Cyfwisg
- Erthygl
- Sgwrs
Blwch offer
Gweithredoedd
Cyffredinol
Argraffu / allforio
Mewn prosiectau eraill
Dilledyn yw cyfwisg[1] neu ategolion[2] sy'n ategu ac yn cyflenwi gwisg gyflawn.[3] Mae bagiau, menyg, hetiau ac yn y blaen i gyd yn gyfwisgoedd.
Yn yr Oesoedd Canol arferid gwisgo gemwaith hardd gan ddynion a merched e.e. broetshis, breichledau a modrwyau a oedd yn cynnwys gleiniau lliwgar, a wnaed o aur neu arian. Roedd yn ddull o arddangos cyfoeth a statws cymdeithasol yr unigolyn.
Ategolyn angenrheidiol arall yn y cyfnod hwn oedd y pwrs a chanodd Guto’r Glyn ddau gywydd i ddiolch am byrsau a gafodd yn rhoddion gan ei noddwyr.