Eglwys Gadeiriol Casnewydd

eglwys gadeiriol yng Nghasnewydd

Eglwys gadeiriol Anglicanaidd a chanolfan Esgobaeth Mynwy yw Eglwys Gadeiriol Casnewydd. Fe'i lleolir yn Stow Hill, Casnewydd. Eglwys plwyf y dref ydoedd ynghynt, a phrif eglwys cantref Gwynllŵg cyn hynny. Fe'i chysegrir i Sant Gwynllyw, brenin a sant o'r 6g a roes ei enw i'r cantref.

Eglwys Gadeiriol Casnewydd
Mathcadeirlan Anglicanaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCasnewydd, Gwynllyw Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 11 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadStow Hill Edit this on Wikidata
SirCasnewydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr59 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.583°N 2.99858°W Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Gothig Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Cysegrwyd iGwynllyw Edit this on Wikidata
Manylion
EsgobaethEsgobaeth Mynwy Edit this on Wikidata

Yn ôl y chwedl sefydlodd Gwynllyw (tad Sant Cadog) ei eglwys ar ôl i angel ymddangos iddo mewn breuddwyd a'i orchmynu i droi at Gristnogaeth a chodi eglwys yn y fan lle deuai o hyd i ychen gwyn â smotyn du ar ei dalcen.[1] Sefydlwyd yr eglwys presennol gan y Sacsoniaid, ac yn yr 11g fe roddwyd i Abaty Caerloyw gan William Rufus, brenin Lloegr.[2] Roedd yr eglwys Sacsonaidd ar safle Capel Galilea presennol y gadeirlan (neu Capel y Santes Fair), sy'n dyddio o'r 13g. Adeilad Normanaidd yw corff yr eglwys, yn dyddio i tua'r 1140au.[2] Ceir bwa Romanésg addurnedig rhwng corff yr eglwys a Chapel Galilea; mae'r cerflunwaith ar bennau'r colofnau wedi denu llawer o sylw gan ysgolheigion.[3] Mae'r bedyddfaen hefyd yn cynnwys darn o gerflunwaith Normanaidd sy'n dyddio o bosib i tua 1120–1130. Fe'i gynllunir mewn arddull a adwaenir fel ysgol swydd Henffordd, sef asiad rhwng y traddodiad cerfio Celtaidd ac Eingl-Sacsonaidd a'r arddull Romanésg cyfandirol.[4] Dinistrwyd yr eglwys gan fyddin Owain Glyn Dŵr ym 1402. Mae'n debyg i'r tŵr gael ei adeiladau gan Siasbar Tudur, arglwydd Casnewydd o 1485 i 1495.[2]

Penodwyd Eglwys Sant Gwynllyw yn gadeirlan dros dro pan crëwyd Esgobaeth Mynwy ym 1921, ar ôl datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru, a daeth y statws hyn yn barhaol ym 1949. Er mwyn adlewyrchu'r dyrchafiad mewn statws dymchwelwyd y gangell Fictoraidd ac adeiladwyd un newydd i gynlluniau A. D. R. Caroe, rhwng 1961 a 1964.[5] Ym 1951 penodwyd y gadeirlan yn adeilad rhestredig Gradd I.[6]

Llyfryddiaeth

  • Lord, Peter (2003). Gweledigaeth yr Oesoedd Canol. Diwylliant Gweledol Cymru. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.CS1 maint: ref=harv (link)
  • Newman, John (2000). Gwent/Monmouthshire. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin.CS1 maint: ref=harv (link)

Cyfeiriadau