Comisiwn Ewropeaidd

Adran weithredol yr Undeb Ewropeaidd yw'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae José Manuel Durão Barroso yn Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ers 2004. Mae'r Comisiwn yn awgrymu a gweithredu deddfwriaeth ac mae'n hollol annibynnol. Mae wedi ei leoli ym Mrwsel.

Comisiwn Ewropeaidd
Enghraifft o'r canlynolinstitution of the European Union Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Ionawr 1958 Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadRhestr Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCouncil of the Baltic Sea States, Group on Earth Observations, Global Ecolabelling Network, Barents Euro-Arctic Council, Coalition for Advancing Research Assessment Edit this on Wikidata
Gweithwyr32,399 Edit this on Wikidata
Isgwmni/auEuropean Education and Culture Executive Agency (EACEA), Consumer, Health and Food Executive Agency, Directorate-General for International Cooperation and Development, Directorate-General for Energy, European Structural and Investment Funds, Directorate-General for Economic and Financial Affairs, Eurostat, Directorate-General for Interpretation, Directorate-General for Maritime Affairs and Fisheries, Directorate-General for Taxation and Customs Union, Directorate-General for European Neighbourhood and Enlargement Negotiations, Directorate-General for Trade, Water Europe, Directorate-General for Health and Food Safety, Directorate-General for Justice and Consumers, Directorate-General for Education, Youth, Sport and Culture, Directorate-General for Research and Innovation, Radio Spectrum Policy Group Edit this on Wikidata
Rhiant sefydliadyr Undeb Ewropeaidd Edit this on Wikidata
PencadlysDinas Brwsel Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwlad Belg Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://ec.europa.eu/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cyfrifoldebau'r Comisiwn

  • Mae'r Comisiwn yn awgrymu cyfreithiau newydd a yrrir i'r Senedd Ewropeaidd a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd.
  • Am ei fod yn adran weithredol mae'r Comisiwn yn arolygu gweithredu cyfraith Ewropeaidd, y gyllideb a'r rhaglenni y mae'r Senedd a'r Cyngor wedi cytuno arnynt.
  • Mae'n gyfrifol am y cytundebau ac mae'n cydweithio gyda Llys Cyfiawnder Ewrop wrth archwilio i sicrhau bod pawb yn cadw cyfraith yr UE.
  • Mae'n cynrhychioli'r UE ar lefel rhyngwladol ac mae'n gwneud cytundebau gyda gwledydd eraill y tu allan i'r Undeb, yn bennaf ar gyfer masnach a chydweithrediad rhyngwladol.

Apwyntiadau a strwythur

Ar hyn o bryd mae 27 o gomisiynwyr, un o bob aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae portffolio polisi gan bob comisiynydd ac maent i gyd yn atebol i'r Senedd yn unig.

Mae Cyngor yr Undeb Ewropeaidd yn dewis Llywydd y Comisiwn ac mae'n rhaid i Senedd Ewrop ei gymeradwyo. Mae'r aelod-wladwriaethau yn enwebu'r comisiynwyr eraill ac wedyn mae'n rhaid fod y Senedd yn cymeradwyo'r Comisiwn.

Gall y Senedd orfodi ymddiswyddiad y Comisiwn cyfan trwy bleidlais o ddiffyg hyder.

Y Comisiynwyr presennol yw:

EnwPortffolio
José Manuel BarrosoLlywydd
Margot WallströmIs-Lywydd; Cysylltiadau Sefydliadol a Strategaeth Cyfathrebu
Günter VerheugenIs-Lywydd; Menter a Diwydiant
Jacques BarrotIs-Lywydd; Trafnidiaeth
Siim KallasIs-Lywydd; Materion Gweinyddol, Archwilio a Gwrth-dwyll
Franco FrattiniIs-Lywydd; Cyfiawnder, Rhyddid a Diogelwch
Viviane RedingCymdeithas Wybodaeth a Chyfryngau
Stavros DimasAmgylchedd
Joaquín AlmuniaMaterion Economaidd ac Ariannol
Danuta HübnerPolisi Rhanbarthol
Joe BorgPysgodfeydd a Materion Morol
Dalia GrybauskaitėRhaglennu Ariannol a'r Gyllideb
Janez PotočnikGwyddoniaeth ac Ymchwil
Ján FigeľAddysg, Hyfforddiant, Diwylliant ac Ieuenctid
Markos KyprianouIechyd
Olli RehnEhangu
Louis MichelDatblygu a Chymorth Dyngarol
László KovácsTrethiant ac Undeb Tollau
Neelie KroesCystadleuaeth
Mariann Fischer BoelAmaethyddiaeth a Datblygu Gwledig
Benita Ferrero-WaldnerCysylltiadau Allanol a Pholisi Cymdogaeth Ewropeaidd
Charlie McCreevyMarchnad Fewnol a Gwasanaethau
Vladimír ŠpidlaCyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chyfle Cyfartal
Peter MandelsonMasnach
Andris PiebalgsYnni
Meglena KunevaDiogelu'r Defnyddiwr
Leonard OrbanAmlieithrwydd

Gweler hefyd

Dolenni allanol