Deiseb

Cais ffurfiol a arwyddwyd gan nifer o bobl i'w gyflwyno i unigolyn neu gorff awdurdodol yw deiseb.[2] Mynegiant o farn neu ewyllys y bobl yw'r ddeiseb a'i nod yw pwyso ar y derbynnydd i ateb cwyn neu wneud iawn am gam, i bleidleisio neu weithredu mewn ffordd arbennig, neu fel arall i dynnu ei sylw at fater arbennig. Mae'r hawl i ddeisyfu ar y llywodraeth yn iawnder dinesig ac yn agwedd sefydledig o'r drefn ddemocrataidd mewn nifer o wledydd.[3]

Deiseb Hui Hawaii Aloha Aina (Cynghrair Gwladgarol Hawaii) a arwyddwyd gan y mwyafrif o frodorion Hawaii i wrthwynebu cyfeddiannu'r ynysoedd yn rhan o'r Unol Daleithiau.[1]

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.