Cwpan Hwngari

cwpan pêl-droed Hwngari

Cwpan Hwngari, (Hwngareg Magyar Kupa), yw'r gystadleuaeth gwpan genedlaethol ar gyfer timau clwb yn Hwngari. Trefnir hi gan Ffederasiwn Pêl-droed Hwngari (yn Magyar, Labdarúgó Szövetség) a sefydlwyd yn 1909-10, gyda'r ffeinal ym mis Medi 1019 rhwng MTK Budapest a Budapesti TC, gydag MTK yn ennill 4-1 yn y gêm ail-chwarae oherwydd mai 1-1 oedd sgôr y gêm gyntaf. Roedd hyn wyth mlynedd wedi i'r Ffederasiwn gynnal Cynghrair pêl-droed y wlad yn 1901.

Tlws y Magyar Kupa, 2016

Yn ogystal â chlybiau proffesiynol Hwngari, bydd nifer o glybiau amatur yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth. Bydd rhaid i'r clybiau llai hyn ennill rowndiau lleol cyn cyrraedd cymalau cenedlaethol.

Hanes

Arfbais Ferencvarosi T.C., tîm mwyaf llwyddiannus y Gwpan

Bu'n rhaid aros nes 1930 am y tro cyntaf i dîm o'r tu allan i'r brifddinas, Budapest ennill y ffeinal. Y tîm hwnnw oedd Bocskai FC o ddinas Debrecen.

Ar rhai adegau yn ei hanes, methwyd a chynnal y gystadleuaeth. Digwyddodd hyn yn 1956, oherwydd Gwrthryfel gwrth-Gomiwnyddol Hwngari y flwyddyn honno. Bu'n rhaid cynnal y rownd derfynol yn 1958 oherwydd hynny. Yn 1977 bu'n rhaid ail-chwarae'r ffeinal bedair gwaith. Rhwng 1993 ac 1997 ac yna eto yn 2008 a 2009 bu'n rhaid chwarae ail gêm oherwydd nid oedd enillydd y tro cyntaf.

Cwpan Newydd

Yn 2017-08 cyflwynwyd cystadleuaeth cwpan newydd, sef y Ligakupa ("Cwpan y Gynghrair").

Llwyddiant

Y clwb mwyaf llwyddiannus yn y gystadleuaeth hon yw Ferencvárosi T.C. sydd wedi ennill 23 gwaith. Yr ail dîm mwyaf llwyddiannus yw Budapest FC MTK gyda 12 teitl. Deiliad presennol y teitl (2018) yw Újpest Budapest.

Rhestr Enillwyr Cwpan Hwngari

ClwbEnnillAilBlwyddyn
Ferencvárosi T.C. (gelwir hefyd yn Ferencváros)2391913, 1922, 1927, 1928, 1933, 1935, 1942, 1943, 1944, 1958, 1972, 1974, 1976, 1978, 1991, 1993, 1994, 1995, 2003, 2004, 2015, 2016, 2017
MTK Budapest F.C. (MTK Hungária)1231910, 1911, 1912, 1914, 1923, 1925, 1932, 1952, 1968, 1997, 1998, 2000
Újpest F.C. (Újpest Dózsa)1071969, 1970, 1975, 1982, 1983, 1987, 1992, 2002, 2014, 2018
Budapest Honvéd F. C. (Kispest)7101926, 1964, 1985, 1989, 1996, 2007, 2009
Debreceni V.S.C.621999, 2001, 2008, 2010, 2012, 2013
Győri ETO F.C.441965, 1966, 1967, 1979
Vasas Budapest S.C.441955, 1973, 1981, 1986
Diósgyőri V.T.K.241977, 1980
Videoton F. C. (F. C. Fehérvár)142006
Pécsi Mecsek F. C.121990
Bocskai FC Debrecen1-1930
III. Kerületi TVE1-1931
Soroksár Erzsébet1-1934
Szolnoki MÁV1-1941
Siófoki Bányász1-1984
Békéscsaba Előre S. C.1-1988
MATÁV Sopron1-2005
Kecskeméti TE1-2011
Salgótarján
-
4
Szombathelyi Haladás
-
3
Tatabánya F. C.
-
3
Dunakanyar-Vác F. C.
-
3
Budapesti Vasutas Sport Club
-
2
Komlói Bányász S. K.
-
2
Magyar A. C.
-
2
Miskolci Attila A. K.
-
1
Budapesti A. K.
-
1
Szegedi Bástya A. K.
-
1
Budapesti E. A. C.
-
1
BKV Előre S. C.
-
1
Budapesti T. C.
-
1
Dorogi F. C.
-
1
Zalaegerszeg T. E.
-
1
Kolozsvár
-
1
Puskás Akadémia F. C.
-
1

Cyfeiriadau

Dolenni allanol