Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2018–19

Cynghrair y Pencampwyr UEFA 2018–19 oedd 64fed tymor twrnamaint pêl-droed pennaf Ewrop a drefnwyd gan UEFA, a'r 27ain tymor ers iddo gael ei ailenwi o Gwpan Pencampwyr Ewrop i Gynghrair y Pencampwyr UEFA .

Chwaraewyd y rownd derfynol yn stadiwm y Wanda Metropolitano ym Madrid, Sbaen, rhwng Tottenham Hotspur a Lerpwl . Hon oedd yr ail rownd derfynol i gynnwys dau dîm Saesneg, ar ôl rownd terfynol 2008, a gafodd ei herio rhwng Manchester United a Chelsea ym Moscow.[1] Enillodd Lerpwl 2–0, yn ennill y gystadleuaeth am y 6ed tro yn hanes y clwb.

Am y tro cyntaf, defnyddiwyd y system dyfarnwr cynorthwy-ydd fideo (VAR) yn y gystadleuaeth o'r rownd o 16 ymlaen.[2]

Real Madrid oedd wedi ennill pob un o'r tri theitl diwethaf. Cawsant eu curo gan Ajax yn y rownd o 16 eleni.[3][4]

Cyfeiriadau