Diogelwch cenedlaethol

Cynnal goroesiad y genedl wladwriaeth, trwy ddefnydd grym economaidd, milwrol a gwleidyddol a gweithrediad diplomyddiaeth, yw diogelwch cenedlaethol.

Mae mesurau a gymerir i sicrhau diogelwch cenedlaethol yn cynnwys:

  • defnyddio diplomyddiaeth i adfyddino cynghreiriaid a neilltuo bygythiadau
  • cynnal lluoedd arfog effeithiol
  • gweithredu mesurau amddiffyn sifil a pharodrwydd argyfwng (yn cynnwys deddfwriaeth wrth-derfysgol)
  • defnyddio gwasanaethau gwybodaeth i ddatgelu a threchu neu atal bygythiadau ac ysbïwriaeth, ac i ddiogelu cudd-wybodaeth
  • defnyddio gwasnaethau gwrth-ysbïo neu heddlu cudd i ddiogelu'r wlad o fygythiadau mewnol