Crumblowers

band o Gymru

Roedd y Crumblowers yn fand Cymraeg o faestref Yr Eglwys Newydd yng Gaerdydd oedd yn perfformio a recordio yn yr 1980au hwyr a 1990au cynnar.[1] oedd y Crumblowers. Roeddynt i gyd yn heblaw Dave Rizzo, yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ysgol gyfun Gymraeg gyntaf Caerdydd. Aeth Owen Powell ymlaen i fod yn aelod o'r grŵp Catatonia a lwyddodd i gyrraedd y brig yn y byd canu Saesneg. Er mai enw Saesneg oedd y Crumblowers (a sillafwyd weithiau fel Crymblowers) yn y Gymraeg oeddynt yn canu. Roedd Owen a Lloyd Powell yn ddau frawd. Roedd y Crumblowers yn rhan o don o grwpiau Cymraeg ddaeth o Ysgol Glantaf gan ddechrau gydag U Thant ac yna Edrych am Jiwlia, Hanner Pei, Bili Clin, Cofion Ralgex a mwy. Bu Siôn Lewis yn gitarydd achlysurol i'r band.

Crumblowers
Y Crumblowers yn perfformio yn Clwb Ifor Bach oddeutu 1989
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata

Aelodau

  • Owen Powell[2] (llais)
  • Lloyd Powell[2]
  • Owen Stickler (drymiau)
  • Lloyd Mahoney (gitâr)
  • Dave Rizzo (bâs)
  • Siôn Lewis (gitâr) aelod achlysurol

Recordiau

Llithro Mewn i Ffantasi (EP), 1989[3]

Colossus (Sengl), 1990[3]

Dolenni

Cyfeiriadau


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.