Math o grwst menynaidd a haenog yw croissant. Mae'n tarddu o Awstria a'i enw'n cyfeirio at ei siâp cilgant nodweddiadol. Mae croissants yn cael eu gwneud o haenau toes sydd wedi'i lefeinio â burum. Mae'r toes yn cael ei haenu â menyn, ei rolio a'i blygu sawl gwaith, ac yna ei rolio yn ddalen, gan ddefnyddio techneg sy'n cael ei galw'n lamineiddio. Mae'r broses yn arwain at wead haenog, yn debyg i grwst pwff.
Roedd bara siâp cilgant yn cael ei wneud ers cyfnod y Dadeni, ac mae'n bosib bod cacennau siâp cilgant yn dyddiol yn ôl i'r henfyd.[1] Mae Croissants wedi cael ei gynhyrchu ym mhoptai a phâtisseries Awstria a Ffrainc ers amser maith. Yn niwedd y 1970au, roedd datblygiad toes a oedd wedi'i gynhyrchu mewn ffatrïoedd, a croissants a oedd wedi'i paratoi o flaen llaw yn barod i'w pobi ac y gellid eu rhewi, yn galluogi iddynt gael eu gwerthu fel bwyd cyflym y gellid ei bobi yn ffres. Roedd y croissanterie yn ymateb Ffrengig i fwyd cyflym Americanaidd,[2] ac o 2008 ymlaen roedd 30-40% o'r croissants a werthwyd mewn poptai Ffrengig a patisseries yn cael eu pobi o does a oedd wedi'u dadrewi.[3]
Roedd y kipferl, rhagflaenydd i'r croissant, yn cael ei goginio yn Awstria cyn o leiaf y 13g.[4] Mae rhai Eifftiaid yn honni y gall y kipferl fod wedi tarddu yn ei dro o'r meshaltet feteer, crwst a fyddai'n gyfarwydd i'r Eifftiaid.[5][6]
Gellir dyddio tarddiad y croissant ei hun hyd at o leiaf 1839 (1838, yn ôl rhai) pan sefydlodd Awst Zang, swyddog magnelau ym myddin Awstria, bopty Fiennaidd ("Boulangerie Viennoise") yn 92, rue de Richelieu ym Mharis. Daeth y becws hwn, a oedd yn pobi rhai danteithion o Fienna gan gynnwys y kipferl a'r dorth Fiennaidd, yn boblogaidd tu hwnt, ac ysbrydolwyd nifer o fusnesau eraill a oedd yn ei efelychu. Mae'r cyfeiriadau cynharaf at croissants (sy'n hysbys, o leiaf) yn y 1850au cynnar, ond ni cheir unrhyw rysáit wedi'i argraffu ar gyfer y croissant yn y ffurf sy'n gyfarwydd heddiw mewn unrhyw lyfr ryseitiau Ffrengig cyn dechrau'r 20g.[7]