Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 ar 4–11 Awst 2012 ger hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen, Bro Morgannwg. Gwnaeth yr eisteddfod elw o £50,000.[3]

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012
 ← BlaenorolNesaf →

-

LleoliadGer hen faes awyr Llandŵ ger Y Bontfaen
Cynhaliwyd4–11 Awst 2012
ArchdderwyddJim Parc Nest
Daliwr y cleddyfRobin o Fôn
CadeiryddDylan Jones
LlywyddEuryn Ogwen Williams
Cost cynnal£3.4 miliwn[1]
Nifer yr ymwelwyr138,767[2]
Enillydd y GoronGwyneth Lewis
Enillydd y GadairDylan Iorwerth
Gwobr Daniel OwenRobat Gruffudd
Gwobr Goffa David EllisAnne Wilkins
Gwobr Goffa Llwyd o’r BrynAtal y wobr
Gwobr Goffa Osborne RobertsElgan Llyr Thomas
Gwobr Richard BurtonCeri Wyn
Y Fedal RyddiaithNeb yn deilwng
Medal T.H. Parry-WilliamsEirlys Jones Britton
Y Fedal DdramaBedwyr Rees
Tlws Dysgwr y FlwyddynIsaías Grandis
Tlws y CerddorGareth Olubunmi Hughes
Ysgoloriaeth W. Towyn RobertsElin Pritchard / Menna Cazel Davies
Medal Aur am Gelfyddyd GainCarwyn Evans
Medal Aur am Grefft a DylunioAnne Gobbs
Gwobr Ivor DaviesAnthony Rhys
Gwobr Dewis y BoblAlex Duncan
Ysgoloriaeth yr Artist IfancLaura Reeves
Medal Aur mewn PensaernïaethPenseiri HLM
Ysgoloriaeth PensaernïaethKatherine Jones Penarth / Owain Williams
Medal Gwyddoniaeth a ThechnolegJohn S. Davies
Gwefanwww.eisteddfod.org.uk
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
CystadleuaethTeitl y DarnFfugenwEnw
Prif Gystadlaethau
Y GadairLlanw"Owallt"Dylan Iorwerth
Y GoronYnys"Y Frân"Gwyneth Lewis
Y Fedal RyddiaithAtal y wobr
Gwobr Goffa Daniel OwenAfallon"Rhys"Robat Gruffudd

Paratoi

Targed y Gronfa Leol oedd £300,000 ac erbyn yr wythnos cyn yr Eisteddfod, roedd y Gronfa wedi cyrraedd £315,000.[4]

Y Lle Celf

Bu rhaid i’r Eisteddfod Genedlaethol roi gorchudd tros bedwar o luniau yn y Lle Celf am eu bod yn dangos lluniau o ferch a gafodd ei llofruddio a’r dyn ifanc oedd wedi ei lladd. Roedd teulu’r ferch, Rebecca Aylward, wedi cwyno ar ôl clywed am luniau'r artist David Rees Davies.[5] Fe ymddiheurodd yr artist i'r teulu.[6]

Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg

"Darganfod Gronynnau" oedd teitl prif arddangosfa Pafiliwn Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod eleni, mewn cydweithrediad gyda CERN ac Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe.

Gŵyl Dechnoleg Gymraeg ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2012

Yn ystod yr Ŵyl fe gynhaliwyd Gŵyl Dechnoleg Gymraeg y Maes, gyda lleoliad swyddogol ym mhabell Cefnlen tu cefn i'r Babell Lên. Gwahoddwyd criw Hacio'r Iaith i lenwi amserlen wythnos gyfan o weithgareddau.[7] Ymysg y gweithgareddau hyn fe gynhaliwyd cyflwyniadau amrywiol a gweithdai blogio, sut i greu apps, a sut i olygu'r Wicipedia Cymraeg. Fe ymwelodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog â'r babell, ynghyd â Leighton Andrews, aelod o gabinet Llywodraeth Cymru.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolen allanol