Economeg ymddygiadol

Mae economeg ymddygiadol yn adeiladu ar economeg draddodiadol sydd yn credu bod bodau dynol yn dod i benderfyniad rhesymegol sydd o fudd iddynt wrth bwyso a mesur gwybodaeth. Mae economeg ymddygiadol yn adnabod ffactorau cymdeithasol, seicolegol, amgylcheddol a chyd-destunol sydd yn dylanwadu ar ymddygiad pobl.[1][2]

Er mwyn adnabod ffiniau cyd-destun a mathau o ymddygiadau penodol. Gwahaniaethir rhwng damcaniaethau o newid—sydd yn egluro newid mewn ymddygiad, â modelau o ymddygiad—sydd yn egluro’r ffactorau seicolegol i egluro neu ragdybio ymddygiad penodol.[3][4]

Daniel Kahneman, enillydd Gwobr Economeg Nobel, 2002

Damcaniaeth argoeli

Mae’r ddamcaniaeth hon yn canolbwyntio ar yr hyn sydd i’w ennill neu i’w golli o berfformio gweithred yn hytrach na chanolbwyntio ar ragdybiaeth ymddygiadol. Disgrifia damcaniaeth argoeli y modd y dewisa pobl rhwng mwy nag un tebygolrwydd a gynhwysai risg, a lle mae canlyniadau’r tebygolrwydd yn wybyddus. Yn ôl damcaniaeth argoeli nid yw unigolion yn seilio eu dewisiadau ar ganlyniad terfynol ond ar botensial gwerth colledion a buddion, sydd yn seiliedig ar ddychmygu, cofio a thebygrwydd. Mae unigolion yn defnyddio hewristig penodol i bwyso a mesur y colledion a’r buddion hynny.

Cyfeiriadau