwobr Goffa Daniel OwenMari Williams
173. Stori fer: GofodDyfan Maredydd Lewis
174. Llên micro: GwestyMenna Machreth
175. Ysgrif: TrobwyntDyfan Maredydd Lewis
176. Dyddiadur dychmygol beirniad EisteddfodJohn Meurig Edwards
177. Casgliad o erthyglau i bapur broMeurig Rees
178. Casgliad o lythyron dychmygol mewn cyfnos o ryfelVivian Parry Williams
179. Taith dywys i gyflwyno ardalJohn Parry
180. Darn ffeithiol creadigolKate Woodward
181. Adolygiad o waith creadigolCiron Gruffydd
182. Casgliad o hyd at 30 o enwau lleoedd unrhyw ardal, pentref neu dref yng NghymruGerwyn James
183. Dwy erthygl, o leiaf 1000 o eiriau yr un, ar gyfer Y CasglwrHeather Williams
184. Cystadleuaeth i rai sydd wedi byw yn y Wladfa ar hyd eu hoes ac yn dal i fyw yn yr ArianninNantlais Evans
Eraill
Seremoni Cyflwyno Medal Syr T H Parry-Williams - er clodMeinir Lloyd, Caerfyrddin
Cyhoeddi enwau buddugwyr Tlysau Sefydliad y MerchedStondin ar Faes yr Eisteddfod:1. Cymorth Cristnogol2. British Heart Foundation Cymru
Gweler hefyd
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
- Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd – achlysuron eraill pan gynhaliwyd yr Eisteddfod yng Nghaerdydd